Zoomposiwm – Cerddoriaeth John Metcalf
- Lleoliad:
- Dgwydiad ar-lein
- Amser:
- Dydd Gwener 12 Mawrth 2021 – Dydd Sadwrn 13 Mawrth 2021
- Cyflwynydd:
- Ysgol Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio, Prifysgol Bangor (mewn cydweithrediad â Gŵyl Gerdd Bangor a Tŷ Cerdd.)
- Cyswllt:
- Nerys Boggan
Zoomposiwm – Cerddoriaeth John Metcalf
Ysgol Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio, Prifysgol Bangor (mewn cydweithrediad â Gŵyl Gerdd Bangor a Tŷ Cerdd.)
Gyda gyrfa yn pontio pum degawd, cydnabyddir John Metcalf MBE fel un o brif gyfansoddwyr byw yng Nghymru heddiw a bydd yn dathlu ei benblwydd yn 75 yn ystod 2021. Fel rhan o’r dathliadau hyn, bydd y symposiwm ar lein hwn yn cyflwyno cyfres o sgyrsiau sy’n trafod y rhan fwyaf o’i gyfansoddiadau yn ystod ei yrfa lewyrchus, gan gynnwys ei weithiau cerddorfaol, siambr, corawl ac operatig. Cyfoethogir y digwyddiad ymhellach gyda pherfformiadau o nifer detholedig o’i gerddoriaeth.
I fynychu’r symposiwm ar lein, cofrestrwch yma
12 Mawrth 2021 - Amserlen:
10.45: | Croeso a chyflwyniad |
11.00: | Gweithiau cerddorfaol - Rian Evans |
12.00: | Metcalf a’r delyn – Elinor Bennett |
13.00 - 13.40: | Cyngerdd Amser Cinio: Llyfr Lloffion (darlledir ar AM Cymru) Mared Emlyn (harp) John Metcalf: Llyfr Lloffion y Delyn Mared Emlyn: gwaith newydd (comisiwn gan GGB a phremiere byd) |
14.00: | Operau - Wyn Davies (Music Director), Keith Turnbull (Opera Director) |
15.00: | Gweithiau corawl - Guto Pryderi Puw |
16.00 - 17.00: | Gweithiau siambr - Steph Power |
18.45 - 19.15: | John Metcalf, chyfansoddwr gwadd yr Ŵyl, mewn sgwrs cyn y cyngerdd gyda chadeirydd GGB, Rhiannon Mathias. |
19.30: | Cyngerdd Teyrnged John Metcalf (darlledir ar AM Cymru) Solem Quartet John Metcalf: Towards Silence – Winter Journey (comisiwn gan Carol Nixon a pherfformiad rhagolwg) Guto Pryderi Puw: Pedwarawd Llinynnol #1 – Mae dy lwybrau’n diferu digonedd (comisiwn gan GGB a phremiere byd) Thomas Whitcombe: 'Micro' (comisiwn gan GGB a phremiere byd) Jasmin Kent Rodgman: new work (cyd gomisiwn gan y Solem Quartet a GGB a phremiere byd) |
13 Mawrth 2021 - Amserlen:
13.00 - 14.00: | Cyngerdd amser cinio: Singing John Metcalf (darlledir ar AM Cymru) Caryl Hughes (soprano), Paul Carey Jones (bariton) a Wyn Davies (piano) Datganiad sy’n cynnwys mewnwelediad cynhwysfawr i ganeuon John Metcalf, a gyfansoddwyd dros bum degawd yn ystod ei yrfa lewyrchus. |
Ceir rhagor o wybodaeth am y cyngherddau drwy fynychu gwefan Gŵyl Gerdd Bangor.