Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Hydref 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Rhagfyr 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Chwefror 2017
- Tachwedd 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Tachwedd 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Holl Newyddion A–Y
Holl Newyddion A–Y
Academydd o Fangor yn para’n un o Bencampwyr Rafftio Dŵr Gwyn Ewrop
Mae academydd o Brifysgol Bangor wedi cynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Rafftio Dŵr Gwyn Ewrop 2016 yn Tacen, Slofenia yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2016
Aelod o ‘Dîm Bangor’ yn ennill Medal Aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad
Mae medal Aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad newydd gael ei hennill gan aelod o dîm Prifysgol Bangor yng Ngemau’r Gymanwlad.
Mae Gareth (Gaz) Evans yn aelod o staff y brifysgol yn gweithio yng Nghanolfan Brailsford. Mae newydd gipio’r fedal Aur wrth godi pwysau yn y categori 69 cilogram ar gyfer dynion, gan lwyddo i godi 299 kg.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ebrill 2018
Aelod o staff Canolfan Brailsford i redeg marathon Eryri chwe gwaith mewn chwe diwrnod
Mae aelod o staff Canolfan Brailsford, canolfan chwaraeon Prifysgol Bangor, wedi rhoi her iddo'i hun i godi arian at apêl #TeamIrfon er budd Ward Alaw, yr uned ganser yn Ysbyty Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2015
Ailenwi Cae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn Stadiwm Prifysgol Bangor yn dilyn cytundeb partneriaeth o bwys
Bydd cartref Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn cael ei ail enwi yn Stadiwm Prifysgol Bangor wedi cytundeb rhwng y Clwb a’r Brifysgol.
Prifysgol Bangor fydd y partner gyda hawliau enwi, fel rhan o gytundeb tair blynedd, yr ail newid enw ers i’r Clwb symud i Nantporth yn 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2015
Athletwraig o Fangor yn derbyn gwobr Codwr Pwysau Ifanc Prydeinig y Flwyddyn
Catrin Jones, 17 oed o Fangor, yw Codwr Pwysau Ifanc Prydeinig y Flwyddyn, teitl a roddir i godwr pwysau Olympaidd am berfformiadau a llwyddiannau eithriadol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2017
Athletwyr Prifysgol Bangor ar frig y gynghrair traws gwlad
Llongyfarchiadau i Dîm Athletau Prifysgol Bangor a enillodd deitl Is-adran 1 am y tro cyntaf yn Grand Prix Traws Gwlad Cynghrair Gogledd Cymru yng Nghroesoswallt yn ddiweddar. Daeth y fuddugoliaeth 12 mis ar ôl cael eu dyrchafu i'r Adran Gyntaf.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2015
Aur i godwyr pwysau Prifysgol Bangor
Bu myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cymryd eu lle ar y podiwm ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Prifysgolion a Cholegau Prydain a gynhaliwyd ym Mhrifysgol St Mary’s yn Twickenham yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2018
Bangor yn dathlu cae chwarae pob tywydd i fyfyrwyr a'r gymuned leol
Mae Prifysgol Bangor a Chlwb Pêl-droed Dinas Bangor yn dathlu lansio project cae chwarae pob tywydd a fydd yn dod â myfyrwyr a'r gymuned leol ynghyd flwyddyn nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2014
Bangor yn disgleirio ar lwyfan y byd codi pwysau
Mae aelod staff, myfyrwraig ac athletwraig sydd wedi derbyn bwrsariaeth leol o Brifysgol Bangor wedi bod yn brysur ar lwyfan codi pwysau’r byd yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2016
Blwyddyn ragorol i Samantha
Mae enillydd ysgoloriaeth chwaraeon Prifysgol Bangor wedi cael blwyddyn lwyddiannus yn cystadlu mewn amryw o bencampwriaethau jiwdo.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2015
Bronze for Ben in Hill Climb Championship
Ddydd Sadwrn, 24 Hydref, fe wnaeth Ben Butler, myfyriwr PhD blwyddyn olaf yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, ennill medal efydd yn y British Universities Hill Climb Championship.
