Her 30 copa mewn 30 awr
Alan OwenMae Alan Owen, Canolfan Brailsford, wedi gosod her codi arian arall iddo ei hun, sef cerdded y 15 copa uchaf yn Eryri ddwywaith mewn 30 awr.
Ynghyd â’i ffrindiau Stephen Edwards, Phil Jones, Gwyn Griffiths, Hannah Hughes, Dewi Ferreo a'r cyflwynydd teledu Cymraeg a rhedwr marathon, Lowri Morgan, mae'r tîm yn gobeithio cwblhau'r her ar Gorffennaf 26-27. Nod yr her yw codi ymwybyddiaeth o Awyr Las a #TeamIrfon, a chodi arian ar gyfer Hosbis yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae Alan wedi cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau codi arian ar gyfer elusennau canser lleol dros y blynyddoedd, gan gynnwys rhedeg Marathon Eryri chwe gwaith mewn chwe diwrnod yn olynol a rhedeg 112 milltir o lwybr arfordirol Ynys Môn mewn 24 awr.
Bydd her eleni yn arbennig o deimladwy oherwydd, yn anffodus, collodd Irfon Williams, ffrind agos i’r tîm, ei frwydr yn erbyn canser ym mis Mai. Roedd Mr Williams wedi defnyddio ei frwydr â chanser i dynnu sylw at drafferthion cleifion canser yng Nghymru, a hefyd i godi arian ar gyfer triniaeth.
Hyd yma, mae Alan wedi codi dros £20,000 ar gyfer ymgyrchoedd #TeamIrfon a #HawliFyw drwy gymryd rhan mewn nifer o heriau corfforol, gan gynnwys y Triathlon Ironman Cymru a Marathon Llundain.
I noddi Alan, ewch i dudalen JustGiving 30in30Challenge.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2017