Holl Newyddion A–Y
£1.8m ar gyfer yr adnodd ar-lein i roi sylw i Gymraeg cyfoes ar raddfa fawr
Fel awdurdod blaenllaw ar dechnolegau iaith Gymraeg, bydd Prifysgol Bangor y cymryd rhan mewn prosiect aml-sefydliad i ddatblygu'r corpws torfol cyntaf erioed i gofnodi a hysbysu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol yr iaith Gymraeg .
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2015
Academyddion y Coleg yn derbyn grantiau Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC
Mae'n bleser mawr gan y Cyfarwyddwr Ymchwil gyhoeddi llwyddiant nifer o gydweithwyr ar draws y Coleg Busnes, Y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas sydd wedi ennill grantiau Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2016
Addysg Athrawon CaBan ym Mhrifysgol Bangor yn ennill achrediad 5 mlynedd cenedlaethol arbennig iawn
Mae rhaglenni Addysg Athrawon Bangor ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn achrediad i ddarparu addysg gychwynnol athrawon (AGA) am y 5 mlynedd nesaf. Mae'r achrediad yn cynnwys llwybr traws gyfnod arloesol ar gyfer athrawon cyfrwng Cymraeg sy'n rhoi profiad o'r cyfnodau Cynradd ac Uwchradd i ddarpar athrawon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2020
"Advances In The Study Of Bilingualism"
Newydd – "Advances In The Study Of Bilingualism" Mae'r llyfr hwn yn darparu dull cyfoes i astudio dwyieithrwydd. Mwy o wybodaeth...
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2014
Arbenigwyr a disgyblion ysgolion lleol i gyd-drafod Argyfwng Hinsawdd
Mae Prifysgol Bangor yn croesawu disgyblion o ysgolion lleol i Uwchgynhadledd yr Ifanc ar Newid Hinsawdd i'w chynnal yn y Brifysgol heddiw.
Wedi i’r Brifysgol ymuno â'r nifer o sefydliadau ledled y byd drwy ddatgan argyfwng hinsawdd yn ddiweddar, mae'r Brifysgol yn awyddus i weithio ar ddatrusiad ac mae’n angenrheidiol gwneud hynny ar y cyd â phlant a phobl ifanc Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019
Arbenigwyr Prifysgol yn croesawu camau i atal chwant bwyd ymysg plant
Mae arbenigwyr addysg o Brifysgol Bangor wedi croesawu mentrau fel Rhaglen Newyn Gwyliau (Holiday Hunger) Cyngor Sir y Fflint, sy'n ceisio rhoi sylw i dlodi sy'n gysylltiedig â chwant bwyd tu allan i adegau tymor ysgolion.
Mae ymchwil ddiweddar gan Brifysgol Bangor i effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad academaidd plant mewn ysgolion gwledig yng Nghymru wedi dangos bod chwant bwyd yn effeithio ar lefelau canolbwyntio plant mewn ysgolion cynradd yn arbennig, a bod hyn yn lleihau i ryw raddau mewn ysgolion uwchradd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2018
Arbrawf arloesol mewn gofal sy’n pontio cenedlaethau
Gyda chynnydd ym mhoblogaeth pobl hŷn, y pwysau sydd ar arian cyhoeddus a chostau gofal plant, does ryfedd bod ymchwil cynyddol i mewn i ffyrdd newydd o ddarparu gofal.
Mae bron i 625,000 o bobl hŷn dros 65 mlwydd oed yng Nghymru. Darganfuwyd adroddiad diweddar gan The Family and Childcare Trust bod dros 6.4 miliwn o bobl 65 oed a throsodd ym Mhrydain yn byw mewn ardaloedd sydd ddim gyda digon o ofal pobl hŷn i ateb y galw.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2016
Arloesi amlddisgyblaethol mewn twristiaeth antur ym Mhrifysgol Bangor yn dod â llesiant i ogledd Cymru.
Mae Menter trwy Ddylunio yn dychwelyd yn 2018 gyda'r seithfed gystadleuaeth flynyddol, ac mae'r tîm buddugol newydd ennill siec am £2,500. Mae'r her yn dod â myfyrwyr o feysydd Seicoleg, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg, Busnes, Dylunio Cynnyrch ac Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau at ei gilydd i weithio mewn timau amlddisgyblaethol. Eu nod yw creu cynnyrch neu wasanaeth ar gyfer busnesau lleol dros gyfnod o 8 wythnos.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2018
Athro o Fangor yn ennill Medal Hugh Owen
Dyfarnwyd Medal Hugh Owen Cymdeithas Ddysgedig Cymru i’r Athro Enlli Thomas, Athro a Chyfarwyddwr Ymchwil ac Effaith, yr Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor, am gyfraniadau i ymchwil addysgol, i gydnabod ei harbenigedd ar y Gymraeg, dwyieithrwydd ac astudiaethau mewn addysgu, dysgu a defnyddio’r Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019
Athro ym Mangor ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
Bydd Yr Athro Sandy Toogood, Athro er Anrhydedd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor wedi ei gynnwys ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd a bydd yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am wasanaethau i bobl ag anableddau deallusol.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Rhagfyr 2020
Bangor yn uwch na Manceinion, Lerpwl a phrifysgolion eraill o ran profiad myfyrwyr
Rhoddwyd Prifysgol Bangor yn 18fed allan o 111 o brifysgolion y Deyrnas Unedig o ran profiad myfyrwyr mewn arolwg gan grŵp 'Times Higher Education'.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2014
Bangor yn ymuno â threial Microsoft byd-eang
Mae dull addysgu’r brifysgol, sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn eu hannog i ddangos menter, wedi arwain at ddyfarnu safon Aur i’r brifysgol am addysgu. Caiff y dull hwnnw ei adlewyrchu mewn project newydd.
Mae’r Ysgol Addysg yn cydweithio gyda Microsoft i alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddod yn ddinasyddion digidol yr unfed ganrif ar hugain. Bangor yw’r unig brifysgol yng Nghymru, ac un o ddim ond tair prifysgol yn y Deyrnas Unedig, i beilota defnyddio deunyddiau Microsoft Education yn un o’n cyrsiau.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2017
Blwyddyn lwyddiannus i Nia
Mae merch sy’n mwynhau gweithio a phlant oed Cynradd wrth ei bodd gyda’i swydd newydd.
