Dr Aled Llion Jones
Senior Lecturer in Welsh & Medieval Literature
Adran y Gymraeg - Dept of Welsh
Prifysgol Bangor - Bangor University
Ffordd y Coleg
Bangor
LL57 2DG
aled.llion@bangor.ac.uk
http://facebook.com/YsgrifauBeirniadol/
+44 (0)1248 382243
Qualifications
- PhD
Harvard University, 2005–2011 - MA
Harvard University, 2005–2007 - MPhil
Caerdydd, 1997–2000 - BA
Leeds University, 1993–1996
Overview
Addysg a Chyflogaeth Fe'm haddysgwyd ym Mhrifysgolion Leeds, Caerdydd a Harvard, ac enillais raddau ym meysydd Athroniaeth a Saesneg (BA), Cymraeg (MPhil) ac Astudiaethau Celtaidd (PhD). Rwyf wedi cael fy nghyflogi gan brifysgolion yng Ngwlad Pwyl (Lublin), Iwerddon (Gaillimh), UDA (Harvard) a Chymru (Bangor), ac wedi darlithio'n achlysurol neu addysgu ar ysgolion haf mewn nifer fawr o sefydliadau eraill. Ymchwil Rwy'n cyhoeddi’n eang er fy nghyflogi ym Mangor (2011): gweithiaf ar draws gyfnodau a disgyblaethau, yn dwyn athroniaeth a theori lenyddol ddiweddar (yn enwedig o Ffrainc a’r Almaen) i ddeialog â llenyddiaeth fodern a chanoloesol Cymru ac Iwerddon. Pwysig i’r gwaith hwn hefyd ydy theori amlieithrwydd a chyfieithu. Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig ffigyrau megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd. Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig. Rwyf erbyn hyn yn edrych yn benodol ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r brosiect ddiweddaraf hon yn archwilio nid yn unig nodweddion megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb a'r iwtopig. Project arall sydd ar y gweill gennyf yw cyflwyniad hygyrch i Athroniaeth Llenyddiaeth i'w gyhoeddi ar ffurf monograff. Hwn fydd y cyflwyniad cyntaf o'i fath yn y Gymraeg, ac yn trafod llên Cymru yn benodol. Cyflwyno a Siarad Cyhoeddus Rwyf wedi traddodi ystod o bapurau mewn cynadleddau o orllewin Romania i dde Califfornia (ac yn y rhan fwyaf o’r gwledydd rhyngddynt): siaradaf gan fwyaf ar lenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg (ganoloesol a modern), ond hefyd ar athroniaeth, ac astudiaethau diwylliannol yn ehangach. Caf fy ngwahodd yn aml i gyflwyno mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus, o brifysgolion i neuaddau pentref, ac mae fy ngwaith fel athro iaith (Cymraeg, Pwyleg, Gwyddeleg) hefyd yn fodd o gysylltu â’r gymuned leol ac ehangach. Siaradaf yn fynych ar raglenni radio cenedlaethol (sgyrsiau diwylliannol a materion cyfoes). Byddaf yn siarad ac yn darlithio mewn nifer o ieithoedd (y Gymraeg yn bennaf ond hefyd Saesneg a Phwyleg). Cyfieithu Llenyddol Er imi ddod i Fangor, fe'm comisynir bron yn flynyddol gan Ŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru i gyfieithu, darllen a thrafod barddoniaeth yn y Bwyleg ac ieithoedd eraill o ddwyrain Ewrop. Rwyf hefyd wedi cael fy nghomisiynu gan Gyfnewidfa Llenyddiaeth Cymru i gyfieithu rhyddiaith Bwyleg, a chyhoeddwyd gennyf nifer o gyfieithiadau o'r Wyddeleg i'r Gymraeg. Addysgu Byddaf yn dysgu bob blwyddyn ar fodiwlau blwyddyn gyntaf, ail a thrydedd y cynlluniau BA. Dysgaf sgiliau iaith a llythrennedd yn ogystal â llenyddiaeth ac athroniaeth, a hynny ar fodiwlau a gaiff eu trefnu a’u haddysgu gennyf innau’n unig. Cyfrannaf yn gyson hefyd i fodiwlau a gaiff eu cyd-addysgu, a’r rheiny’n amrywio o lenyddiaeth ganoloesol a modern cynnar i ieithyddiaeth, sosioiethyddiaeth a chynllunio ieithyddol. |
