Dyfodol disglair mewn maes dylunio
Ceri Mair JonesMae merch o Abergele edrych ymlaen at ddechrau ei gyrfa newydd wedi iddi dderbyn gradd dosbarth cyntaf mewn BSc Dylunio Cynnyrch.
Yn ogystal â hyn, derbyniodd Ceri Mair Roberts Wobr Lloyd Jones am Fentergarwch ac Arloesedd yn ei blwyddyn olaf. Cafodd y Wobr ei sefydlu gan Mr Lloyd Jones, dyn busnes llwyddiannus o Ogledd America. Ei nod yw i hyrwyddo a chefnogi Mentergarwch ymysg myfyrwyr Prifysgol Bangor.
Roedd gan Ceri, 21, ddiddordeb mewn dylunio a chreu crefftau’n ifanc ac yn cystadlu’n gyson yn y gymuned a sioeau gwledig.
“Astudiais Dylunio a Thechnoleg drwy gydol fy amser yn yr ysgol ac fy athro yn Ysgol Dyffryn Conwy â wnaeth fy ysbrydoli i mi gario ‘mlaen gyda’r pwnc. Gan fy mod yn mwynhau creu, cafodd fy mhrosiectau Dylunio a Thechnoleg TGAU a Lefel A eu cydnabod fel rhai arloesol o’r flwyddyn mewn cystadleuaeth gyda CBAC.”
Penderfynodd Ceri ddod i Fangor gan fod opsiwn i gyflawni’r gradd drwy’r gyfrwng Gymraeg. Ni wnaeth Ceri weithio tra’n astudio gan ei bod yn teimlo fod gwaith gradd yn ddigon yn ystod y tymor addysg. Ond roedd gwyliau’r haf yn amser delfrydol i allu cael profiadau o ddysgu’n y diwydiant ac ehangu sgiliau.
Esboniodd Ceri:
“Mi nes i weithio yn ystod tymor y gwyliau mewn cwmnïau sy’n gysylltiedig â dylunio a gweithgynhyrchu er mwyn cael profiadau gyda gwahanol ddeunyddiau a thechnegau i fy helpu gyda’r cwrs.
“Fy mhrosiect blwyddyn olaf oedd prosiect byw gyda chwmni profiad gwaith Cutting Technologies. Mi wnes i ddylunio cyfres o sgriniau panel addurniadol er mwyn rhannu ystafelloedd i ardaloedd fwy penodol ac i ychwanegu dodrefn ac eitemau addurnedig i lefydd. Gellir eu defnyddio mewn swyddfeydd neu ardaloedd cyhoeddus. Cefais y cyfle i fynd yn ol at y cwmni i weithgynhyrchu y sgriniau.
“Rwy’n hapus fy mod wedi cyflawni’r dair mlynedd ac wedi derbyn gradd dosbarth cyntaf mewn Dylunio Cynnrych. Mae’n braf cael gwybod fod yr holl waith wedi bod o werth gyda chanlyniad anghygoel!”
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015