Eleni fe raddiodd Nia Prichard Williams, 28, o Flaenau Ffestiniog sydd yn wreiddiol o Borthmadog, gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Plentyndod ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2013
Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor
Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf
Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Coming of age in 2020 – the summer without exams or school proms
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw a Gwyndaf Roberts o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2020
Croesawu ein myfyrwyr
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2019
Cwrs Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor yn ystod cyfyngiadau symud cyfredol COVID-19
Mae cyfyngiadau symud cyfredol COVID-19 wedi rhoi terfyn ar ddysgu wyneb yn wyneb mewn Prifysgolion. Mae cyrsiau dylunio wedi canslo digwyddiadau fel Sioeau Gradd Dylunio, ac mae Prifysgol Bangor hefyd wedi canslo Cynhadledd Ddylunio flynyddol hynod Bangor i fyfyrwyr y graddau BSc Dylunio Cynnyrch a'r MSc Dylunio ac Arloesi, sy'n dod ag arbenigwyr o'r diwydiant a myfyrwyr ynghyd. Golygai hynny fod y myfyrwyr yn colli allan ar elfen allweddol o brofiad y myfyrwyr a'r dysgu.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2020
Cyfle i ddylunwyr ifanc arddangos eu gwaith
Mewn menter newydd, mae Prifysgol Bangor wedi rhoi cyfle i ysgolion lleol ddangos gwaith gan eu dylunwyr gorau mewn Arddangosfa Dylunio a Thechnoleg arbennig.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2017
Cyflwyno 'Cefnogaeth Weithredol' ar gyfer disgyblion ag Anableddau Deallusol ac Awtistiaeth i athrawon lleol
Ymunodd 125 o staff o Antur Waunfawr, Ysgol Hafod Lon ac Ysgol Pendalar â staff academaidd o Ysgol Addysg a Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor yn ddiweddar ar gyfer digwyddiad hyfforddi yn cyflwyno 'Cefnogaeth Weithredol'.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2019
Cyflwyno Pennaeth newydd yr Ysgol
Cyhoeddir yr Athro Enlli Môn Thomas fel Pennaeth newydd Ysgol Addysg Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2015
Cymorth i Fyfyrwyr Newydd
Croeso i Brifysgol Bangor
Dyma ychydig o wybodaeth a allai fod o ddefnydd i chi;
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2020
Cynhadledd Sefydliad Ffiseg 2012
Cynhelir y gynhadledd flynyddol y Sefydliad Ffiseg ar y 19 o Fehefin 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2012
Dagrau a chwerthin wrth i'r hen a'r ifanc rannu profiadau
Dros y misoedd diwethaf, mewn canolfannau gofal ar draws Cymru, mae arbrawf cymdeithasol arloesol wedi digwydd - a bydd y canlyniadau'n siŵr o syfrdanu.
Mewn cyfres newydd o dair rhaglen emosiynol ar S4C, sy'n dechrau nos Sul, 10 Rhagfyr, mae Hen Blant Bach yn ymchwilio i beth all ddigwydd pan mae chwech o blant bach yn rhannu eu gofal dydd gyda chriw o bensiynwyr - a'r effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017
Da iawn Dinah!
Mae cynllun Arweinwyr Cyfoed arloesol Prifysgol Bangor yn galluogi myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn i gefnogi myfyrwyr newydd. Mae wedi bod yn rhedeg ers dros 20 mlynedd ac mae'n un o'r ffyrdd y mae'r Brifysgol yn sicrhau amgylchedd cefnogol i'w myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2019
Darlithydd o Brifysgol Bangor yn cael ei ddewis fel Microsoft Innovative Educator (MIE) Expert
Mae Owen Davies o Ysgol Addysg Prifysgol Bangor wedi ei gydnabod yn arweinydd byd-eang mewn defnyddio technoleg i drawsnewid addysg trwy gael ei enwi'n Microsoft Innovative Educator (MIE) Expert, gan ymuno â dros 6,700 o addysgwyr yn y rhaglen MIE ledled y byd.
Bob blwyddyn mae Microsoft yn dewis addysgwyr arloesol i rannu syniadau, rhoi cynnig ar dulliau gweithredu newydd, a dysgu oddi wrth ei gilydd fel cymuned fyd-eang sydd wedi ymroi i wella canlyniadau myfyrwyr trwy dechnoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2017
Datblygu ap i ddysgwyr Cymraeg
Bydd dysgwyr Cymraeg sy’n heidio i’r dosbarth yn yr hydref, fel dysgwyr newydd neu rai sy’n parhau i ddysgu’r iaith, yn falch o glywed y bydd ‘ap’ newydd ar gael cyn bo hir, sydd wedi ei ddatblygu’n arbennig ar eu cyfer.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2014
Dathliad Cyflogadwyedd!
Llongyfarchiadau mawr i Claire Hodgkinson, Astudiaethau Plentyndod a Ieuenctid, Blwyddyn 3, ar ei henwebiad ar gyfer gwobr Cyflogadwyedd. Da Iawn Claire!
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2019
Dau yn cynrychioli Bangor yng ngystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander
Mae gan Prifysgol Bangor gynrychiolaeth dda yn rownd gynderfynol Gwobrau Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander 2018, sydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Strathclyde ar 26 Mehefin.
Wedi eu dethol drwy gystadleuaeth ymhlith graddedigion a myfyrwyr sydd eto i raddio o’r Brifysgol, mae Tim Hunt a Joe Perkins ymhlith 20 entrepreneur sydd eisoes wedi ennill cymal arall yn y gystadleuaeth. Bydd y ddau yn ceisio ‘gwerthu’ eu syniad busnes er mwyn ceisio lle yn y ffeinal rhanbarthol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2018
Dethol myfyrwyr mentergarwch i gynrychioli’r Brifysgol yng Nghystadleuaeth Prifysgolion Santander
Bu myfyrwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gynrychioli’r Brifysgol yng Nghystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander.