Education and Employment I studied at Leeds, Cardiff and Harvard Universities, gaining degrees in Philosophy and English (BA), Welsh (MPhil) and Celtic Studies (PhD). I have worked longer-term at universities in Poland (Lublin), Ireland (Galway), USA (Harvard) and Wales (Bangor), and occasionally lectured or taught on summer schools in many other organizations. Research I have published widely since being employed at Bangor (2011): I work across a number of periods and disciplines, and my research brings recent philosophy and literary theory (especially from France and Germany) into dialogue with the modern and medieval literatures of Wales and Ireland. Translation theory and that of multilingualism are central here. Recently, my research has been moving in two main areas: the philosophy of the twentieth century (especially figures such as Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida, J.R. Jones) and medieval Welsh literature. A central event that brings these threads together is Martin Buber's translation of the Four Branches of the Mabinogi (Die vier Zweige des Mabinogi) in 1914, and I have been looking at conceptual cross-fertilization between the Welsh legends and humanist-Hasidic traditions. I am currently looking specifically at concepts of time, temporality and historiography in medieval Welsh and Irish literature. This latest project explores not only features such as the deictic but also the ways in which literary forms and rhetorical tropes express conceptual (and aconceptual) experiences of time, place, timelessness and the utopian. I aim to soon publish an accessible introduction to the Philosophy of Literature. This will be written in Welsh and focussed on the literature of Wales. Presentations and Public Speaking I have delivered a range of papers in conferences from western Romania to southern California (and most countries in-between): I speak mainly on Welsh and Irish (medieval and modern) literature, but also on philosophy, and wider cultural studies. I am often invited to present at a variety of public events, from universities to village halls, and my work as a language teacher (Welsh, Polish, Irish) is also a means of engaging with the local and wider community. I speak frequently on national radio (cultural discussion and current affairs). I speak and lecture in a number of languages (mainly Welsh but also English and Polish). Literary Translation Since being at Bangor, I have been commissioned almost annually by the North Wales International Poetry Festival to translate, read and discuss poetry in Polish and other Eastern European languages. I have also been commissioned by the Welsh Literature Exchange to translate Polish prose, and I have published a number of translations from Irish to Welsh. Teaching I teach each year on first-, second- and third-year BA modules. I teach language and literacy skills as well as literature and philosophy, on modules that I co-ordinate and teach. I also contribute regularly to co-taught modules, ranging from early medieval and medieval literature to linguistics, sociolinguistics and language-planning. |
Teaching and Supervision
Addysgu BA Blwyddyn 0
Blwyddyn 1
Blwyddyn 2 a 3
Addysgu MA Fi yw cyfarwyddwr cwrs MA 'Y Celtiaid'. Byddaf hefyd yn goruchwylio myfyrwyr MA (Cymraeg). Cyfrannaf at ddarlithoedd/seminarau sawl cwrs MA arall (e.e. Astudiaethau Arthuraidd; Cyflwyno'r Oesau Canol; Llenyddiaethau Cymru) Goruchwylio PhD Yr wyf ar hyn o bryd yn goruchwylio dau brosiect PhD:
Croesawaf gynigion ar gyfer prosiectau ar amryw agweddau o'r llenyddiaethau Celtaidd – yn enwedig Cymraeg a Gwyddeleg, a'r rhai'n ymwneud â methodolegau theoretig/athronyddol. Arholi PhD Bûm yn arholwr mewnol i nifer o draethodau ymchwil PhD, yn Ysgol y Gymraeg a hefyd Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, ac Ysgol Athroniaeth a Chrefydd. Arholi Allanol
|
BA Teaching Year 0
Year 1
Years 2 and 3
MA Teaching I am co-ordinator of the ‘Celts’ MA. I also oversee ‘Welsh’ MA students. I contribute to lectures / seminars on several other MA courses (e.g. Arthurian Studies; Introducing the Middle Ages; Literatures of Wales) PhD Supervision I am currently overseeing two PhD projects:
I welcome proposals for research projects on various aspects of Celtic-language literature – especially Welsh and Irish, and those involving theoretical/philosophical methodologies. PhD Examining I have been an internal examiner on a number of PhD projects, in the School of Welsh and also the School of History, Welsh History and Archaeology, and the School of Philosophy and Religion. External Examining
