Mae Electroacwstig CYMRU yn bodoli er mwyn hyrwyddo ac annog y broses o greu a lledaenu cerddoriaeth electroacwstig o fewn Cymru a’r tu hwnt.
Wedi’i leoli ym Mhrifysgol Bangor, mae Electroacwstig CYMRU yn cefnogi’r broses o gyfansoddi cerddoriaeth electroacwstig ac o ymchwilio iddi yn stiwdios yr Ysgol Cerddoriaeth, yn trefnu a hyrwyddo cyngherddau o gerddoriaeth electroacwstig, yn cynnal gweithdai ar egwyddorion ac ymarfer cerddoriaeth electroacwstig, ac yn gweithredu fel cyfrwng a chanolbwynt ar gyfer trafodaeth a chydweithrediad rhwng cyfansoddwyr, perfformwyr a gwrandawyr cerddoriaeth electroacwstig yng Nghymru.
System tryledu sain Electroacwstig CYMRU yn Neuadd Powis