Wedi iddynt gyflwyno’u syniadau busnes neu eu cwmnïau newydd i banel beirniaid ac ymateb i holi manwl ganddynt, bydd y myfyrwyr llwyddiannus yn awr yn cael eu hystyried ar gyfer rhestr fer i ennill y gwobrau drwy Brydain. Cynigir gwobrau o hyd at £15,000, mentora a chefnogaeth i gwmni cychwynnol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2016
Dr Nia Williams yn trafod ‘Chwilfrydedd’
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2019
Dr Nia Williams yn trafod syndrome ‘gadael y nyth’
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2019
Dwy fyfyrwraig leol yn cipio Gwobrau Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol
Mae dwy fyfyrwraig leol wedi derbyn Gwobrau Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor eleni.
Dan gynllun arloesol Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor, mae myfyrwyr ail a thrydedd blwyddyn yn cefnogi myfyrwyr newydd wrth iddynt ymdopi â bywyd prifysgol. Mae’r cynllun wedi ei gynnal yn y Brifysgol ers dros 20 mlynedd, ac mae’n un o’r ffyrdd y mae’r Brifysgol yn sicrhau amgylchedd gefnogol i’w myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2019
Dyfarnu Aur i Fangor
Mae safon Aur wedi ei dyfarnu i Brifysgol Bangor yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.
Mae’r fframwaith yn asesu prifysgolion yn erbyn amrediad o feini prawf ac mae’n rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i godi safonau mewn addysg uwch. Mae hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sydd yn penderfynu pa brifysgol i fynd iddi, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017
Dyfarnu Ysgoloriaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2020/21
Dyfarnwyd tair 'Ysgoloriaeth Gydraddoldeb ac Amrywiaeth' i raddedigion eithriadol 2020 Prifysgol Bangor - Georgina Sidley-Brooks, Olaitan Olawande ac Abi Cousins. Bydd yr ysgoloriaethau, sy'n talu ffioedd llawn y cyrsiau, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent bellach wedi cofrestru ar gyrsiau ôl-radd ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2020
Dyfodol disglair mewn maes dylunio
Mae merch o Abergele edrych ymlaen at ddechrau ei gyrfa newydd wedi iddi dderbyn gradd dosbarth cyntaf mewn BSc Dylunio Cynnyrch. Yn ogystal â hyn, derbyniodd Ceri Mair Roberts Wobr Lloyd Jones am Fentergarwch ac Arloesedd yn ei blwyddyn olaf.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
Dylunio ar gyfer pobl sy'n byw efo dementia
Ers deng mlynedd, mae Menter trwy Ddylunio wedi gweithio gyda gwahanol gwmnïau ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y sector twristiaeth antur. Eleni, mae timau myfyrwyr wedi cael brîff buddiol a heriol dros y broses 10 wythnos, gan greu profiadau cofiadwy i ymwelwyr â dementia i Ogledd Cymru.
Cynhaliwyd yr ornest derfynol eleni yn Pontio ddechrau mis Ebrill a chafwyd amrywiaeth eang o syniadau cynnyrch gan dimau israddedig o Seicoleg, Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, Busnes, Dylunio Cynnyrch, Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, a Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Y nod i dîm 2019 oedd creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n gwneud Gogledd Cymru yn fwy cofiadwy i dwristiaid sydd â dementia arnynt.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019
Dylunwyr blaenllaw yn cymryd rhan yng Nghynhadledd Dylunio Cynnyrch Bangor
Bydd Cynhadledd Dylunio Cynnyrch arloesol ar 7 Mehefin 2018, yn tynnu ynghyd ym Mhrifysgol Bangor rai o'r arweinwyr a'r meddylwyr gorau ym maes Dylunio a Chynhyrchu.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2018
Dylunwyr blaenllaw yn cymryd rhan yng Nghynhadledd Dylunio Cynnyrch Bangor
Bydd Cynhadledd Dylunio Cynnyrch arloesol ar 7 Mehefin, yn tynnu ynghyd ym Mhrifysgol Bangor rai o'r arweinwyr a'r meddylwyr gorau ym maes Dylunio a Chynhyrchu.
Un o'r rhai a fydd yn siarad yn y Gynhadledd, sydd yn cael ei threfnu gan yr Ysgol Addysg, yw’r peiriannydd dylunio cynnyrch, Jude Pullen, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith ac yn adnabyddus am fod yn rhan o gyfres y BBC 'The Big Life Fix'. Siaradwr arall fydd Fred Manson o gwmni rhyngwladol Thomas Hetherwicks. Yn rhannu eu profiadau yn y gynhadledd, y drydedd i’w chynnal yn y Brifysgol, fydd Ed Beardsley a Hugh Smith, sydd wedi graddio mewn dylunio o Brifysgol Bangor ac sy'n gweithio bellach yn y diwydiant. Daw'r gynhadledd i ben gydag agoriad swyddogol y Sioe Raddio, a fydd yn dangos gwaith myfyrwyr dylunio presennol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2017
Eisiau bod yn athro? Grantiau hyfforddi hyd at £15,000 ar gael!
Grantiau hyfforddi ar gael.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2012
Ennyn diddordeb mewn Mathemateg
Cafodd athrawon dan hyfforddiant ymweliad arbennig yn gynharach y semester hwn.
Daeth Peter Ransom, athro mathemateg uchel ei barch, i'r Ysgol Addysg i fod yn ddarlithydd gwadd am y dydd wrth i'r garfan Mathemateg TAR baratoi ar gyfer eu hail gyfnod o brofiad ysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2015
Entrepreneuriaid Santander Bangor
Bydd Carley Williams, myfyrwraig sy’n astudio Dylunio Cynnyrch, gyda statws Athro cymwysedig yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn rownd y DU gwobrau Entrepreneuriaeth Santander, wedi iddi ennill cystadleuaeth yn y Brifysgol. Yn ymuno a hi hefyd fydd Hernan Diazgranados, myfyriwr ôl-radd, yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2015
Entrepreneuriaid Santander ym Mangor
Enillwyd cystadleuaeth Gwobrau Entrepreneuriaeth Santander ym Mhrifysgol Bangor gan fyfyriwr isradd o Flaenau Ffestiniog, Catrin Hicks, a thîm o fyfyrwyr ôl-radd. Byddant yn awr yn mynd ymlaen i gynrychioli’r brifysgol yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2013
Estyn cymhellion ariannol i ddenu athrawon newydd
Mae staff yn Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, heddiw y bydd y cymhellion ariannol presennol ar gyfer hyfforddi athrawon yn cael eu hymestyn i flwyddyn academaidd 2019-20.
