Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion: Awst 2020

Mauritius oil spill: how coral reefs, mangroves and seagrass could be affected

Dyma erthygl yn Saesneg gan Sivajyodee Sannassy Pilly, ymgeisydd PhD gyda'r Athro John Turner a Dr Ronan Roche, i gyd o'r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2020

Mae gwres cefnforol yn drech na gwres yr atmosffêr o ran toddi rhew'r môr yn nwyrain Cefnfor yr Arctig

Mae ymchwil newydd yn dangos bod Cefnfor dwyrain yr Arctig wedi gweld lleihad deublyg a mwy yn nhwf rhew'r môr yn y gaeaf dros y degawd diwethaf a hynny oherwydd dylanwad cynyddol gwres o'r tu mewn i'r cefnfor.

Daeth hynny i'r amlwg mewn astudiaeth ryngwladol, o dan arweiniad Prifysgol Alaska Fairbanks a Sefydliad Meteorolegol y Ffindir ynghyd â Phrifysgol Bangor ac eraill, a ddefnyddiai ddata a gasglwyd gan angorfeydd cefnforol ym Masn Ewrasiaidd Cefnfor yr Arctig o 2003-2018.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2020

Ymchwil i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd yn cychwyn cyfnod newydd

Penodwyd yr Athro Julia Jones o Brifysgol Bangor yn Gyfarwyddwr newydd Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd Sêr Cymru Llywodraeth Cymru (NRN-LCEE). Bydd yr Athro Jones yn parhau i adeiladu ar yr ymchwil o ansawdd uchel yng ngwyddorau'r amgylchedd a'r gwyddorau naturiol yng Nghymru wrth iddi gymryd yr awenau y mis hwn.

Bydd yr Athro Jones yn cymryd rôl yr Athro David N. Thomas, hefyd o Brifysgol Bangor, a arweiniodd y rhwydwaith cenedlaethol yn ystod ei gyfnod hynod lwyddiannus cyntaf rhwng 2013-19.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2020

The Moon and stars are a compass for nocturnal animals – but light pollution is leading them astray

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Stuart Jenkins o'r Ysgol Gwyddorau Eigion ac eraill, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2020

Newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ledaeniad rhywogaethau ymledol

Mae ymchwil gan dîm o arbenigwyr o Brifysgol Bangor, a'r Alfred Wegener Institute yn yr Almaen, yr Helmholtz Centre for Polar and Marine Research (AWI) a Zoological Institute and Museum Prifysgol Greifswald wedi datgelu sut gall newid yn yr hinsawdd gynorthwyo i ledaenu rhywogaethau ymledol.

Mae canlyniadau eu hastudiaeth, sydd newydd gael eu rhyddhau yn y cyfnodolyn “Ecography”, yn dangos cryn botensial i'r cranc glas Asiaidd ledu ymhellach i'r gogledd, ar hyd arfordiroedd gogledd Lloegr a Norwy.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Awst 2020

Dirgelion y dwfn - arolwg y brifysgol o wely'r môr yn tynnu sylw at longddrylliad hanesyddol

Mae gorffwysfa olaf cwch ymosod cyflym a adeiladwyd yn Ynys Môn ac a welwyd mewn ffilm o Brydain ym 1951 wedi ei chanfod yn defnyddio sonar fel rhan o arolwg newydd gan arbenigwyr o Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2020