Daeth bron i 200 o feicwyr o brifysgolion ar draws Prydain i roi cynnig ar y ddringfa hynod galed i fyny'r Curbar Gap yn ardal y Peak. Mae graddiant o 11% dros 1 filltir ar y ffordd hon, sy'n golygu ei bod yn brawf caled iawn ar yr holl ymgeiswyr. Roedd y beicwyr yn cychwyn yn unigol gyda munud rhwng pob un gyda'u hamser gorau ar y ddringfa yn cael ei nodi.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2015
Camp lawn i Rhun
Mae myfyriwr o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac YmarferPrifysgol Bangor wedi cael blwyddyn gyntaf hynod lwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2016
"Canolfan Brailsford" am 8.30am ar ddydd Sadwrn 5ed Gorffennaf, 2014
"Canolfan Brailsford" am 8.30am ar ddydd Sadwrn 5ed Gorffennaf, 2014
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2014
Canolfan Brailsford ar ei newydd wedd
Ddydd Sadwrn yma (5 Gorffennaf) am 8.30 bydd y cyhoedd yn cael eu cyfle cyntaf i ymweld â’r Ganolfan Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor ar ei newydd wedd.
Bu’r Ganolfan Chwaraeon, sydd wedi ei hailenwi’n Ganolfan Brailsford, ynghau am y pythefnos ddiwethaf er mwyn cwblhau rhannau olaf project ailfodelu ac adnewyddu sydd wedi mynd ymlaen am flwyddyn ac wedi costio £2.5 miliwn.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2014
Catrin Jones yn ennill y fedal aur yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad
Roedd buddugoliaeth cludydd baner tîm Cymru, Catrin Jones, wrth iddi ennill y fedal aur yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Samoa yn coroni dechrau gwych i'r twrnamaint i Dîm Codi Pwysau Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2015
Codi tua’r entrychion! Catrin yn llwyddo ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop
Mae athletwraig leol sy’n ddeiliad bwrsariaeth chwaraeon gan Brifysgol Bangor wedi dychwelyd o’r European Youth Weightlifting Championships yng Ngwlad Pwyl â medal arian yn y ‘snatch lift’ a medal efydd am ei holl ymdrechion yn y categori 48kg.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016
Codwyr pwysau Bangor yn codi’r bar unwaith yn rhagor
Cafwyd tystiolaeth bellach o enw da Prifysgol Bangor fel cadarnle o ragoriaeth ym maes codi pwysau wrth i’w hathletwyr-fyfyrwyr dorri sawl record ym Mhencampwriaeth y Welsh Seniors yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2019
Coroni Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn Junior British Hill Climb Champion 2019
Chris Mann, myfyriwr sydd newydd ddechrau ei flwyddyn gyntaf yn astudio gwyddorau chwaraeon, sydd wedi ennill y teitl Junior British Hill Climb Champion 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019
Creu Canolfan Syrffio o Ragoriaeth yn Eryri
Mae Prifysgol Bangor a Surf Snowdonia wedi arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth a fydd yn paratoi’r ffordd i gydweithio ar amrywiaeth o gyfleoedd a chynlluniau newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2015
Cwpan y Byd 2014: Mae ennill gornest gicio o'r smotyn yn gofyn am wytnwch meddwl: ond yn ffodus, mae'n rhywbeth y gellir ei ddysgu
Mae'r gornestau cicio o'r smotyn, sy'n penderfynu tynged gêm, wedi dechrau yng Nghwpan y Byd 2014. Ar ôl dwy awr o chwarae sy'n dreth gorfforol ac emosiynol ar y chwaraewyr, rhaid iddynt sefyll mewn rhes a fesul un, herio'r gôl geidwad o'r smotyn. Mae canlyniad cic o'r smotyn yn creu arwyr a dihirod, ac mae unrhyw un sy'n gwylio - p'un a ydyn nhw'n cefnogi un o'r timau sy'n chwarae ai peidio - yn gallu cydymdeimlo á'r chwaraewyr hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2014
Cynigion Penblwydd Aelodaeth i’r Gampfa 1af Gorffennaf tan 1af Awst
Prisiau unigryw ar yr aelodaethau dilynol i’r gampfa yn unig:
Aelodaeth i’r Gampfa yn Unig i Staff dim ond £179
Aelodaeth i’r Gampfa yn Unig i’r Cyhoedd dim ond £225
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2015
Cynnal cystadleuaeth Sboncen Merched y PSA yn y Brifysgol am y tro cyntaf
Canolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor, fydd y llwyfan ar gyfer cystadleuaeth sboncen merched y PSA (Professional Squash Association) yr wythnos hon – y gystadleuaeth gyntaf o’i bath i gael ei chynnal yn y Brifysgol a’r gyntaf hefyd i’w chynnal yng Nghymru. Gan ddechrau ar ddydd Mercher 20 Mehefin, bydd y brwydro dwys dros bum niwrnod yn arwain at gêm derfynol y gystadleuaeth, a gwobr o $5000, i’w chynnal ddydd Sul.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2018