Nod y cymhellion, hyd at £20,000 y myfyriwr, yw denu'r graddedigion gorau i fod yn athrawon pynciau sy’n flaenoriaeth megis mathemateg, cemeg, ffiseg, cyfrifiadureg ac ieithoedd tramor modern.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2019
F1 mewn ysgolion - Rownd Derfynol Ranbarthol 2013
Cynhaliodd Ysgol Addysg Prifysgol Bangor Rownd Derfynol Ranbarthol F1 Gogledd Cymru'n ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2013
F1 mewn ysgolion - Rownd Derfynol Ranbarthol 2015
Yn ddiweddar, bu i’r adran Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor gynnal rownd Derfynol Ranbarthol F1 Gogledd Cymru. Yn y gystadleuaeth Fformiwla 1 boblogaidd hon daeth naw ysgol uwchradd leol at ei gilydd i gystadlu am leoedd yn Rownd Derfynol Genedlaethol y Deyrnas Unedig a gynhelir ym mis Mawrth. Os byddant yn llwyddiannus, byddant wedyn yn cymryd rhan yn Rownd Derfynol y Byd F1 mewn Ysgolion 2015 a gynhelir yn Singapore.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2015
Ffocws ar les
Yr wythnos hon roedd ein Darlithydd Dr Anne-Marie Smith yng nghynhadledd y Fenter Ymchwil Addysg Ddiwylliannol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2019
Free school meal funds help pay for school trips too – but self-imposed stigma stops parents claiming
Dyma erthygl yn Saesneg gan Gwilym Siôn ap Gruffudd o’r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2018
Gradd Addysg ym Mangor wedi arwain at lwyddiant pellach i entrepreneur ym maes addysg
Mae enillydd Gwobr Entrepreneuraidd genedlaethol yn dweud bod ei llwyddiant o ganlyniad i gwrs Meistr yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor.
Dyfarnwyd Gwobr Alumni Entrepreneuraidd y Cyngor Prydeinig yn Azerbaijan i Ms Ayan Aliyeva, o Baku, Azerbaijan.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2018
Graddedigion Dylunio yn arddangos eu gwaith
Arddangoswyd gwaith rhai o ddylunwyr Bangor mewn sioe diwedd blwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mehefin 2013
Graddedigion yn sicrhau cyflogaeth yn ystod perthynas fusnes 20 mlynedd
Mae cwmni biotechnoleg a phrifysgol yn dathlu mwy na dau ddegawd o bartneriaeth a arweiniodd at nifer o gyfleoedd cyflogaeth i raddedigion.
Dechreuodd Bee Robotics a Phrifysgol Bangor weithio gyda'i gilydd gyntaf ym 1998 a bu'r berthynas yn allweddol i'r ddau sefydliad.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Medi 2020
Grantiau Hyfforddiant Athrawon o hyd at £15,000 ar gael i fyfyrwyr Tystystrif Addysg i Raddedigon (TAR) Uwchradd
Gall graddedigion sy’n cofrestru ar y rhaglen Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Addysg Uwchradd) bod yn gymwys am grant hyfforddiant o hyd at £15,000.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2013
Grŵp TAR ODA yn cynnal gwerth 2 ddiwrnod o weithgareddau
Pob blwyddyn mae ein grŵp TAR ODA yn cynnal gwerth 2 ddiwrnod o weithgareddau ar gyfer y ddau ddosbarth hŷn o Pendalar – Dosbarth Foryd a Dosbarth Menai.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2019
Gwefan newydd yn agor y drws i lenyddiaeth Gymraeg i bobl ifanc yn ystod y cyfyngiadau symud
Mae myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor wedi lansio gwefan newydd i agor y drws i lenyddiaeth Gymraeg i bobl ifanc yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2020
Gweinidog i Ddarlithio ym Mangor
Bydd Leighton Andrews AC, y Gweinidog newydd dros Wasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Iau 2 Hydref.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2014
Gwirfoddolwyr yn derbyn anrhydedd gan Yr Urdd
Heno, (nos Iau, 7 Mehefin) ym Mhafiliwn Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon, bydd Bryn Tomos, darlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, ynghyd â’i wraig, Marian Tomos, yn derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2012
Gwirfoddolwyr yn derbyn anrhydedd gan Yr Urdd
Heno, (nos Iau, 7 Mehefin) ym Mhafiliwn Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon, bydd Bryn Tomos, darlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, ynghyd â’i wraig, Marian Tomos, yn derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2012
Gwneud Gwahaniaeth i Fywydau Plant
Yn ystod Pasg 2012, bydd tîm o gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol Astudiaethau Plentyndod yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor yn bwrw 10 niwrnod yn Oradea, Rwmania, mewn partneriaeth ag elusen Rwmanaidd, People2People.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2012
Gwobrwyo myfyrwyr am gefnogi eu cyfoedion
Mae dwy fyfyrwraig hŷn wedi eu gwobrwyo am gefnogi eu cyd-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Jodie Jackman a Dinah Jennings ill dwy wedi bod yn weithgar ac yn effeithiol fel rhan o Gynllun Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol, sydd yn galluogi myfyrwyr i gynorthwyo a chefnogi myfyrwyr sy’n newydd i’r Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2020
Hanes Anhygoel Cyn-Fyfyriwr Prifysgol Bangor yn Cerdded Hyd a Lled Cymru i Godi Arian at Elusen
Ar Gorffennaf 26ain 2016, fe adawodd Tom Davies, cyn-fyfyrwir Prifysgol Bangor, ei gartref yn Llanandras. Naw wythnos yn ddiweddarach fe gyrhaeddodd yn ôl adref ar ôl cerdded 1,100 milltir ar hyd perimedr Cymru, gan godi £6,700 i Gymdeithas Alzheimer’s.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2017
Hen Blant Bach ar restr fer gwobrau rhyngwladol Ffilm a Theledu
Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth gyrraedd rownd derfynol Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018.
