Y Celtiaid MA/PGDip

Overview

Course facts

  • Name: Y Celtiaid
  • Qualification: MA/PGDip
  • Duration: 1 flwyddyn llawn-amser, hyd at 3 blynedd rhan-amser

Nid oes llawer o eiriau sydd mor atgofus a chyfareddol â ‘Cheltaidd’, yn dwyn i gof cywreinrwydd gemwaith yr Oes Efydd, adeiladwaith enfawr Côr y Cewri a Newgrange, chwedlau Arthur a Cú Chulainn a chrefft Farddol brenhinoedd a thywysogion y canol oesoedd. Ond mae ‘Celtaidd’ hefyd yn gysylltiedig â’r Dadeni, yr Ymoleuo a’r Byd Newydd; Rhamantiaeth, Chwyldro a brwydr ieithoedd, llenyddiaeth a hunaniaethau cenedlaethol cyfan i oroesi yn y cyfnod Modern.

Mae’r cwrs newydd hwn ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi’r cyfle a’r gallu i fyfyrwyr fedru didoli’r ffeithiau a’r ffuglen, ac i ateb yn fanwl y cwestiwn:

‘Pwy oedd – a phwy yw – y Celtiaid?’

Yn ystod un flwyddyn academaidd bydd modiwlau yn cael eu dysgu gan arbenigwyr yn Ysgolion Cymraeg; Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg; a Cherddoriaeth, yn canolbwyntio ar lenyddiaeth, archaeoleg, crefydd, mytholeg, hynafiaeth, hanes celf a cherddoriaeth, er mwyn archwilio diwylliant a hunaniaeth y bobl Geltaidd o’r bryngaerau cynhanes i seneddau datganoledig ac annibynnol heddiw.

Bydd myfyrwyr hefyd yn cael arweiniad wrth wneud eu hymchwil eu hunain ar gyfer traethawd hir gradd Meistr ar bwnc o’u dewis.

Mae’r holl gyfarwyddyd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ac mae cefnogaeth gynhwysfawr ESOL ar gael lle bo angen.

Dyma rai o’r prif bynciau sy’n cael eu trafod yn y cwrs:

  • A yw’r ‘Celtiaid’ yn bodoli mewn gwirionedd, ac os felly, pwy a beth ydynt? Sut allwn ni drafod cwestiynau o’r fath, gyda pha fethodoleg a gyda pha dystiolaeth?
  • Sut mae’r gair ei hun (‘Celt’, ‘Keltoi’, ac yn y blaen) wedi cael ei ddefnyddio ar hyd y canrifoedd, o haneswyr Clasurol i gerddorion pop modern?
  • Beth yw cryfderau a gwendidau ‘Celtomania’ a ‘Celtosgeptigiaeth’? Sut mae’r cysyniad o’r ‘Celtiaid’ wedi ei ddarganfod a’i wrthod mewn gwahanol feysydd fel Llenyddiaeth, Archaeoleg, Ieithyddiaeth, Cerddoriaeth, Crefydd?
  • Sut y cyfrannodd ysgolheigion cyfandirol y bedwaredd ganrif ar bymtheg at greu’r ‘Celtiaid’?
  • Sut y gwnaeth y bobl sy’n siarad ieithoedd Celtaidd ennill eu hunaniaeth eu hunain a sut maent yn dal i wneud hynny? Beth mae’r testunau canoloesol (Cyfreithiau, Chwedlau, Barddoniaeth Llys, Bywydau’r Seintiau) a chanfyddiadau archeolegol yn dweud wrthym, a beth sydd gan hanes diweddar i’w ddweud?
  • Beth yw’r prif ffynonellau tystiolaeth am hanes a hunaniaeth y bobl ‘Geltaidd’ (hynny yw, y rhai sy’n siarad ieithoedd Celtaidd yn y cyfnod modern)? Sut ydym ni’n defnyddio’r ffynonellau hyn? A all Arthur a Cú Chulainn ddweud rhywbeth buddiol wrthym?
  • Sut mae hunaniaethau ethnig a chenedlaethol y ‘Celtiaid’ modern wedi eu portreadu a’u trafod mewn perthynas â’r cysyniad hwn o’r ‘Celtaidd’?
  • Beth oedd perthnasedd gwleidyddol ac ideolegol y ‘Celtiaid’ a beth ydyw erbyn hyn?