Cystadleuaeth Meistri Codi Pwysau Ewrop yn dod i Fangor
Cynhelir cystadleuaeth Codi Pwysau Meistri Ewrop yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor, Canolfan Brailsford rhwng 13 - 20 Mehefin, 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2015
Dadorchuddio Sêr Cwpan y Byd Nesaf Lloegr
Tra bo llwyddiant diweddar cricedwyr Lloegr yng Nghwpan y Byd yn dal yn fyw yn y cof, mae ymdrechion i baratoi'r genhedlaeth nesaf o gricedwyr eisoes ar y gweill ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2019
Darryl yn llwyddo i amddiffyn ei Deitl Pencampwriaethau’r Byd
Mae myfyriwr sydd wedi ennill teitlau Pencampwriaethau Cic-Focsio ers 2009 yn cymryd amser o’i astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor i amddiffyn ei Deitl Pencampwr Cic-Focsio’r Byd.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013
Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor
Bob blwyddyn, mae Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr talentog ym maes chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio am radd mewn unrhyw bwnc.
Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a llwyddiant mewn chwaraeon. Eu pwrpas yw helpu myfyrwyr dawnus o safon uchel i gyfuno eu hastudiaethau academaidd â’u perfformiad chwaraeon i'w cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2020
Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor
Bob blwyddyn, mae Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr talentog ym maes chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio gradd mewn unrhyw bwnc.
Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a llwyddiant mewn chwaraeon. Eu pwrpas yw helpu myfyrwyr dawnus o safon uchel i gyfuno eu hastudiaethau academaidd a’u perfformiad chwaraeon i'w cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2018
Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor
Pob blwyddyn, bydd Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr sydd yn ddawnus mewn chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd mewn unrhyw bwnc. Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a llwyddiant mewn chwaraeon.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018
Dysgwch reoli eich pwysau mewn ffordd iach
Ydi labeli bwyd a faint o fwyd sydd ar eich plât yn eich drysu ? Hoffech ddysgu mwy am ryseitiau iach a theimlo’n iachach gyda chynllun tymor hir i reoli eich pwysau? Bydd Canolfan Brailsford, canolfan chwaraeon Prifysgol Bangor, yn cynnal rhaglen wyth wythnos 'Bwyd Doeth am Byth' sy'n defnyddio dulliau seiliedig ar dystiolaeth i reoli pwysau.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2017
Efrydiaeth PhD ym maes Ffisioleg Gardiofasgwlaidd Glinigol
Mae Dr Aamer Sandoo, Dr Jonathan Moore a Dr Yasmeen Ahmad yn gwahodd ymgeiswyr i wneud cais am efrydiaeth PhD wedi ei chyllido'n llawn (£13,000 y flwyddyn, ynghyd â ffioedd dysgu ar gyfradd y DU/UE) fydd yn ymchwilio i effaith ymyriadau newydd a all leihau'r risg o glefyd cardiofasgwlaidd mewn cleifion ag arthritis rhiwmatoid. Bydd y project yn adeiladu ar brojectau cydweithredol presennol gyda Chanolfan Rhiwmatoleg Peter Maddision a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2015
Efydd i Catrin ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Prifysgolion y Byd
Llongyfarchiadau mawr i Catrin Jones, myfyrwraig Seicoleg a derbynnydd yr ysgoloriaeth chwaraeon, ar ennill medal efydd ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Prifysgolion y Byd yng Ngwlad Pwyl yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2018
FfitCymru a Phrifysgol Bangor yn gwella iechyd a ffitrwydd y genedl
Bydd arbenigeddau Prifysgol Bangor i’w gweld ar S4C dros yr wythnosau nesaf wrth i raglen newydd ac arloesol, FfitCymru, gael ei darlledu. Bydd y rhaglen yn dilyn 5 aelod o’r cyhoedd wrth iddynt gyflwyno newidiadau sylweddol i’w bywydau er mwyn colli pwysau a datblygu eu ffitrwydd. Yn wahanol i’r rhelyw o raglenni tebyg a welwyd yn y gorffennol, bydd modd i wyliwyr y rhaglen ddewis yr aelod y maent hwy yn uniaethu gyda nhw fwyaf ac yna dilyn yr un rhaglenni ffitrwydd a defnyddio’r un ryseitiau ar gyfer bwytau’n iach er mwynt iddynt hwythau hefyd brofi’r un buddiannau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018
FFIT Cymru yn ôl am ail gyfres – a Mared yn arwain y ffordd!