Mae Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, wedi’i henwebu yng nghategori Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2018
Hen Blant Bach yn ennill Gwobr Arian mewn Gŵyl Ffilm a Theledu Ryngwladol
Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth ennill Gwobr Arian yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd, a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Enilllodd Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, y Wobr Arian yng nghategori rhaglen ddogfen Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018
Her Dr Zigs i Menter drwy Ddylunio
Cafwyd penllanw Menter drwy Ddylunio 2014 yr wythnos ddiwethaf gyda thimau o fyfyrwyr yn cyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid a chynulleidfa o wahoddedigion. Gosodwyd yr her - sef dylunio deunydd pecynnu newydd i'w teganau anghyffredin - gan Dr Zigs Extraordinary Bubbles, cwmni cynhyrchu teganau o Ogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014
How a farm boy from Wales gave the world pi
Dyma erthygl yn Saesneg gan Gareth Ffowc Roberts Athro Emeritws mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2016
How the ‘Santa lie’ helps teach children to be good little consumers
Dyma erthygl yn Saesneg gan Anne-Marie Smith a Nia Young o’r Ysgol Addysg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2016
Hyfforddi i Addysgu - Seminar Wybodaeth
Ar y 3ydd o Ragfyr, dewch i ddysgu mwy am yrfa fel athro ysgol uwchradd yn ein seminar gwybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2014
Hyfforddi i Addysgu - Seminar Wybodaeth
Dewch i ddysgu mwy am yrfa fel athro ysgol uwchradd yn ein seminar gwybodaeth. Bydd y tîm Hyfforddi Athrawon Uwchradd wrth law i ateb eich cwestiynau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2015
Hyrwyddwr hawliau plant yn graddio
Yn dilyn cael ei hysbrydoli i ddilyn cwrs addysg uwch gan arolygydd ysgolion y llywodraeth, mae mam i ddau sy’n ymarferydd gofal plant wedi llwyddo i gyfuno bywyd teuluol ac astudio'n llawn amser gan raddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017
Lansio partneriaeth arloesol Addysg Athrawon yng Ngogledd Cymru
Mae Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caer yn hynod falch o'r cyhoeddiad heddiw bod Llywodraeth Cymru wedi achredu eu cyrsiau newydd arfaethedig ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon, a gaiff eu cyflwyno o 2019 ymlaen.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2018
Lleisiau Bach
Ddydd Iau, cynhaliodd y Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes ddiwrnod hyfforddi Little Voices / Lleisiau Bach ar gyfer ymarferwyr, a drefnwyd gan Arwyn Roberts (Bangor) a Helen Dale (Abertawe).
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2019
Llongyfarch Myfyrwyr ar Eisteddfod lwyddiannus
Llongyfarchwyd y myfyrwyr hynny o’r Brifysgol a fu’n weithgar ac yn hynod lwyddiannus wrth gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2017
Llwyddiant y Siop Bwydydd Hyll
Mae'r 'Siop Bwydydd Hyll' sydd wedi cael ei rheoli a'i rhedeg gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor am y pedair wythnos ddiwethaf wedi bod yn llwyddiant mawr.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2015
MA Astudiaethau Addysg
Mae’r cwrs newydd yn dechrau yn fuan ond mae rhai mannau ar gael o hyd.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2018
Mae angen eich Cymraeg arnom!
Mae’r gwaith i gasglu’r geiriau a’r ymadroddion y mae siaradwyr Cymraeg yn eu defnyddio o ddydd i ddydd ar fin cychwyn wrth i ap arbennig gael ei lansio.
Bydd modd i siaradwyr Cymraeg o bob cefndir recordio eu sgyrsiau i fod yn rhan o brosiect Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes...
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2017
Mae myfyrwyr bodlon i’w cael ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn safle 14 ym Mhrydain, ac mae’r Brifysgol yn ail yng Nghymru mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr (Times Higher Education Student Experience Survey 2015).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016
Mae Pawb yn Cyfrif yn cael ei gyhoeddi yn Saesneg
Mae mathemateg yn rhan naturiol o’n treftadaeth ddiwylliannol yw dadl yr awdur Gareth Ffowc Roberts, Athro Emeritws Addysg ym Mhrifysgol Bangor yn ei lyfr newydd Count Us In, sy’n addasiad i’r Saesneg o’i lyfr blaenorol Mae Pawb yn Cyfrif.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2016
Mam arobryn yn graddio
Ar ôl tair blynedd o waith caled, bydd myfyrwraig arobryn o Brifysgol Bangor yn graddio’r wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Marciau llawn i athrawon Cymru, meddai'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams
Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi bod yn teithio ar draws Cymru dros yr wythnosau diwethaf, gan glywed gan athrawon dan hyfforddiant beth oedd yn eu denu i yrfa o flaen y dosbarth. Yn ddiweddar, bu’n ymweld â Phrifysgol Bangor, gan gyfarfod staff a myfyrwyr yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol a chynnal sesiwn holi ac ateb ar ymgyrch recriwtio ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, Addysgu Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2019
Meistr mewn Addysg yn Singapor
Mewn cydweithrediad newydd, mae Sefydliad Datblygu Rheolaeth yn Singapor (MDIS) ac Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor wedi creu rhaglen newydd, Meistr mewn Addysg.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2020
Merch leol yn dathlu ei gradd Addysg
Yn ymfalchïo o weld beth mae gwaith caled yn gallu cyflawni, bydd darpar athrawes o Ynys Môn yn derbyn gradd 2:1 o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2013
Myfyriwr o Brifysgol Bangor ar restr fer am wobr genedlaethol
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2016
Myfyriwr o Brifysgol Bangor i gaiacio trip unwaith-mewn-oes
Mae myfyriwr dylunio cynnyrch sydd yn ei ail flwyddyn, yn athletwr antur a Christion o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn y British Universities Kayak Expedition (BUKE).