Gyda materion fel hyn dan sylw, mae’r cwrs wedi ei lunio i ddatblygu sgiliau’r myfyrwyr trwy gynllun astudiaeth uwch arbenigol. Un amcan pwysig yw rhoi hyfforddiant dadansoddol perthnasol i’r myfyrwyr, fel eu bod yn gyfarwydd â’r datblygiadau damcaniaethol ac ymarferol diweddaraf mewn perthynas ag Astudiaethau Celtaidd. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd gan fyfyrwyr sail gadarn ym mhrif ddulliau a ffynonellau’r ddisgyblaeth, a byddant hefyd wedi datblygu sgiliau y gellir eu trosglwyddo’n eang ac a fydd yn berthnasol i amrywiaeth fawr o yrfaoedd.

Astudio ym Mangor

Gall myfyrwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd dysgu a gynigir yma yn un o gadarnleoedd yr ieithoedd Celtaidd, naill ai drwy fynychu cwrs haf cyn dilyn cwrs blwyddyn yn y Brifysgol, neu drwy gael gwersi bob wythnos ar y campws. Neu’r ddau.

A oes ffordd well o ddeall y Celtiaid na siarad un o’u hieithoedd?

Mae Bangor wedi ei lleoli mewn ardal brydferth yn hen deyrnas Gwynedd yng ngogledd orllewin Cymru, rhwng mynyddoedd Eryri a Môr Iwerddon. Mae canran helaeth o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, yr iaith Geltaidd gryfaf sy’n dal yn fyw. Mae Cymraeg, ynghyd â Saesneg, yn iaith swyddogol yn y wlad ddwyieithog hon.

Mae Ynys Môn gerllaw, sef hen ganolfan y Derwyddon, a dim ond dwy awr mae’n cymryd i deithio o Gaergybi ar Ynys Môn i Ddulyn neu Dun Laoghaire yn Iwerddon. Gellir cyrraedd Bangor yn rhwydd o weddill Prydain ar hyd y ffyrdd neu’r rheilffyrdd.

Gall y rhai sydd eisiau ymchwilio ymhellach i’w gwreiddiau Celtaidd gymryd mantais o’r dulliau cynhwysfawr i hel achau yn Llyfrgell y Brifysgol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Course content is for guidance purposes only and may be subject to change.

Course Content

Mae’r cwrs yn gwrs un flwyddyn (llawn amser) a gellir hefyd ei wneud yn rhan amser (gan amlaf hyd at dair blynedd). Ceir dwy ran i’r rhaglen gradd:

Rhan 1:

Mae hon yn elfen gwbl hyfforddedig, ac mae’n cyfrannu 120 credyd. Mae gan bob modiwl hyfforddedig bwysiad credyd o 40 credyd. Dysgir rhan 1 yn ystod dau semester y flwyddyn academaidd. Mae’r dysgu yn ystod semester 1 gan amlaf rhwng diwedd mis Medi a mis Rhagfyr. Mae’r dysgu yn ystod semester 2 gan amlaf rhwng diwedd mis Ionawr a dechrau mis Mai.

Bydd y modiwlau yn Rhan 1 yn cael eu hasesu trwy gyfrwng traethodau.

Rhan 2:

Mae rhan 2 yn cynnwys traethawd hir dan oruchwyliaeth o oddeutu 20,000 gair, ar bwnc o’ch dewis, a benderfynir ar ôl trafod gyda chynghorwr traethawd hir. Cwblheir yn ystod misoedd yr haf, rhwng diwedd mis Mai a mis Medi, a dylai myfyrwyr llawn amser gyflwyno eu traethodau hir erbyn mis Medi yn y flwyddyn galendr ar ôl cofrestru.

Modiwlau Gorfodol:

Y Celtiaid: Yr Hanfodion: Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r prif ffynonellau o wybodaeth am y ‘Celtiaid’, yn seiliedig ar ddau ddiffiniad gwahanol o’r ‘Celtaidd’. Rhoddir sylw manwl i’r diffiniadau hyn wrth edrych ar y dystiolaeth. Y dystiolaeth bennaf yw: (i) y defnydd o’r gair ei hun (‘Celt’, ‘Keltoi’, etc.) wrth ddiffinio neu hunan-ddiffinio; (ii) y prif ffynonellau am agweddau at hanes a hunaniaeth ’Celtiaid’ (a ddiffinnir yma fel pobl sy’n siarad neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd yn y cyfnod Modern.