|
Research Interests
Rwy'n ymchwilio i lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd yn gyffredinol (Cymraeg a Gwyddeleg yn arbennig), ac mae gennyf hefyd ddiddordeb mawr mewn Llenyddiaeth Gymharol, yn enwedig yng nghyd-destun diwylliannau llai Ewrop a'r ieithoedd Slafeg (y Bwyleg yn arbennig). Yn fy ymchwil fy hun a'm goruchwylio mae gennyf ddiddordeb neilltuol mewn gwaith ac iddo ogwydd theoretig: mae fy ymchwil (gw. manylion cyhoeddiadau a chynadleddau) yn ymwneud â disgyrsiau sydd ar y ffin rhwng ffiloleg ac athroniaeth iaith/celf (e.e., proffwydoliaeth, amlieithrwydd, cyfieithu, barddoneg ac estheteg, ac ecofeirniadaeth). Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig meddylwyr megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida, J.R. Jones) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd (barddoniaeth a rhyddiaith). Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig. Rwyf erbyn hyn yn edrych yn benodol ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r prosiect diweddaraf hwn yn archwilio nid yn unig agweddau megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb ac iwtopia. Rwyf wrthi hefyd yn paratoi cyflwyniad hygyrch i Athroniaeth Llenyddiaeth, i'w gyhoeddi ar ffurf llyfr. Hwn fydd y cyflwyniad cyntaf o'i fath yn y Gymraeg, ac yn trafod llên Cymru yn benodol. |
I study the Celtic-language literatures in general – and Welsh and Irish in particular. My interest in comparative methodology leads me also towards thinking in the context of the Slavic languages (especially Polish), and minoritised European cultures. In both my own research, and PhD supervision, I have a particular interest in work with a theoretical drive: my research (see details of publications, and conferences) is located between philology and the philosophy of language / art. I am particularly interested in fields such as prophecy, multilingualism, translation, poetics and aesthetics, and ecocriticism. Recently, my research has been moving in two main areas: the philosophy of the twentieth century (especially figures such as Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida, J.R. Jones) and medieval Welsh literature. A central event that brings these threads together is Martin Buber's translation of the Four Branches of the Mabinogi (Die vier Zweige des Mabinogi) in 1914, and I have been looking at conceptual cross-fertilization between the Welsh legends and humanist-Hasidic traditions. I am currently looking specifically at concepts of time, temporality and historiography in medieval Welsh and Irish literature. This latest project explores not only features such as the deictic but also the ways in which literary forms and rhetorical tropes express conceptual (and aconceptual) experiences of time, place, timelessness and the utopian. I shall soon be publishing an accessible introduction to the Philosophy of Literature. This will be written in Welsh and focussed on the literature of Wales. |
Postgraduate Project Opportunities
Publications
2019
- Published'Good Time(s), Bad Time(s): myth and metaphysics in some medieval literature': The Keynote Lecture of the 38th Harvard Celtic Coloquium
Jones, A. L., 12 Mar 2019, Proceedings of the 38th Harvard Celtic Colloquium. Andrews, C., Newton, H. & Parker, S. (eds.). 2018 ed. Vol. 38.
Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceeding › Chapter
2018
- PublishedAr drên i Warszawa - a hanes yn ddrych
Jones, A., 31 Jul 2018, In : O'r Pedwar Gwynt. 7, p. 6-7 2 p.
Research output: Contribution to journal › Article - PublishedCynghanedd, Amser a Pherson yng Nghywyddau Brud Dafydd Gorlech
Jones, A., 30 May 2018, Y geissaw chwedleu. Jones, A. L. & Fomin, M. (eds.). Bangor, 14 p. (Studia Celto-Slavica; vol. 8).
Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceeding › Chapter - PublishedY geissaw chwedleu: Proceedings of the 7th International Colloquium of Societas Celto-Slavica
Jones, A. (ed.) & Fomin, M. (ed.), 30 May 2018, Bangor: Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. 189 p. (Studia Celto-Slavica; vol. 8)
Research output: Book/Report › Book - PublishedCerddi Martin Codax: Cyfieithiadau o gerddi hynaf yr iaith Aliseg-Bortiwgaleg
Jones, A. (Translator), Miguelez-Carballeira, H. (Translator) & Costas Gonzalez, X-H. (ed.), 2018, Vigo : Universidade De Vigo.
Research output: Other contribution - PublishedReview of Barry Lewis, 'Medieval Welsh Poems to Saints and Shrines'
Jones, A., 2018, In : Éigse. 40
Research output: Contribution to journal › Book/Film/Article review
2017
- PublishedOwain ab Urien
Jones, A., 18 Aug 2017, The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain. Fay, J. A., Futton, H. & Rector, G. (eds.). Wiley Blackwell, Vol. The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain.
Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceeding › Entry for encyclopedia/dictionary - PublishedPreiddiau Annwfn
Jones, A., 18 Aug 2017, The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain. Fay, J. A., Futton, H. & Rector, G. (eds.). Wiley Blackwell
Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceeding › Entry for encyclopedia/dictionary - PublishedYmddiddan Myrddin a Thaliesin
Jones, A., 18 Aug 2017, The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain. Fay, J. A., Futton, H. & Rector, G. (eds.). Wiley Blackwell
Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceeding › Entry for encyclopedia/dictionary - PublishedReview of Natalia Petrovskaia, 'Medieval Welsh Perceptions of the Orient'
Jones, A., Mar 2017, In : Renaissance Quarterly. 70, 1, p. 325-326 2 p.
Research output: Contribution to journal › Book/Film/Article review
2016
- PublishedMartin Buber a Phedair Cainc y Mabinogi: Seioniaeth, Dyneiddiaeth a Duw
Jones, A., 1 Dec 2016, Ysgrifau Beirniadol 34. Price, A. (ed.). Gwasg Gee, p. 209-238 29 p.
Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceeding › Chapter - PublishedProphecy as criticism: MS Peniarth 50, tradition and translation
Jones, A., 1 Mar 2016, In : Translation Studies. 9, 2, p. 137-151 14 p.
Research output: Contribution to journal › Article - PublishedTwo by Two: The Doubled Chariot-figure of Táin Bó Cuailgne
Jones, A., 1 Feb 2016, Ollam: Studies in Gaelic and Related Traditions in Honor of Tomás Ó Cathasaigh . Boyd, M. (ed.). Lanham: Fairleigh Dickenson University Press, 16 p. Chapter 2
Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceeding › Chapter - PublishedMedieval Wales in Modern Germany: Martin Buber translates the Mabinogi
Jones, A., 2016, Golden Epochs and Dark Ages: Perspectives on the Past. Antonowicz, A. & Niedokos, T. (eds.). Lublin: Wydawnictwo KUL, Vol. 14. 15 p. (Studies in Literature and Culture ).
Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceeding › Chapter
2013
- PublishedDarogan: Prophecy, Lament and Absent Heroes in Medieval Welsh Literature
Jones, A. L., 15 Dec 2013, University of Wales Press.
Research output: Book/Report › Book
2012
- Published'Celtic Prosody'
Ford, P. K. & Jones, A., 2012, The Princeton Encyclopaedia of Poetry and Poetics. Greene, R. (ed.). Princeton: Princeton University Press
Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceeding › Entry for encyclopedia/dictionary
2010
- PublishedProceedings of the Harvard Celtic Colloquium 2010: 26/27
Chance, C., Radiker, L., Zall, C., Bempechat, P. & Jones, A., 2010, Cambridge, MA: Harvard University Press.
Research output: Book/Report › Book
2009
- PublishedProceedings of the Harvard Celtic Colloqium 2005: 24/25
Jones, S., Jones, A. (ed.) & Knight, J., 2009, Cambridge, MA: Harvard University Press.
Research output: Book/Report › Book
2004
- PublishedFersiynau ar Fordaith Lenyddol: Adolygiad o Weithdy Cyfieithu
Davies, M. P. & Jones, A., 2004, In : Taliesin. 121, p. 90-102
Research output: Contribution to journal › Article
2003
- PublishedDa Bangor a Bangor: il viaggio di un bardo
Llwyd, I., Jones, A. (ed.), Jones, A. (Translator), Bianchi, A. (Translator) & Siviero, S. (Translator), 2003, Mobydick.