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019
Gall y Ferch yma o Fangor
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2015
Gavin yn cael ei ddewis i chwarae i dîm pêl-droed Prifysgolion Cymru
Wrth i baratoadau Bale, Ramsey, Hennessey a gweddill carfan bêl-droed Cymru fynd rhagddynt ar gyfer pencampwriaeth UEFA Ewro 2016 yn Ffrainc eleni, bydd un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Gavin Lloyd-Jones, hefyd yn awyddus i ganfod cefn y rhwyd fel aelod o dîm pêl-droed Prifysgolion Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2016
Gêm Bêl-droed Elusennol i godi arian at Movember
Bydd staff o Brifysgol Bangor yn cystadlu mewn gêm bêl-droed elusennol i helpu i godi arian tuag at Movember, elusen sy'n codi ymwybyddiaeth ynghylch canser y brostad, canser y ceilliau ac iechyd meddwl, a chodi arian hanfodol at hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2013
Gosod arwyddion newydd yn stadiwm Prifysgol Bangor
Heddiw (16 Hydref), dadorchuddiwyd arwyddion newydd Stadiwm Prifysgol Bangor, sef cartref Clwb Pêl-droed Dinas Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2015
Grŵp o Brifysgol Bangor i ymchwilio i salwch pen mynydd mewn taith i Fynyddoedd yr Himalaia
Yr wythnos hon, bydd academyddion o Brifysgol Bangor yn arwain taith i Fynyddoedd yr Himalaia fel rhan o broject ymchwil fydd yn edrych ar salwch cysylltiedig â bod ar ben mynyddoedd uchel. Bydd yr ymchwilwyr Dr Samuel Oliver a Dr Jamie Macdonald, Gabriella Rossetti sy'n fyfyriwr PhD, a James Pollard sy'n fyfyriwr israddedig Gwyddorau Chwaraeon - i gyd o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac YmarferPrifysgol Bangor - yn rhan o dîm o 55 o bobl a fydd yn cynnwys meddygon, gwyddonwyr ac achubwyr mynydd. Bydd y tîm yn dechrau'r daith ar 20 Mawrth ac yn dychwelyd ar 25 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2015
Gwobr Goffa Llew Rees 2019
Mae'r Brifysgol wedi dyfarnu ei gwobr flynyddol am lwyddiant ym maes y campau, Gwobr Goffa Llew Rees, i Theo Schoebel, am flwyddyn eithriadol o lwyddiannau Karate ar lwyfannau domestig a rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2019
Gwobr Goffa Llew Rees yn cael ei rhoi i chwaraewr rygbi hynod addawol
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ei Gwobr Goffa Llew Rees flynyddol i un o chwaraewyr rygbi addawol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2016
Hannah yn Ennill Medal Aur yn Awstria
Enillwyd medal aur yn 12fed Grand Prix Codi Pwysau Ewropeaidd Rhyngwladol Vienna, Awstria gan fyfyriwr Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015
Help gan Blizzard
Gallai siacedi arbennig sydd wedi’u gwneud yng Nghymru helpu i gadw athletwyr Cymru’n gynnes pan fydd y gystadleuaeth yn poethi yn Glasgow.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014
Her 30 copa mewn 30 awr
Mae Alan Owen, Canolfan Brailsford, wedi gosod her codi arian arall iddo ei hun, sef cerdded y 15 copa uchaf yn Eryri ddwywaith mewn 30 awr.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2017
Llongyfarchiadau calonnog i Rhiannon Williams, un o fyfyrwyr Ysgoloriaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau calonnog i Rhiannon Williams, un o fyfyrwyr Ysgoloriaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2017
Llwyddiannau i Brifysgol Bangor ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Cymru
Gwnaeth Prifysgol Bangor ei marc ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar lle gwelwyd enillwyr bwrsariaethau chwaraeon lleol, myfyriwr ac aelod o staff yn cymryd eu lle ar y podiwm.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2015
Medal arian i fyfyrwraig o Gymru
Daeth Myfyrwraig o Brifysgol Bangor adref gyda medal arian dros Gymru o Bencampwriaethau Codi Pwysau'r Gymanwlad yn Awstralia yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2017
Medal Arian i Joe ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Athletau BUCS
Enillodd derbynnydd Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Bangor fedal arian ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Athletau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ym Mharc Holyrood, Caeredin yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2020
Medal Efydd i Tesni!
