Newyddion: Gorffennaf 2019
Newyddlenau
Prifysgol gynaliadwy o'r radd flaenaf
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill 'Anrhydedd Dosbarth Cyntaf' am ei chryfderau o ran cynaliadwyedd gan People & Planet , y rhwydwaith mwyaf i fyfyrwyr yn y DU sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol. Dim ond 29 o'r 154 o brifysgolion yn y DU sy'n cael eu rhoi yn y categori hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2019