Cylch Ieithyddiaeth
- Lleoliad:
- Teams - ar-lein
- Amser:
- Dydd Mercher 9 Chwefror 2022, 15:10–16:00
Cliciwch yma i ymuno â'r digwyddiad
‘Dysgwyr’, ‘Siaradwyr Newydd’ a Siaradwyr’: Hunaniaeth oedolion sy’n dysgu Cymraeg fel oedolion
Meinir Williams
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymraeg: 2050, yn anelu at gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn y flwyddyn 2050. Er mwyn cyrraedd y nod uchelgeisiol hyn, maent yn cydnabod yr angen i gefnogi oedolion sy’n dysgu’r iaith, a phwysigrwydd galluogi’r siaradwyr hyn i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol ac yn y gweithle (Llywodraeth Cymru, 2017).
Ond yn aml mae hyn yn haws dweud na gwneud, gan fod rhai unigolion yn teimlo bod y label ‘Dysgwyr’ yn amharu ar eu defnydd o’r iaith ac yn creu gagendor rhyngddynt â siaradwyr ‘brodorol’ (Hornsby a Vigers, 2018). Yn wir, mae hyn yn duedd gyffredin mewn ystod eang o ieithoedd lleiafrifol, yn cynnwys Gaeleg yr Alban (McEwan-Fujita, 2010), Sami (Jonsson a Rosenfors, 2017) a Llydaweg (Hornsby, 2015). Mewn ymateb i’r rhwyg, defnyddir y term ‘Siaradwyr Newydd’ yn hytrach na ‘dysgwyr’ er mwyn osgoi hierarchaeth rhwng siaradwyr (O’Rourke a Pujolar, 2013).
Yn y cyflwyniad hwn trafodir ymatebion i holiadur gan unigolion sydd yn, neu wedi, dysgu Cymraeg fel oedolion. Gofynnir i ba raddau mae’r term ‘dysgwr’ yn cael ei arddel ac ystyrir dyheadau unigolion o ran defnyddio’r iaith a datblygiad acen.
‘Rôl Treigladau’r Gymraeg mewn Mynediad Geirfaol The Role of Welsh Mutations in Lexical Access
James Bragg
O wrando ar siaradwyr, pa brosesau ydym yn eu dilyn er mwyn deall y geiriau a siaredir/agltwir, h.y. mynediad geirfaol? Mae ymchwil blaenorol yn dangos mei dechreuadau geiriau sydd bwysicaf a bod terfyniadau geirau hefyd yn chwarae rôl, er yn llai felly.
Mae gan yr ieithoedd Celtaidd fel y Gymraeg nodweddion a adwaenir fel treiglo cytseiniaid cychwynnol (ICM) lle gall synau cychwynnol geiriau newid mewn cyd-destunau penodol. Felly, a yw dechreuadau geiriau Cymraeg yn cael eu hystyried yn llai sicr, ac a yw hynny’n peri i siaradwyr Cymraeg roi mwy o bwys yn naturiol ddigon ar derfyniadau geiriau?
Yn y sgwrs hon, byddaf yn egluro'r arbrawf cyntaf, a ymchwiliodd i ddealltwriaeth a chydnabyddiaeth siaradwyr Cymraeg o’r treigladau, rhywbeth sylfaenol ar gyfer arbrofion dilynol.