Astudio Ôl-radd
Mae gan yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol enw da am hyfforddiant athrawon
Mae gan yr Ysgol hefyd bartneriaethau efo ysgolion Cynradd ac Uwchradd i ddarparu amgylcheddau hyfforddi amrywiol a chefnogol. O dan oruchwyliaeth staff brwdfrydig, mae’r Ysgol hefyd yn darparu ystod eang o gyrsiau blaengar sy’n arwain at ystod o gymwysterau ôl-radd.
Astudiaethau Ôl-raddedig trwy ddysgu
Dewch i wybod mwy am Addysg neu Addysgu fel meysydd pwnc a gweld ein cyrsiau.
Ymchwil Ôl-raddedig
Dewch i wybod mwy am Addysg fel maes pwnc ymchwil a gweld ein cyrsiau.
CaBan Bangor
Mae’n amser gwych i ddod i astudio i fod yn athro yng Nghymru. Mae Addysg yng Nghymru yn dechrau cyfnod newydd cyffrous, wrth ddatblygu cwricwlwm o’r radd flaenaf i ysgolion. Mae Prifysgol Bangor, gyda’i henw da hirsefydlog a rhagorol am hyfforddiant ac addysg athrawon, wedi creu partneriaeth gydag ysgolion o ansawdd uchel yng ngogledd Cymru a chyda GwE, y consortia rhanbarthol, i greu cyfres o raglenni addysg athrawon o ansawdd uchel trwy CaBan Bangor.