Mae Tesni Evans, deiliad un o fwrsariaethau Athletwyr Lleol Prifysgol Bangor, wedi ychwanegu medal Efydd at gyfanswm cyfredol Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia, drwy drechu Nicol David o Malaysia mewn gornest wefreiddiol ar yr Arfordir Aur.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2018
Myfyriwr ac aelod staff o Brifysgol Bangor yn cael eu dewis ar gyfer Pencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop 2016
Mae myfyrwraig ac aelod staff o Brifysgol Bangor wedi cael eu dewis i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop, a gynhelir yn Førde, Norwy rhwng 10-16 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2016
Myfyriwr o Brifysgol Bangor i gaiacio trip unwaith-mewn-oes
Mae myfyriwr dylunio cynnyrch sydd yn ei ail flwyddyn, yn athletwr antur a Christion o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn y British Universities Kayak Expedition (BUKE).
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2019
Myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi'i ddewis ar gyfer Tîm Rygbi'r Gynghrair Prifysgolion Cymru
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i chwarae i Dîm Rygbi'r Gynghrair Myfyrwyr Cymru ar gyfer Cystadleuaeth y Pedair Gwlad, a fydd yn cael ei chwarae ym Mhrifysgol Caeredin rhwng 22-30 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2019
Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn cael ei ddewis i sgwad Rygbi Cynghrair Cymru
Mae Rygbi Cynghrair Cymru wedi cadarnhau eu sgwad myfyrwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer pencampwriaeth y pedair gwlad sy’n cychwyn ar 12 Mehefin yng Nghaeredin, lle bydd Cymru'n chwarae yn erbyn Iwerddon, Lloegr a'r Alban.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2016
Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn dychwelyd o raglen hyfforddi pêl-droed yn Ne Affrica
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi dychwelyd o raglen hyfforddi pêl-droed yn Ne Affrica yn sylweddoli ei fod 'yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl'.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2018
Myfyriwr PhD yn ennill teitlau Tenis Cymru
Mae myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor wedi ennill dau deitl mawr ym Mhencampwriaethau Tenis Cymru 2017 yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2017
Myfyriwr Prifysgol Bangor wedi ei ddewis ar gyfer Carfan Rygbi Dan 20 Cymru
Mae myfyriwr sy’n astudio Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor wedi cael i ddewis ar gyfer carfan rygbi Dan 20 Cymru yng Nghystadleuaeth y 6 gwlad 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2016
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn cael ei ddewis ar gyfer Tîm Undeb Rygbi Prifysgolion Cymru
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i chwarae i dîm Undeb Rygbi Myfyrwyr Cymru ar gyfer y tymor hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2015
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn un o’r rhai ieuengaf erioed i ennill gwregys du ail radd Jiu Jitsu Japaneaidd
Myfyriwr o Brifysgol Bangor yw'r bedwaredd ferch yn y byd, ac un o’r rhai ieuengaf erioed i gael gwregys du ail radd mewn Jiu Jitsu Japaneaidd
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2016
Myfyrwraig Prifysgol Bangor i gynrychioli Prydain Fawr mewn Pencampwriaethau Cyfeiriannu
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Cyfeiriannu Prifysgolion y Byd yn y Ffindir ym mis Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2018
Myfyrwraig Seicoleg Prifysgol Bangor yn ennill Gwobr Athletwraig Ifanc y Flwyddyn BBC Cymru 2017
Mae myfyrwraig Seicoleg sydd ar ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill gwobr Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2017
Myfyrwyr Bangor yn cynrychioli Prifysgolion Cymru mewn cystadleuaeth chwaraeon cenedlaethol
Dewiswyd deg myfyrwraig o Brifysgol Bangor i gynrychioli timau prifysgolion Cymru yng nghystadleuaeth y Gwledydd Cartref yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2017
Myfyrwyr Bangor yn fuddugol mewn Pencampwriaethau Codi Pwysau yn Lloegr
