Newyddion: Mehefin 2018

Cyhoeddi’r gwerslyfr cyntaf ar Ynni Morol Adnewyddadwy

Mae ffynhonnell bosib o ynni yn ein hamgylchynu – y môr – sy’n adnodd naturiol enfawr sydd â’r potensial i ddiwallu angen y byd am drydan sawl gwaith drosodd.

Gyda buddsoddiadau diweddar mewn ymchwil a datblygu, ac ymchwil academaidd ym maes ynni morol adnewyddadwy, fe’i hystyriwyd yn amserol i gynhyrchu gwerslyfr ar sylfaeni astudiaeth o’r pwnc.

Gwerslyfr gan yr arbenigwr ar ynni morol ym Mhrifysgol Bangor, Dr Simon Neill, mewn cydweithrediad â Dr Reza Hashemi ym Mhrifysgol Rhode Island, yw’r cyntaf felly, i’w cyhoeddi yn y maes newydd hwn.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2018

Myfyrwraig Prifysgol Bangor i gynrychioli Prydain Fawr mewn Pencampwriaethau Cyfeiriannu

Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Cyfeiriannu Prifysgolion y Byd yn y Ffindir ym mis Gorffennaf.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2018