Cylch Ieithyddiaeth
Language skills in Greek-English bilingual children attending Greek supplementary schools in England
- Lleoliad:
- Teams ar-lein
- Amser:
- Dydd Mercher 9 Mawrth 2022, 16:00–17:00
Cliciwch yma i ymuno â'r digwyddiad
Dr Athy - Prifysgol Bangor
Crynodeb:
Mae llawer o rieni yn y Deyrnas Unedig yn cofrestru eu plant mewn ysgolion atodol Groeg er mwyn i’r plant allu dysgu a chynnal yr iaith a’r diwylliant Groegaidd ochr yn ochr ag addysg brif ffrwd Saesneg. Er gwaethaf ofnau ynglŷn ag effeithiau defnydd iaith dreftadaeth (Groeg) ar sgiliau iaith fwyafrifol plant (Saesneg), mae ymchwil ar yr ysgolion hyn, sydd braidd yn gudd, yn gyfyngedig hyd yma ac yn ansoddol ei natur. Yr astudiaeth gyfredol yw'r astudiaeth feintiol gyntaf i archwilio effaith mynychu ysgol atodol Groeg ar eirfa a sgoriau gramadeg plant dwyieithog Groeg-Saesneg. Gweinyddwyd cyfres o brofion iaith yn y ddwy iaith i 31 o blant dwyieithog Groeg-Saesneg, 5-13 oed, gan edrych yn fanwl ar hanes iaith y cyfranogwyr trwy ddefnyddio holiaduron rhieni. Gan ddefnyddio dadansoddiadau atchweliad lluosog, rydym yn archwilio’r berthynas rhwng newidynnau perthnasol, megis defnydd iaith a blynyddoedd yn yr ysgol atodol a chanfuwyd mai po uchaf yw’r defnydd o Roeg, yr uchaf yw’r sgoriau yn y tasgau iaith Groeg, er na chanfuwyd unrhyw berthynas arwyddocaol rhwng blynyddoedd yn yr ysgol atodol a datblygiad sgiliau iaith. Yn hollbwysig, nid yw defnyddio Groeg yn rhagfynegi sgoriau negyddol yn y tasgau Saesneg. Trafodir goblygiadau ein canlyniadau a chyfeiriadau ar gyfer y dyfodol.