Newyddion Ymchwil Diweddaraf

Ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod – Adolygu tystiolaeth

Mae cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, ar y cyd ag Uned Gydweithredu Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Bangor, wedi creu adroddiad newydd ‘Ymateb i Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod’.

Mae’r adroddiad newydd, a ddatblygwyd gan Dr Lisa Di Lemma, yn archwilio tystiolaeth ar draws amrywiaeth o raglenni sy’n ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE).  Edrychodd yr adroddiad ar raglenni ac ymyriadau ar gyfer 11 math unigol o ACE, ac ACE fel term cyffredinol, i nodi ymagweddau cyffredin ar draws rhaglenni.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2019

Yn hyblyg ac ymhobman- ac eto gall fod y babŵn wrth risg

Er ei fod mor gyffredin i rai ardaloedd yn Affrica Is-Sahara fel eu bod yn cael ei ystyried yn boendod i rai cymunedau, mae ymchwil newydd yn dangos y gall hanner y chwe rhywogaeth o fabŵn sydd yn bresennol yn y rhanbarth fod mewn peryg o beidio ag oroesi erbyn canol y ganrif.

Er bod y rhan fwyaf o rywogaethau o fabŵn yng nghategori ‘o Bryder Lleiaf’ n ôl Rhestr Goch yr IUCN o Rywogaethau wrth Risg, mae papur diweddar yn y Journal of Biogeography yn datgelu y gallent brofi ymdrech i fodoli o dan amodau hinsawdd y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2019

Ymchwilio i siâp hydrodynameg eiconig glas y dorlan

Mae siâp pigfain eiconig glas y dorlan, sy'n enwog am eu gallu i ddeifio heb wneud sŵn, wedi ysbrydoli dyluniad trenau bwled cyflym. Mae gwyddonwyr wedi bod yn profi siâp pigfain rhai o'r 114 o rywogaethau glas y dorlan a welir ledled y byd, i asesu pa siâp yw'r mwyaf hydrodynameg.

Bu'r biolegydd adar, Dr Kristen Crandell a'r myfyriwr  trydedd flwyddyn, Rowan Howe, ym Mhrifysgol Bangor, yn creu  modelau printiedig 3D o siapiau pig nifer o rywogaethau glas y dorlan sy'n deifio, yng Nghanolfan Arloesi Pontio y brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2019

Ymchwil arloesol Canolfan yn helpu i lunio strategaeth y dyfodol ar gyfer heneiddio yng Nghymru

Bydd canolfan ymchwil arloesol - y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) a arweinir gan Brifysgol Abertawe ar y cyd gyda Phrifysgolion Bangor a Chaerdydd, yn chwarae rôl allweddol wrth lunio dyfodol gofal pobl hŷn yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2019

Replanting oil palm may be driving a second wave of biodiversity loss

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Simon Willcock o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversationar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2019

Policy action called for to prevent gambling harm

Nid yw'r Datganiad i'r wasg yma sy'n trafod gwaith yr Athro Robert Rogers, Ysgol Seicoleg ac eraill, ar gael yn y Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2019

Prifysgol Bangor yn Dathlu Diwrnod Ewrop 2019

Ar 9 Mai bydd y Brifysgol, ynghyd â llawer iawn o sefydliadau eraill ar draws y DU ac Ewrop, yn nodi Diwrnod Ewrop gyda nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn dathlu’r diwrnod hwn i nodi cyhoeddi Datganiad Schumann a wnaed yn 1950, sy’n cael ei ystyried fel un o’r camau cyntaf swyddogol yng nghreadigaeth yr Undeb fel y mae hi heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2019

Eog llai atyniadol

Mae ymchwil newydd yn dangos bod eogiaid a ffermir yn llai atyniadol i'r fenyw nag eogiaid gwyllt. Y rheswm am hyn yw bod y bachau sydd o dan eu gên neu 'kype', sy'n nodwedd rywiol eilaidd, yn llai. Gellir cymharu'r nodwedd hon â chyrn carw.

Mae'r canfyddiad newydd hwn a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn gwyddoniaeth Royal Society Open Science a adolygir gan gymheiriaid, yn awgrymu bod eogiaid a fegir ar fferm yn llai deniadol yn rhywiol na'u brodyr gwyllt. Er mai dim ond ers y 1970au y maent wedi cael eu magu mewn caethiwed, maent eisoes yn gwyro oddi wrth yr eog gwyllt o fewn dim ond 12 cenhedlaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2019

Y cyfle olaf i fioamrywiaeth Madagascar

Mae gwyddonwyr o bedwar ban byd wedi dod ynghyd i nodi'r camau pwysicaf sydd eu hangen ar lywodraeth newydd Madagascar rhag colli rhywogaethau a chynefinoedd unwaith ac am byth.

Ym mis Ionawr, dechreuodd Andag Rajoelina, arlywydd newydd Madagascar, ei gyfnod o bum mlynedd yn y swydd. Mae grŵp o wyddonwyr o Fadagascar, y Deyrnas Unedig, Awstralia, Unol Daleithiau America a'r Ffindir wedi cyhoeddi papur sy'n tynnu sylw at y camau gweithredu y mae angen i'r llywodraeth newydd eu cymryd i wrthdroi dirywiad dybryd bioamrywiaeth a helpu rhoi Madagascar ar drywydd datblygu cynaliadwy.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2019

Dioddefodd mwy nag wyth o bob deg dyn yn y carchar drallod yn ystod plentyndod – adroddiad newydd

Trallod yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â mwy o amser yn y carchar, troseddu treisgar a hanes o amser mewn sefydliadau troseddwyr ifanc

Mae carcharorion gwrywaidd yn llawer mwy tebygol na dynion yn y boblogaeth ehangach o fod wedi dioddef trallod yn ystod plentyndod fel camarfer plant neu fyw mewn cartref gyda thrais domestig, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor.

Mae'r canfyddiadau'n awgrymu y gallai camau ataliol ac ymyrraeth gynnar i fynd i'r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) atal troseddu a lleihau costau ar gyfer y system cyfiawnder troseddol.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2019

Ligue 1: France gets its first female top flight football referee, but the federation scores an own goal

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jonathan Irvine, o'r  Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2019

How did the moon end up where it is?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Mattias Green o’r Ysgol Gwyddorau Eigion a David Waltham o Brifysgol Royal Holloway sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2019

Diogelu ein hadnoddau naturiol - sut y mae’r rhai sy’n gyfrifol yn penderfynu?

Mae gweithgareddau dynol yn fygythiad cynyddol i’r elfennau hynny yr ydym yn dibynnu arnynt  am ein goroesiad, o ddŵr glân o goedwigoedd, at  sicrhau goroesiad  y pryfaid sy’n peillio ein cnydau.

Mae gwyddonwyr yn galw’r agweddau naturiol yr ydym yn ddibynnol arnynt yn ‘wasanaethau’r ecosystem’  am mae nifer gynyddol o lywodraethau yn symud eu polisïau amgylcheddol i gymryd y gwasanaethau ecosystem hanfodol hyn i ystyriaeth.

Mae gwyddonwyr yn rhuthro i greu modelau sydd yn medru rhagweld argaeledd y gwasanaethau hyn, sydd weithiau’n bethau mor elfennol â dŵr, neu dir ar gyfer pori anifeiliaid neu dyfu cnydau, a’r galw amdanynt.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2019