Research output: Book/Report › Book
Activities
2019
- Culhwch ac Olwen and a reference to Geoffrey's Historia
Papur cynhadledd yn trafod pwysigrwydd cyfeiriad posibl at Historia Regum Britanniae yn y chwedl Culhwch ac Olwen.
20 Sep 2019
Activity: Oral presentation (Speaker) - Darlith wadd, Humanities Center / Dept. of Celtic Languages and Literatures, Harvard University
Teitl: 'Why Arthur is Always Wrong: Culhwch ac Olwen as self-defeating prophecy'
13 Sep 2019
External organisation: Harvard University
Activity: Invited talk (Speaker) - Beirniadu Her Gyfieithu 2019
Trefnir gan PEN Cymru. Yr her eleni yw cyfieithu dwy gerdd gan Julia Fiedorczuk o'r Bwyleg i'r Gymraeg.
Jul 2019
External organisation: PEN Cymru
Links:
Activity: Other (Contributor) - Universität Wien: Darlithoedd a Seminarau
Fe'm gwahoddwyd i gyflwyno dwy gyfres o ddarlithoedd a seminarau i gyflwyno'r iaith Gymraeg yn ei chyd-destun hanesyddol, diwylliannol ac ieithyddol.
23 Apr 2019 – 31 May 2019
External organisation: Universität Wien
Activity: Types of External academic engagement - Research and Teaching at External Organisation (Contributor)
2018
- Viva PhD (Ysgol y Gymraeg)
Cadeirio viva PhD (Ysgol y Gymraeg)
11 Dec 2018
Activity: Examination (Examiner) - Cyflwyniad y Gymraeg ar Daith, Ysgol Friers
Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol, a drefnwyd ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
26 Nov 2018
External organisation: Ysgol Friers
Activity: Oral presentation (Speaker) - Cyflwyniad ar gwrs preswyl Glan-llyn
Cyflwyniad i ddisgyblion chweched dosbarth o ysgolion led-led Cymru, ar gwrs Preswyl Glan-llyn a drefnwyd gan Ysgol y Gymraeg a'r Urdd
21 Nov 2018
External organisation: Gwersyll yr Urdd Glan Llyn
Activity: Oral presentation (Speaker) - Cyflwyniad Y Gymraeg ar Daith, Ysgol Tryfan
Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol, a drefnwyd ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
7 Nov 2018
External organisation: Ysgol Tryfan
Activity: Oral presentation (Speaker) - Prif-ddarlith/Keynote: Harvard Celtic Colloquium
'Good time(s), bad time(s): myths and metaphysics in some medieval literature'
6 Oct 2018
External organisation: Harvard University
Links:
Activity: Types of External academic engagement - Invited talk (Contributor) - Rhaglen Aled Hughes, Radio Cymru
Sgwrs i drafod taith i Jerusalem i archif Martin Buber, cyfieithydd y Mabinogi i'r Almaeneg
25 Apr 2018
Activity: Oral presentation (Speaker) - Cyflwyniad ar Ail Gainc y Mabinogi i ddisgyblion Ysgol Tryfan
18 Apr 2018
Activity: Oral presentation (Keynote speaker) - Gwers Wyddeleg enghreifftiol i diwtoriaid iaith.
Cynhadledd Cymraeg i Oedolion, Plas Tan-y-Bwlch
13 Apr 2018
Activity: Invited talk (Speaker) - Sgwrs wadd i Gymdeithas Hanes y Tair Llan
'Amser a gofod: darllen llenyddiaeth ganoloesol y Gymraeg gyda Stephen Hawking'. Defnyddio theoriau gwyddonol diweddar ynghylch amser a gofod i ddarllen llenyddiaeth Gymraeg ganoloesol.
