Newyddion: Chwefror 2016

Partneriaeth newydd i ddatblygu talent rygbi gogledd Cymru

Gallai chwaraewyr rygbi ifanc talentog wireddu eu breuddwyd o chwarae dros Gymru diolch i bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Bangor a Rygbi Gogledd Cymru (RGC). Drwy ysgoloriaethau chwaraeon Prifysgol Bangor ar gyfer athletwyr elît, mae saith myfyriwr sy'n chwarae i RGC, yr ochr rygbi ranbarthol ar gyfer gogledd Cymru, wedi gallu symud ymlaen i addysg uwch gan barhau i chwarae rygbi ar lefel uchel.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2016

Pencampwriaethau Rhwyfo Dan Do BUCS 2015-16

Bu dros 1,000 o gystadleuwyr o 35 sefydliad yn cymryd rhan ym Mhencampwriaethau Rhwyfo Dan Do Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2016

Myfyriwr Prifysgol Bangor wedi ei ddewis ar gyfer Carfan Rygbi Dan 20 Cymru

Mae myfyriwr sy’n astudio Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor wedi cael i ddewis ar gyfer carfan rygbi Dan 20 Cymru yng Nghystadleuaeth y 6 gwlad 2016.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2016