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2019
Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn cael ei ddewis i sgwad Rygbi Cynghrair Cymru
Mae Rygbi Cynghrair Cymru wedi cadarnhau eu sgwad myfyrwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer pencampwriaeth y pedair gwlad sy’n cychwyn ar 12 Mehefin yng Nghaeredin, lle bydd Cymru'n chwarae yn erbyn Iwerddon, Lloegr a'r Alban.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2016
Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn ennill gwobr genedlaethol
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr genedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2016
Myfyrwyr Addysg Gynradd yn mynd i’r afael â diwylliant Tsieineaidd
Cafodd myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar y rhaglen BA Addysg Gynradd cyflwyniad unigryw i ddiwylliant Tsieineaidd, diolch i Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2014
Myfyrwyr Addysg Gynradd yn paratoi i wirfoddoli yn Ghana
Mae dwy fyfyrwraig o Brifysgol Bangor yn apelio am roddion cyn eu taith i wirfoddoli yn Ghana.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2016
Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru.
Daw'r newyddion yn fuan ar ôl i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017
Myfyrwyr Menter yn cael eu gwobrwyo gan Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi rhoi Ysgoloriaethau Entrepreneuriaeth newydd, gwerth cyfanswm o £5,000, i'w myfyrwyr i nodi diwedd y flwyddyn academaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2013
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn paratoi at her LifeStart
Mae Prifysgol Bangor yn un o 12 prifysgol yn y DU i gymryd rhan yn LifeStart - platfform her newydd a ddatblygwyd gan Virgin Money a Virgin StartUp. Nod LifeStart yw helpu myfyrwyr i sicrhau llwyddiant gyrfaol trwy eu helpu i ddysgu sgiliau menter ac ariannol, trwy gymryd rhan mewn heriau a chael cyfle i ennill gwobrau ar y ffordd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2017
Myfyrwyr yn creu gemwaith coeth
Mae dewis o emwaith coeth, sydd wedi ei ddylunio gan fyfyrwyr dylunio ym Mhrifysgol Bangor, bellach ar gael yn gyfyngedig i MOSTYN yn Llandudno.
Mae’r oriel celfyddyd gyfoes wedi gweithio gyda staff a myfyrwyr y cwrs gradd Dylunio Cynnyrch i greu eitemau o emwaith sydd yn gweddu i siop MOSTYN.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2018
O lawr y siop i uchelfannau ymchwil â phlant
Bu mynd i’r brifysgol wastad yn freuddwyd gan Claire Hodgkinson ond, ar ôl cwblhau ei arholiadau Lefel A dros ugain mlynedd yn ôl, ni allai weld llwybr gyrfa yn ffurfio o’i blaen, felly, yn hytrach na dewis maes pwnc ar fympwy i’w ddilyn am dair blynedd, penderfynodd ymuno â rhaglen rheoli yn y sector mân-werthu.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2019
Owen Davies, Darlithydd yn yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol yn hedfan ein baner ym Mharis ar gyfer achlysur E2 Microsoft!
Cafodd Owen ei ddewis i gymryd rhan yn y 5ed E2 ym Mharis rhwng Ebrill 2 - 4, 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2019
Penodi Athro i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg
Mae’ r Athro Enlli Thomas, Pennaeth Ysgol Addysg Prifysgol Bangor wedi ei phenodi yn aelod newydd o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru.
Sefydlwyd y Cyngor gan Adran 149 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a’i brif bwrpas yw rhoi cyngor ac arweiniad i Weinidogion Cymru mewn perthynas â materion yn ymwneud â’r Gymraeg. Daeth cyfnod y Cyngor Partneriaeth cyntaf i ben ar 31 Mawrth
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2017
PhD mewn Dwyieithrwydd a gyllidir gan yr ESRC
Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD dair blynedd wedi ei chyllido'n llawn yn dechrau ym mis Hydref 2016.
Bydd y myfyriwr llwyddiannus wedi’i (l)leoli yn Ysgol Addysg, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg neu Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Cyllidir yr efrydiaeth drwy gyfuniad o DTC Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Cymru a chyllid mewnol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2016
Prif Gymrodoriaeth i’r Academi Addysg Uwch
Mae Dr Charles Buckley wedi cael ei gydnabod fel Prif Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Medi 2014
Prifysgol Bangor i wobrwyo effaith eithriadol sy’n deillio o weithgareddau ymchwil a menter
Mae deuddeg project o Brifysgol Bangor wedi eu gosod ar y rhestr fer i ennill gwobr yn nhrydedd Noson flynyddol Gwobrau Effaith ac Arloesedd Prifysgol Bangor, a noddir gan Santander Universities.
Mae’r gwobrau pwysig hyn yn cydnabod ac yn dathlu effaith ymchwil, arloesedd a mentergarwch y Brifysgol ar y gymuned a’r economi gyfan. Eleni, mae’r Brifysgol yn cyflwyno categori gwobr newydd, sef, Cyfraniad Eithriadol i Gymru, i gydnabod gweithgareddau sydd wedi cael effaith sylweddol yn genedlaethol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2015
Prifysgol Bangor yn arwain prifysgolion Cymru o ran boddhad myfyrwyr
Prifysgol Bangor yw'r gorau yng Nghymru, yn ôl y dull diweddaraf o fesur boddhad myfyrwyr, ac mae yn y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol y DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy'n cynnig ystod eang o bynciau.