10 Apr 2018
Activity: Invited talk (Speaker) - Viva PhD Cymraeg/Athroniaeth a Chrefydd
Arholwr Mewnol Ysgol y Gymraeg/Ysgol Athroniaeth a Chrefydd
Feb 2018
Activity: Examination (Examiner)
2017
- Y Gymraeg ar Daith, Bro Dinefwr
Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol
22 Nov 2017
Activity: Participation in workshop, seminar, course (Speaker) - Y Gymraeg ar Daith, Aberaeron
Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol
17 Nov 2017
Activity: Participation in workshop, seminar, course (Speaker) - Sesiwn 'Cyflwyno'r BA Cymraeg', Ysgol David Hughes
Sesiwn awr yn disgrifio manteisio gradd mewn Cymraeg, o ran cyflogadwyedd, etc.
10 Jul 2017
Links:
Activity: Types of Public engagement and outreach - Schools engagement (Presenter) - Gwers Wyddeleg enghreifftiol
Gwers iaith enghreifftiol i diwtoriaid iaith, Cynhadledd Cymraeg i Oedolion, Plas Tan-y-Bwlch
May 2017
Activity: Invited talk (Speaker)
2016
- Darlith wadd: Cynhadledd Flynyddol Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru.
'Buber, Benjamin, Cynddelw, Rhonabwy: amser, iaith a hanes yn llenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd'.
Nov 2016
Activity: Invited talk (Invited speaker) - Dialog: Cymru a'r Almaen
'Cyfriniaeth, Seioniaeth a Phedair Cainc y Mabinogi'
22 Oct 2016
Activity: Invited talk (Invited speaker) - In Search of Heritage /Ar Drywydd Treftadaeth
‘“Mi a wnn pwy wyt ti”: Cyfriniaeth Fodern Almaeneg-Iddewig yn Etifeddu'r Canol Oesoedd Cymraeg’
26 Jun 2016
Activity: Oral presentation (Speaker) - Darlith wadd ym Mhrifysgol Uppsala
'"Fel y torraist ti fy nghalon": medieval and early-modern Welsh love poetry'. Darlith i fyfyrwyr lleol a dysgwyr o bell.
May 2016
Activity: Invited talk (Invited speaker) - Cynhadledd Cymraeg i Oedolion
Plas Tan-y-Bwlch, Cynhadledd Cymraeg i Oedolion
Apr 2016
Activity: Invited talk (Keynote speaker) - Rhaglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru. Trafodaeth ar amlieithrwydd mewn llenyddiaeth Gymraeg.
'Amlieithrwydd mewn llenyddiaeth Gymraeg'
Mar 2016
Activity: Invited talk (Invited speaker) - Seminar MA yn Adran y Saesneg (Astudiaethau Celtaidd), Prifysgol Gatholig Lublin, Gwlad Pwyl
Agweddau cyfredol ar sosio-ieithyddiaeth y Gymraeg
Jan 2016
Activity: Invited talk (Invited speaker) - XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Rhyngwladol
2016 – 2019
Activity: Participation in conference (Organiser)
2015
- Darlith gyhoeddus yn Adran Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Poznań, Gwlad Pwyl
Yr Athronydd yn Annwn: Martin Buber, Cyfriniaeth Iddewig a'r Mabinogi
Dec 2015
Activity: Invited talk (Keynote speaker) - Seminar Ôl-radd Ysgol y Gymraeg
'Yr Athronydd yn Annwn: Martin Buber, Cyfriniaeth Iddewig a'r Mabinogi'
Dec 2015
Activity: Participation in workshop, seminar, course (Speaker) - Sgwrs i'r Fainc Sglodion (Cymdeithas Lenyddol Blaenau Ffestiniog)
Bendigeidfran yn Berlin: y Mabinogi a rhai o athronwyr yr Almaen, c. 1914
Dec 2015
Activity: Invited talk (Invited speaker) - Darlith wadd ym Mhrifysgol Szczecin, Gwlad Pwyl
'Martin Buber and the Mabinogi: a very tenuous Polish connection'. Welsh Days 2015.