Mae pedwar prif faes:

  • Tystiolaeth gan haneswyr Clasurol: testunau gan awduron fel Athaneus, Caesar, ac ati, lle y cyfeirir yn benodol at y Celtiaid.
  • Tystiolaeth archeolegol a gweledol, megis Hallstatt, La Tène, hanes celf a newid paradeimau archeolegol yn yr 20fed ganrif.
  • Tystiolaeth ieithyddol: Ieithyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg a darganfod/creu Indo-Ewropeaidd (ac felly’r ieithoedd Celtaidd).
  • Tystiolaeth hanesyddol a llenyddol ddiweddarach: Y prif ffynonellau am hanes y ‘Celtiaid’ diweddar (hynny yw canoloesol ac ôl-ganoesol): Croniclau a Chyfreithiau, storïau rhyddiaith a thraddodiadau barddol, hanes diweddar.

Creu’r Celtiaid Modern: Yn y modiwl hwn, byddwn yn archwilio sut y cafodd y cysyniad o’r ‘Celtiaid’ a’r ‘Celtaidd’ ei ddefnyddio a’i drin yn y cyfnod Modern. Byddwn yn ystyried ystod eang o ddisgyrsiau (e.e. ieithyddiaeth, archaeoleg, anthropoleg, celf, cerddoriaeth, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth). Byddwn yn archwilio’r hyn a ystyrir yn ddeunydd ‘Celtaidd’ yn y gwahanol feysydd hyn, ac yn trafod y prif ddadleuon a roddir gerbron wrth ddiffinio’r term. Rhoddir sylw hefyd i’r rhesymau ideolegol am yr awydd i ddefnyddio’r cysyniadau hyn, a’r dylanwad caiff hyn ar hunaniaethau ethnig a chenedlaethol y ’Celtiaid’ eu hunain. Felly mae’r modiwl hwn, o gymharu â Modiwl 1, yn symud y ffocws o’r empeiraidd i’r deongliadol, ac i’r defnydd o’r dehongliadau hynny.

Mae pedwar prif faes:

  • Agweddau newidiol tuag at y ‘Celtiaid’ mewn nifer o wahanol feysydd academaidd. Hynny yw, newidiadau methodolegol ac ideolegol mewn Ieithyddiaeth, Archaeoleg, Anthropoleg Gorfforol.
  • Y ‘Celtiaid’ mewn cyfryngau artistig anllenyddol (yn arbennig Celf, Cerddoriaeth).
  • Y ‘Celtiaid’ yn y cyfnod Rhamantaidd, gan ystyried sut cafodd llenyddiaeth ganoloesol (Cymraeg a Gwyddeleg yn bennaf) ei hailddarganfod a’i hail-ddehongli. Bydd unigolion fel Ossian ac Iolo Morganwg yn cael eu hystyried, a rhoddir sylw hefyd i ddatblygiad Astudiaethau Celtaidd fel maes academaidd ym mhrifysgolion Ewrop.
  • Y ‘Celtiaid’ gwleidyddol: damcaniaethau cenedlaetholdeb a swyddogaeth ‘Celtigrwydd’ mewn gwleidyddiaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i’r unfed ganrif ar hugain.

Modiwlau Dewisol:

Bydd y myfyriwr yn dewis trydydd modiwl o blith amrywiaeth o fodiwlau a gynigir gan wahanol Ysgolion yn y Brifysgol. Mae hyn yn galluogi’r myfyrwyr i ddilyn eu diddordebau arbennig ac, o bosibl, yn dechrau canolbwyntio ar ddeunydd ar gyfer y traethawd hir.

Dewis Llenyddiaeth Gymraeg: Mae’r modiwl hwn yn edrych ar brif agweddau llythrennedd ‘Celtaidd’ canoloesol, mewn barddoniaeth a rhyddiaith, ar draws ystod o genres o’r chwedlau rhyddiaith a barddoniaeth y llys i’r cyfreithiau a’r vitae (bucheddau Seintiau a theyrnaswyr). Mae’r prif ffocws ar Gymru ac Iwerddon, ond rhoddir ystyriaeth i’r ieithoedd Celtaidd eraill hefyd.

