Newyddion Diweddaraf
Athro ym Mangor ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
Bydd Yr Athro Sandy Toogood, Athro er Anrhydedd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor wedi ei gynnwys ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd a bydd yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am wasanaethau i bobl ag anableddau deallusol.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Rhagfyr 2020
Dyfarnu Ysgoloriaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2020/21
Dyfarnwyd tair 'Ysgoloriaeth Gydraddoldeb ac Amrywiaeth' i raddedigion eithriadol 2020 Prifysgol Bangor - Georgina Sidley-Brooks, Olaitan Olawande ac Abi Cousins. Bydd yr ysgoloriaethau, sy'n talu ffioedd llawn y cyrsiau, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent bellach wedi cofrestru ar gyrsiau ôl-radd ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2020
Cymorth i Fyfyrwyr Newydd
Croeso i Brifysgol Bangor
Dyma ychydig o wybodaeth a allai fod o ddefnydd i chi;
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2020