Gwersyll Haf China 2019
Bob blwyddyn mae'r Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor gyda'u partner, Prifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a Chyfraith Tsieina (CUPL), yn trefnu taith i Tsieina. Mae'r daith hon yn gyfle gwych i deithio i wahanol ddinasoedd yn Tsieina, ac i ddysgu, ymarfer a phrofi'r iaith Fandarin a diwylliant Tsieineaidd yn y fan a'r lle. Trefnir y daith gyda phartneriaid eraill Sefydliad Confucius CUPL, a chaiff y myfyrwyr gyfle i gwrdd â chyfoedion o Rwmania, India'r Gorllewin a Norwy.
Eleni, cymerodd 11 o fyfyrwyr ran yn y daith bythefnos, gan dreulio'r wythnos gyntaf yn Beijing lle buont yn dysgu'r iaith Fandarin a chael eu trochi yn niwylliant a hanes Beijing. Cafodd y myfyrwyr ymweliadau cofiadwy â lleoedd hanesyddol, yn cynnwys : y Ddinas Waharddedig, Teml y Nefoedd, Palas yr Haf a sgwâr Tiananmen. Ymwelodd y myfyrwyr hefyd â phencadlys Sefydliad Confucius, CUPL, a Phrifysgol Chwaraeon Beijing.
Treuliwyd yr wythnos ganlynol yn Tai'an, Talaith Shandong. Profodd y myfyrwyr y bwyd a'r lletygarwch lleol gwych a chawsant gyfle i ymarfer eu sgiliau Mandarin newydd. Aethant hefyd i weld nifer o fannau o ddiddordeb a chymryd rhan mewn profiadau diwylliannol a llên gwerin unigryw, megis: dysgu sut i wneud tofu a chrempogau Tsieineaidd, mynd i weithdy ar dorri papur a theipograffeg, cymryd rhan mewn gwersi crefft ymladd, mwynhau gweithdy peintio Tsieineaidd a theatr cysgodion.
Dywedodd Erik Monfort-Finning, myfyriwr astudiaethau busnes o Brifysgol Bangor:
'Mae Gwersyll Haf 2019 Sefydliad Confucius wedi bod yn ddigwyddiad anhygoel! Ers imi dechrau yn y brifysgol roeddwn wedi bod yn chwilio am gyfle i brofi diwylliant ac iaith Tsieineaidd yn y wlad ei hun, cael ymweld â henebion mawr Tsieina, a chyfle i fwyta'r bwyd, i gerdded y strydoedd ac i ddod i adnabod pobl Tsieina. Diolch i'r Gwersyll Haf rwyf wedi gallu gwneud hyn a mwy. Mae pob diwrnod wedi bod yn eithriadol yn ei ffordd ei hun, o ymweld â'r ganolfan gymunedol i gerdded y wal fawr, o ymweld â phalas yr haf hardd i wneud Tai Chi ym Mhrifysgol Tai'an. Mae pob gweithgaredd unigryw wedi sicrhau ei le arbennig yn fy nghof. Diolch i hyn, mae fy nealltwriaeth o Tsieina wedi dyfnhau yn wirioneddol ac fy mwriad i a rhai eraill yn y Gwersyll yw dychwelyd i Tsieina cyn gynted â phosibl o ganlyniad i'r profiadau hyn. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a'n galluogodd i fwynhau'r gwersyll gan iddo fod yn brofiad sydd wedi newid ein bywydau. Diolch arbennig i Li lăoshī gan mai ef oedd yr un a roddodd wybod i ni am y gwersyll a dangos i ni gyfle mor wych ydyw. ‘
Dywedodd myfyriwr arall o Brifysgol Bangor, Raja Asad:
'Y ddrama gysgodion oedd un o'r pethau mwyaf diddorol i mi yn amserlen y gwersyll haf ac roeddwn yn edrych ymlaen ati ers y dechrau. I ddechrau cawsom gyfle i wneud ein cymeriadau ein hunain o doriadau papur ac yna cafwyd arddangosfa o theatr gysgodion. Cafodd ychydig o'r straeon Tsieineaidd traddodiadol eu portreadu drwy'r ddrama gysgodion gyda gwers ystyrlon tu ôl iddynt. Roedd yn anhygoel gweld sut roedd y llif yn berffaith ac yn llyfn y tu ôl i'r sgrîn a gallem weld sut roedd y perfformwyr yn trin y cymeriadau oddi ar sgrîn a oedd yn dangos eu symudiadau. Cafodd rhai ohonom gyfle hefyd i roi cynnig ar chwarae y tu ôl i'r sgrin gan yr athrawon. Yn sicr, hwn oedd un o'r profiadau diwylliannol mwyaf diddorol hyd yma yn Tsieina.‘
https://www.youtube.com/watch?v=qX2a14k_xUo
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2019