Yn yr un modd, byddwn yn ystyried parhad y traddodiadau cynnar hyn i’r cyfnod modern hyd at y presennol, ac yn gofyn beth mae’r dystiolaeth hon yn dweud wrthym am agweddau siaradwyr iaith Geltaidd i’r syniad o’r ‘Celtaidd’. Rhoddir sylw hefyd i’r cyfryngau gweledol a cherddorol, a bydd myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o’r prif ffynonellau a gyflwynir ac a gamddehonglir mewn llawer o drafodaethau am y ‘Celtaidd’.

Mae pum prif faes i’r modiwl hwn:

  • ‘Mytholeg;’: y dystiolaeth am dduwiau a chrefydd yn y cyfnod cynnar
  • Llawysgrifau a llythrennedd: prif lawysgrifau’r traddodiadau Cymraeg a Gwyddeleg
  • Eglwysi a Seintiau: ‘sefydliad’ yr Eglwys Geltaidd a Christnogaeth Geltaidd
  • Rhyddiaith: y Mabinogion a’r Chwedlau Gwyddelig
  • Barddoniaeth: y Bardd a’r drefn farddol yng Nghymru ac Iwerddon; y traddodiadau canu mawl a’r dychangerddi; barddoniaeth gyfoes a’r Eisteddfod.

 

 

Entry Requirements

Mae ein rhaglenni MA yn gofyn am radd gyntaf dda mewn pwnc perthnasol, e.e. llenyddiaeth, hanes, llên gwerin, mytholeg, llenyddiaeth gymharol, archaeoleg, anthropoleg o brifysgol, neu gymhwyster tebyg o unrhyw sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, caiff ymgeiswyr eu barnu yn ôl eu teilyngdod unigol, ac ystyrir eu hoedran, profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan raddedigion da mewn disgyblaethau perthnasol a chan y rhai hynny sydd â phrofiad gwaith a chymhwyster proffesiynol cyfatebol. Os nad ydych yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf, rhaid i chi ddangos tystiolaeth foddhaol bod gennych wybodaeth a dealltwriaeth ddigonol o Gymraeg neu Saesneg ysgrifenedig a llafar.

Mae cyrsiau Cymraeg ar gael fel y gall myfyrwyr sydd eisiau astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ddatblygu eu sgiliau. Cysylltwch â ni i gael manylion.

Mae sgoriau prawf IELTS a TOEFL ar y we o ddim llai na 6.0 a 87, yn y drefn honno, yn dderbyniol gan amlaf i’r rhai sydd eisiau astudio trwy gyfrwng y Saesneg. Efallai bydd rhaid i ymgeiswyr sy’n sgorio o dan y safon ofynnol fynychu cwrs dwys iaith Saesneg cyn cofrestru ar gyfer y rhaglen academaidd. Mae cwrs o’r fath ar gael ym Mangor, a gellir cael manylion llawn a ffurflen gais gan ELCOS: +44 (0)1248 382 252 / elcos@bangor.ac.uk / www.bangor.ac.uk/international/english

International Students

For information and further detailed guidance on entry requirements for International Students, including the minimum English Language entry requirement, please visit the Entry Requirements by Country pages on the International Education Centre section of our website.

Ask the IEC for assistance...

If you want advice or a general chat about what’s available contact the International Education Centre on +44 (0) 1248 382028 or email international@bangor.ac.uk

Apply

How to Apply

Home/EU students

Home/EU students: apply online yourself with the help of our Guidance Notes on online application for Home/EU students. We strongly recommend you read these before you start to apply online.

Apply online

Once you have read the Guidance Notes you should apply using our Online Application form.

Need help applying? Home/EU students please contact:

Postgraduate Admissions: postgraduate@bangor.ac.uk or write to:

Admissions Office
Bangor University
Gwynedd
LL57 2TF

Telephone: +44 (0)1248 383717.

International students

  • Agents: if you are an agent applying on behalf of the student, then you can Apply here. For further guidance click here

Need help applying? International students please contact:

International Education Office: international@bangor.ac.uk or write to

International Education Centre
Bangor University
Gwynedd
LL57 2DG

Telephone: +44 (0) 1248 382028

When to apply

The University will accept applications throughout the year, but we would generally advise that you send in your application form by the end of June to ensure that you have time to make any funding and/or accommodation arrangements, and for documents such as transcripts and references to be obtained if not submitted with the application. This will also give you more time to meet any conditions we may potentially attach to an offer.

Further information

Next steps