

Meddwl Creadigol Allan o'r Bocs
Ysgol Haf i Fyfyrwyr CUPL
- Lleoliad:
- Ar-lein trwy Zoom
- Amser:
- Dydd Llun 4 Gorffennaf 2022 – Dydd Gwener 15 Gorffennaf 2022
- Cyswllt:
- Sefydliad Confucius
Cyflwyniad i 20 awr o Feddwl Beirniadol Dilyffethair
Drwy feddwl yn feirniadol, rydym yn ein gorfodi ein hunain i asesu ein barn ein hunain yn ogystal â barn eraill yn gywir (Linda Elder, 1999). Mae'r ymgais i fod yn eangfrydig, i feddwl am sut mae meddwl a datblygu mynegiant clir i gyd yn ganolog i feddwl beirniadol da. Bydd y gyfres hon o 10 dosbarth yn hwyluso sut i feddwl yn feirniadol, gan feithrin nodweddion defnyddiol fel y gallu i ganfod rhagfarn a chydbwysedd, bod yn gliriach mewn dadleuon yn ogystal â chyflwyno gwrthsafbwyntiau. Trafodir hefyd sut i ddefnyddio iaith ofalus yn gywir, datblygu’r gallu i ymholi, defnyddio cwestiynau meddylgar a pherthnasol ynghyd â meithrin dirnadaeth drylwyrach. Mae'n bwysig datblygu sgiliau o'r fath mewn cymaint o agweddau ar ein bywydau bob dydd yn ogystal ag yn ein hastudiaethau academaidd. Felly, mae'r cwrs rhyngweithiol difyr hwn yn ceisio annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn pynciau mor amrywiol â chwestiynu gwendidau yn yr iaith Saesneg ei hun, neu ochr foesol llofruddiaeth, neu ddod i gasgliad am gelf, neu sut y gall ffilmiau drin eu cynulleidfaoedd a hyd yn oed sut y gall Shakespeare herio ein rhagdybiaethau cynhenid.
- Rhagarweiniad
- Iaith Ofalus
- Hanes yr Iaith Saesneg
- Cyfiawnder
- Safbwyntiau
- Paragraffau Academaidd
- Celf a Chanfyddiad
- Beth yw Sinema?
- Shakespeare
- Diweddglo
Cyswllt: confuciusinstitute@bangor.ac.uk
Tiwtor: Anthony Brooks
Cofrestrwch erbyn Mehefin 30ain 2022
Poster