Oct 2015
Activity: Invited talk (Invited speaker) - Ddarllen a thrafod cerddi Marko Pogačar, wedi eu cyfieithu gennyf o’r Groasieg i'r Gymraeg
Oct 2015
Activity: Invited talk (Invited speaker) - Plus FM, Szczecin
Cyfweliad yn Bwyleg ynghylch iaith a diwylliant Cymru
Oct 2015
Activity: Oral presentation (Speaker) - International Congress of Celtic Studies
'Mabinogi Martin Buber: y cyfieithiad cyntaf o'r Pedair Cainc i'r Almaeneg'
Sep 2015
Activity: Participation in conference (Speaker) - Darlith wadd, Humanities Center / Dept. of Celtic Languages and Literatures, Harvard University
'Poetry, Language, Grammar, Death: Reading the Gogynfeirdd with Heidegger'
26 Mar 2015
External organisation: Harvard University
Activity: Invited talk (Keynote speaker) - Viva PhD Hanes
Arholwr Mewnol ar gyfer Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg
2015
Activity: Examination (Examiner)
2014
- Darlith gyhoeddus yn Neuadd Ogwen, Bethesda, mewn cyfres a drefnwyd gan Brifysgol Bangor/Pontio
'Zombies Gwyddelig, Moch yr Apocalyps a phroblemau eraill Cymry'r Mabinogi'
Nov 2014
Activity: Invited talk (Keynote speaker) - Darllen a thrafod cerddi Wioletta Grzegorzewska, wedi eu cyfieithu gennyf o’r Bwyleg i'r Gymraeg
Oct 2014
Activity: Invited talk (Speaker) - Societas Celto-Slavica, 7fed Colociwm
'Mesur, Cynghanedd a Pherson: sylwadau ar strwythur rhai cerddi canoloesol'
Sep 2014
Activity: Participation in conference (Speaker) - Cwrs Preswyl Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Freiburg
Dysgu (Cymraeg: Iaith a Llên) ar gwrs preswyl Astudiaethau Celtaidd
Jun 2014
External organisation: University of Freiburg
Activity: Participation in workshop, seminar, course (Invited speaker) - Darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Poznań, Gwlad Pwyl.
'Language and transcendence in the poetry of the Welsh Princes'
Apr 2014
Activity: Invited talk (Speaker)
2013
- Darllen a thrafod cerddi Bartek Majzel, wedi eu cyfieithu gennyf o’r Bwyleg i'r Gymraeg
Oct 2013
Activity: Invited talk (Speaker) - Ysgol Haf Astudiaethau Celtaidd
Trefnu a chydlynu Ysgol Haf i fyfyrwyr o wledydd Ewrop a Tsieina
Jul 2013
Activity: Participation in workshop, seminar, course (Organiser) - Gweithdy Athroniaeth Prifysgol Caerdydd
Darlith wadd: ‘Athronwyr y tywysogion? Sylwadau ar iaith y Gogynfeirdd, y frawddeg enwol a'r apophatig’
Jun 2013
Activity: Invited talk (Invited speaker) - Viva PhD
15 May 2013
Activity: Examination (Examiner) - Papur yng nghyfres Seminarau Ymchwil Ysgol y Gymraeg
‘Y Canu Darogan, Peniarth 50 ac Amlieithrwydd’
May 2013
Activity: Invited talk (Invited speaker) - Trafodaeth yn ystod gweithdy cyfieithu rhyngwladol
Jan 2013
Activity: Invited talk (Invited speaker)
2012
- Darllen a thrafod cerddi Julia Fiedorczuk, wedi eu cyfieithu gennyf o’r Bwyleg i'r Gymraeg
Oct 2012
Activity: Invited talk (Speaker) - Medieval Multilingualism in the British Isles
‘National Library of Wales, MS Peniarth 50: Welsh Political Prophecy and Multilingualism’
Jul 2012
External organisation: Cambridge University
Activity: Participation in conference (Speaker) - NAASWCH International Congress on Welsh Studies, Bangor, 2012
‘Rhys Fardd a rhyddfrydwyr eraill yr Oesau Canol’
Jul 2012
Activity: Participation in conference (Speaker) - Darlithydd gwadd ar amryw gyrsiau Astudiaethau Celtaidd
Apr 2012
Activity: Invited talk (Speaker) - Viva PhD Cymraeg
Arholwr mewnol (Ysgol y Gymraeg)
2012
Activity: Examination (Examiner)
2011
- Viva Phd Cymraeg
Arholwr Mewnol Ysgol y Gymraeg
2011
Activity: Examination (Examiner)