Cannoedd yn dod i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Tyrrodd heidiau o bobl i ganol dinas Bangor ddydd Sadwrn, 24 Chwefror i ddathlu Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 2018, Blwyddyn y Ci, gyda chyfres o berfformiadau lliwgar gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Mae'r Sefydliad Confucius wedi bod yn trefnu dathliadau'r flwyddyn newydd Tsieineaidd ers pum mlynedd erbyn hyn, gyda'r digwyddiad yn tyfu o ran poblogrwydd i fod yn un o’r uchafbwyntiau yng nghalendr diwylliannol yr ardal. Roedd y digwyddiad eleni yn dilyn Gŵyl Cymru-Tsieina Pontio y penwythnos cynt a oedd, ar y cyd â Theatr Invertigo a'r Sefydliad Confucius, yn dathlu diwylliannau Cymru a Tsieina gyda chyfres o berfformiadau eclectig a gweithgareddau dros dri diwrnod.
"Mae'n amlwg bod yna awydd cryf i brofi diwylliant Tsieineaidd yn y ddinas", meddai Emlyn Williams, Swyddog Project gyda Chyngor Dinas Bangor.
"Mae digwyddiadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd wedi bod yn fuddiol iawn i Fangor a'r ardal leol yn ehangach, gan ddod â'r gymuned at ei gilydd i ddathlu amrywiaeth ddiwylliannol a chynyddu'r hyn sydd gan ein rhanbarth i'w gynnig o ran twristiaeth."
Mynychodd tua 4,000 o bobl ddigwyddiad Sefydliad Confucius; a agorwyd gyda Gorymdaith y Ddraig ar hyd y Stryd Fawr, ac yna Gala Tsieineaidd yng Nghadeirlan Bangor. Roedd y perfformiadau yn cynnwys rhaglen ryfeddol o ddawns a cherddoriaeth Tsieineaidd a berfformiwyd gan artistiaid dawnus o'r Sefydliadau Confucius ym Mhrifysgol Bangor a'r London South Bank University. Bu i blant o Ysgol Ein Harglwyddes ac Ysgol Tsieineaidd Gogledd Cymru ym Mangor gymryd rhan hefyd, gan arddangos nifer o ddawnsfeydd y maent wedi bod yn eu dysgu trwy gydol y flwyddyn.
Roedd y gwesteion arbennig ar y diwrnod yn cynnwys Maer Bangor, y Cynghorydd Derek Hainge; yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor a'r actores leol Angharad Rhodes, 14 oed, sy'n fwyaf adnabyddus am ei rhan yn y gyfres deledu Melody ar CBeebies.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2018