Adnoddau

Mae ysgolion academaidd a chanolfannau ymchwil y Brifysgol yn mwynhau adnoddau ardderchog, sydd yn cynnwys y llong ymchwil Prince Madog.

Mae offer a chyfleusterau arbenigol eraill yn cynnwys sganiwr delweddau cyseinedd magnetig (fMRI), labordai datblygu nanodechnoleg, ystafell pelydr-X, ystafell pwyso tan ddŵr, siambr hinsawdd, ystafell dadansoddi symudiad, labordai niwro-wyddoniaeth a gerddi botaneg..

Mae’r Brifysgol hefyd yn manteisio ar nifer o lyfrgelloedd sydd yn darparu cymorth rhyngddisgyblaethol hanfodol i gyflawni anghenion a gobeithion deallusol y myfyrwyr. Ceir llyfrau testun hanfodol a chyfnodolion i adnoddau electronig a microffilm yn ogystal a chyfoeth o  ddeunydd arbenigol ar gael yn y Llyfrgell Cymraeg ac Archifau’r Brifysgol.