Enillodd dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor fedalau aur ac arian yn y Pencampwriaethau Lloegr 2015 ar gyfer Codi Pwysau, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Castleford, Gorllewin Swydd Efrog.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2015
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cael eu dewis ar gyfer sgwad Pêl-droed Prifysgolion Cymru
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cael eu dewis i chwarae i dîm pêl-droed Prifysgolion Cymru mewn gemau cyfeillgar rhyngwladol yn erbyn Prifysgolion yr Alban a Phrifysgolion Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2015
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cynorthwyo tîm pêl-droed newydd yn Amlwch
Wrth i ni edrych ymlaen at Bencampwriaeth Euro 2016, mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor wedi bod yn cynorthwyo tîm pêl-droed newydd sbon yn Amlwch mewn cyfres newydd ar S4C.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2016
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cyrraedd copa Kilimanjaro
Ar ôl chwe diwrnod o waed, chwys a dagrau bu grŵp o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu cyrraedd copa Mynydd Kilimanjaro i godi pres ar gyfer elusen.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2015
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu buddugoliaeth Varsity 2015 dros Aberystwyth
Yn ddiweddar, daeth mwy na mil o fyfyrwyr Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth at ei gilydd yn stadiwm Clwb Pêl-droed Dinas Bangor i wylio'r gêm olaf yng nghyfres Varsity 2015. Daeth y cystadlu i ben gyda Llywydd Undeb Athletau Prifysgol Bangor, Nicola Pye, yn casglu’r tlws am y tro cyntaf ers dwy flynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2015
My Protein
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn gwerthu cynnyrch ‘My Protein' mae rhain ar gael am bris gwych o £15 am bag protein 1k. Yn cynnwys blas fanila, mefysen a siocled. Mae Caffi Brailsford hefyd yn gweini diodydd protein ffres ac eitemau byrbryd protein.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ionawr 2015
Newyddion y Ganolfan
Mae'r Ganolfan ar gau Dydd Llun 31ain o Awst- Gŵyl y Banc . Ail- agor fel arfer Dydd Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2015
Partneriaeth newydd i ddatblygu talent rygbi gogledd Cymru
Gallai chwaraewyr rygbi ifanc talentog wireddu eu breuddwyd o chwarae dros Gymru diolch i bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Bangor a Rygbi Gogledd Cymru (RGC). Drwy ysgoloriaethau chwaraeon Prifysgol Bangor ar gyfer athletwyr elît, mae saith myfyriwr sy'n chwarae i RGC, yr ochr rygbi ranbarthol ar gyfer gogledd Cymru, wedi gallu symud ymlaen i addysg uwch gan barhau i chwarae rygbi ar lefel uchel.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2016
Pencampwraethau'r Byd llwyddiannus i Catrin
Mae Catrin Jones, myfyrwraig Prifysgol Bangor sydd hefyd yn enedigol o’r ddinas, wedi cyrraedd y pedwerydd safle ym Mhencamwriaethau Iau Codi Pwysau’r Byd, a gynhaliwyd yn Wsbecistan yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018
Pencampwr Codi Pwysau Ewropeaidd yn ennill Gwobr Goffa Llew Rees
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ei gwobr chwaraeon uchaf flynyddol, Gwobr Goffa Llew Rees, i Bencampwraig Codi Pwysau Ewropeaidd 2017. Dyfarnwyd y wobr i Chrystal Williams, 21, o Bolton gan ei bod wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i godi proffil chwaraeon Prifysgol Bangor drwy ei llwyddiant personol ar lefel ryngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2017
Pencampwr Codi Pwysau’r Gymanwlad yn ennill Gwobr Goffa Llew Rees
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ei gwobr chwaraeon uchaf flynyddol, Gwobr Goffa Llew Rees, i Godwr Pwysau a gynrychiolodd Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2018
Pencampwriaethau Codi Pwysau Hŷn Cymru yn dod i Fangor
Cynhelir Pencampwriaethau Codi Pwysau Hŷn Cymru yng Nghanolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor ar 12 Mawrth, 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2016
Pencampwriaethau Rhwyfo Dan Do BUCS 2015-16
Bu dros 1,000 o gystadleuwyr o 35 sefydliad yn cymryd rhan ym Mhencampwriaethau Rhwyfo Dan Do Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2016
Presenoldeb cryf gan Brifysgol Bangor yng Ngemau'r Gymanwlad 2018