Daw'r canlyniadau o'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, sef arolwg o oddeutu hanner miliwn o fyfyrwyr sy'n graddio o bob prifysgol yn y DU ac sy'n rhoi'r adborth mwyaf cynhwysfawr am brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2014
Prifysgol Bangor yn cyfrannu at achredu Rhaglen Arweinyddiaeth Genedlaethol
Mae diwrnod cenedlaethol y Rhaglen Datblygu Penaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro a gynhelir yr wythnos hon (dydd Mercher 7 Tachwedd), ac sy’n cynnwys y siaradwr gwadd ysbrydoledig Syr John Jones, yn benllanw tymor o dorri tir newydd ar gyfer y consortia addysg (CSC, EAS, ERW a GwE ). Dyma'r rhaglen datblygu arweinyddiaeth genedlaethol gyntaf o ganlyniad i gydweithio rhwng y pedwar consortiwm i gael dilysiad gan bartneriaid achredu Prifysgol Bangor a'r Athrofa (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), a'r rhaglen gyntaf i’w chymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a sefydlwyd yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2018
Prifysgol Bangor yn lawnsio Cynllun Interniaeth Is-raddedig
Mae Prifysgol Bangor wedi lawnsio Cynllun Interniaeth Is-raddedig er mwyn cynnig cyfleoedd a gwella cyflogadwyedd myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2012
Prifysgol Bangor yn parhau ar y brig o ran boddhad myfyrwyr
Unwaith eto, Prifysgol Bangor yw’r uchaf o brifysgolion Cymru yn y mesur diweddaraf o foddhad myfyrwyr, ac mae hi ymhlith y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol gorau’r DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy’n cynnig amrywiaeth eang o bynciau.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2015
REF 2014: Ymchwil yr Ysgol yn Ail yn y DU o ran Effaith
Mae ymchwil a gyflwynwyd gan yr Ysgol Addysg Prifysgol Bangor wedi cyfrannu’n gadarnhaol at lwyddiant y Brifysgol yn Fframwaith Asesu Ymchwil 2014, o ran yr Uned Asesu ar Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
Rhaglen annibynnol o ymchwil i werthuso’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
Mae tri darlithydd o'r Ysgol Addysg yn rhan o dîm sydd wedi ennill tendr o £275,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru i werthuso datblygiad cychwynnol Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a lansiwyd fis Ebrill 2010.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2012
Sioe Ddylunio Ysgol Addysg (05/06/13-07/06/13)
Bydd yr Ysgol Addysg yn cynnal arddangosfa gradd BSc ym Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2013
Staff academaidd yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae saith aelod staff academaidd o Brifysgol Bangor wedi cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2016
Sut mae sicrhau'r canlyniadau gorau mewn addysg ddwyieithog
Bellach mae'r profion Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a gynhaliwyd ar draws Cymru eleni i blant ysgol rhwng 6-14 oed bron â dod i ben a bydd arbenigwyr yn trafod y ffordd orau o addysgu plant mewn sefyllfa ddwyieithog mewn cynhadledd ryngwladol o bwys ar Ddwyieithrwydd mewn Addysg. Byddant yn cyflwyno argymhellion ynghylch sut i sicrhau bod plant yn cyrraedd y safonau uchaf ym mhob un o'u hieithoedd.
Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal y Gynhadledd Ryngwladol ar Ddwyieithrwydd mewn Addysg rhwng 10 a 12 Mehefin 2016. Noddir y digwyddiad hwn gan yColeg Cymraeg Cenedlaethol a bydd ymchwilwyr ac ymarferwyr o amryw o wledydd yn dod ynghyd i drafod datblygiadau ac ymarfer gorau ym maes dwyieithrwydd mewn addysg.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2016
Sut mae sicrhau'r canlyniadau gorau mewn addysg ddwyieithog
With this years’ National Literacy and Numeracy tests for primary school children aged 6-14 across Wales just about complete, experts will be discussing the best way to educate children in a bilingual setting at a major international conference on Bilingualism in Education and will be making recommendations on how to ensure that the highest standards are achieved by children in all of their languages.
Bangor University is hosting the International Conference on Bilingualism in Education June 10th – 12th 2016. This event, sponsored by the Coleg Cymraeg Cenedlaethol, draws together researchers and practitioners from a range of countries to discuss developments and best practice in bilingualism in education.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2016
The Toddlers who took on Dementia
Rhaglen ddogfen gan BBC Cymru yw “The Toddlers who Took on Dementia”. Mae'n dilyn tri diwrnod o weithgareddau a drefnwyd i geisio archwilio'r hyn sy'n digwydd pan fydd plant meithrin a phobl sy'n byw gyda Dementia'n dod ynghyd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2018
Traddodiad Teuluol o astudio ym Mangor yn parhau
Bydd myfyrwraig o Feirionnydd yn parhau â thraddodiad teuluol drwy fynd ymlaen i addysgu ar ôl graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Bydd Awel Pyrs Evans, 21, o Lanfachreth, Dolgellau yn derbyn gradd BA Addysg Gynradd (SAC) ar ôl astudio yn Ysgol Addysg y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
Trawsnewid addysg yng Nghymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r angen i recriwtio a dal gafael ar arweinwyr ysbrydoledig er mwyn cyflawni ei chenhadaeth addysgol. O ganlyniad, mae llwybr clir i ddatblygu arweinyddiaeth o arweinwyr canol i benaethiaid gweithredol wedi'i lunio.
Enillodd Prifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Yr Athrofa) y tendr i achredu rhaglenni Arweinyddiaeth y Consortia Cenedlaethol, gydag athrawon yn cael cyfle i ennill achrediad yn amrywio o PGCert i gymhwyster doethuriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2018
Tynnu sylw at brojectau partneriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Bangor
Rhoddir sylw i brojectau cyffrous a wneir mewn partneriaeth rhwng academyddion Prifysgol Bangor a chymunedau, elusennau, cyrff llywodraethol a busnesau, yn lleol ac yn rhyngwladol, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener (8 Rhagfyr).
Canolbwyntir ar 17 allan o 52 project yn y digwyddiad, gyda phob un ohonynt wedi eu hariannu drwy Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017
Wedi eu cysylltu drwy lwyddiant – mam a merch yn graddio
Bydd cyswllt un teulu o Garndolbenmaen â llwyfan Neuadd PJ yn parhau eleni, wrth i fam a merch raddio yn ystod yr wythnos a thrwy wneud hynny, ddilyn yn ôl troed y ferch a’r chwaer hynaf a raddiodd o’r Brifysgol yn 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2018
Y cwrs Radiograffeg gorau yn y DU ar frig tabl cynghrair y Prifysgolion
Yn ôl y Times & Sunday Times University Guide 2016, Prifysgol Bangor yw’r lle gorau i astudioradiograffeg. Ar ben hynny, myfyrwyr radiograffeg Bangor oedd â’r rhagolygon gyrfaol gorau o blith holl raddedigion radiograffeg y DU, a gosodwyd y cwrs ar y trydydd safle o ran safonau mynediad.
Mae Prifysgol Bangor hefyd ymysg 10 uchaf o blith Prifysgolion y DU mewn pum pwnc arall. Yn ogystal â radiograffeg, daw Astudiaethau Celtaidd (Cymraeg) yn ail, Polisi Cymdeithasol yn ail, Amaeth a Choedwigaeth yn seithfed, Ysgrifennu Creadigol yn wythfed ac Addysg yn ddegfed.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2015
Y Gweinidog Cymreig dros Addysg a Sgiliau yn ymweld â Phrifysgol Bangor
Heddiw ymwelodd Huw Lewis AC, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, â Phrifysgol Bangor. Ymwelodd Mr Lewis â Chanolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru, sydd â'i chartref yn yr Ysgol Addysg, a'r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar yn yr Ysgol Seicoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2015
Ymchwilio i faterion allweddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg
Cychwynnodd prosiect ymchwil newydd a fydd yn ceisio canfod paham y mae plant sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gallu bod yn amharod defnyddio’r iaith y tu allan i’r ysgol. Yr ymchwilydd fydd y Dr Siôn Aled Owen o Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2014
Ymchwil mewn Addysg: Cynhadledd i Athrawon
Eleni, bydd yr Ysgol Addysg yn cynnal cynhadledd undydd fydd yn trafod ymchwil sydd wedi ei chynnal gan staff, myfyrwyr ac athrawon ar faterion cyfoes yn y byd addysg.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2015
Ymchwil Prifysgol Bangor yn llywio polisi cenedlaethol ac yn rhoi sylfaen dystiolaeth i Gynllun Gweithredu Addysg Wledig cyntaf Cymru
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams (heddiw) wedi lansio Cynllun Gweithredu Addysg Wledig newydd Llywodraeth Cymru sy’n cyflwyno nifer o fentrau a mesurau ar gyfer gwella addysg a phrofiadau yn ysgolion gwledig Cymru.
Mae’r cynllun gweithredu’n rhan greiddiol o’r diwygiadau gweddnewidiol sydd wedi eu hamlinellu yn Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl, sy’n nodi beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r gyfundrefn ysgolion erbyn 2021. Mae’r ddogfen yn rhoi manylion am weithgareddau a fydd yn troi polisïau’n ymarfer yn ein hysgolion. Mae’r cynllun gweithredu’n defnyddio tystiolaeth ac argymhellion o adroddiad ymchwil dan arweiniad Gwilym Siôn ap Gruffudd o Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor. Comisiynwyd yr adroddiad: Rethinking Educational Attainment and Poverty- in Rural Wales (REAP) gan Gonsortia Addysg Rhanbarthol ERW a GwE trwy broses dendro gystadleuol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2018
Ymchwil yn helpu i sicrhau £90 miliwn i ysgolion
Mae ymchwil o Brifysgol Bangor, sy'n dangos effeithiolrwydd cyllid ychwanegol i ysgolion, wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau cyllido i ysgolion er mwyn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.
Fe wnaeth yr ymchwil gydweithredol, a gomisiynwyd gan GWE ac ERW (dau ddarparwr gwasanaethau gwella ysgolion), roi tystiolaeth i Lywodraeth Cymru a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gynyddu cyllid i ysgolion o £90 miliwn pellach yn 2018-19 dan y Grant Datblygu Disgyblion. Fe wnaeth addysgwyr, seicolegwyr, gwyddonwyr cymdeithasol ac arbenigwyr yn y gyfraith - sydd wedi casglu ynghyd brofiad enfawr o weithio gydag ysgolion, disgyblion a phlant - ddod at ei gilydd i wneud arolwg cynhwysfawr o'r modd y gall tlodi fod yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018
Ymchwil yn Ysbrydoli
Deilliodd sawl cerdd yng nghyfrol newydd Siôn Aled, Meirioli, o’i brofiadau wrth gyflawni gwaith ymchwil gydag Ysgol Addysg Prifysgol Bangor i ffactorau’n effeithio ar ddefnydd disgyblion ysgol o’r Gymraeg yn gymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2018
Ymwelwyr o lwyth y Mohociaid
Daeth dau o lwyth y Mohociaid yn Ontario, Canada i ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar i ddysgu am ymchwil y Brifysgol ym maes ieithoedd lleiafrifol ac i rannu eu profiadau eu hunain yn y maes. Bu’r ymchwilwyr a’r addysgwyr yn ymweld â sawl unigolyn allweddol yn y brifysgol a’r ardal yn ystod yr ymweliad.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2015
Ysgoloriaeth MPhil i fyfyrwraig ddisglair sydd newydd raddio mewn Astudiaethau Plentyndod
Mae Eleanor Morsman newydd ennill ysgoloriaeth i astudio ar gyfer MPhil ar ‘Y Model Pedagogiaeth Gorau ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yn y sector Addysg Gynradd'. Graddiodd Eleanor o Ysgol Addysg Prifysgol Bangor ym mis Gorffennaf gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn astudiaethau plentyndod a bu'n gyd-enillydd Gwobr Cronfa'r Normal a ddyfernir i'r myfyriwr gyda'r marciau uchaf mewn addysg.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2014
Ysgrifennu Traethodau Academaidd a Thraethodau Hir – gweithdai ar gyfer myfyrwyr MA Astudiaethau Addysg
Bydd yr Ysgol Addysg yn cynnal rhaglen o weithdai wedi eu teilwrio ar gyfer myfyrwyr ar y rhaglen MA Astudiaethau Addysg trwy fis Mawrth, a gynlluniwyd i gynnig cymorth ac arweiniad ar sut i ysgrifennu traethodau academaidd a thraethodau hir.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2013