Bydd staff, myfyrwyr ac alumni Prifysgol Bangor yn cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, Awstralia.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017
Prifysgol Bangor ac Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru’n dod ynghyd i greu rhagor o gyfleoedd i chwarae
Diolch i gefnogaeth Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain a Chwaraeon Cymru, mae Prifysgol Bangor ac Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru yn lansio menter newydd gyffrous.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2016
Prifysgol Bangor a Sboncen Cymru'n lansio partneriaeth arloesol newydd
Mae Prifysgol Bangor a Sboncen a Phêl Raced Cymru (Wales Squash & Racketball - WSRB) yn dathlu lansio partneriaeth arloesol newydd i helpu'r chwaraewyr sboncen ifanc gorau i gael llwyddiant ar y cwrt ac oddi arno.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2016
Prifysgol Bangor i droi’n goch i gefnogi Tîm Cymru
Ar Fawrth 23, bydd Prif Adeilad Prifysgol Bangor yn troi’n goch i ddangos cefnogaeth i athletwyr Cymru sy’n cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia fis nesaf
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2018
Prifysgol Bangor yn agor cae 3G newydd ar safle Treborth
Gerbron staff Prifysgol Bangor, clybiau’r Undeb Athletau, cynrychiolwyr timau lleol a chyrff cenedlaethol, agorwyd cae chwarae newydd sy’n mabwysiadu’r dechnoleg 3G fodern yn ddiweddar (Hydref 16).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019
Prifysgol Bangor yn Llongyfarch athletwyr Gemau’r Gymanwlad
Manteisiodd Prifysgol Bangor yn ddiweddar ar y cyfle i longyfarch yr aelodau hynny o garfan llwyddiannus Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad sydd â chysylltiad â Phrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2018
Safle gwych ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ieuenctid y Byd i Catrin
Bu codwr pwysiau ifanc yn cymryd rhan yn ei chystadleuaeth ryngwladol cyntaf yn Lima, Peru yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2015
Sut ddylai’r athletwyr gorau baratoi i ymdopi â gwres?
Er mwyn cystadlu ar eu gorau mewn hinsawdd gwlad boeth, mae’n ofynnol i athletwyr o’r safon ddod i’r arfer â’r hinsawdd yno.
Er mwyn gwneud hyn, mae athletwyr fel rheol yn ymarfer mewn gwres am 10-14 diwrnod er mwyn i’w cyrff gynefino â’r gwres un ai drwy symud i wlad boeth i ymarfer neu, i’r ychydig ffodus, ymarfer yn ddyddiol mewn siambr amgylcheddol sy’n efelychu hinsawdd gwlad boeth.
Mae hyn yn galluogi eu cyrff i berfformio i’r eithaf, ond nid yw’r dewisiadau hyn ar gael i bawb.
Mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dangosodd yr Athro Walsh a’i dîm yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor, bod cael bath poeth wedi ymarfer mewn amgylchiadau mwyn am chwe diwrnod ar ôl ei gilydd yn sbarduno newidiadau yn y corff sy’n dynwared sut y mae’r corff yn cynefino â thywydd poeth.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2016
Swyddog Cefnogi Project Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Gwahoddir ceisiadau am y swydd ran-amser (£11.03 yr awr) dros dro (3 mis) uchod yn yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio â Dr Eleri Siân Jones ar broject a gyllidir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef astudiaeth ddilysu draws ddiwylliannol o holiadur Pryder Ynghylch Perfformio.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2015
Syr Dave Brailsford yn agor Canolfan Chwaraeon a enwyd i’w anrhydeddu
Bu Syr Dave Brailsford yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar (5 Tachwedd) i agor yn swyddogol Canolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor sydd newydd ei hadnewyddu ac a ailenwyd i anrhydeddu rheolwr y tîm seiclo llwyddiannus.
Ail-agorwyd y Ganolfan Chwarae cyn y flwyddyn academaidd hon yn dilyn buddsoddiad o £2.5 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf yn ail-fodelu’r ganolfan, ac mae wedi cael croeso cynnes gan y myfyrwyr a’r cyhoedd hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2014
Tesni Evans yn cyflawni camp ryfeddol drwy ennill y National Championships
Cyflawnodd Tesni Evans, deiliad un o fwrsariaethau Athletwyr Lleol Prifysgol Bangor, gamp ryfeddol ddydd Sul (18 Chwefror) pan enillodd y ferch o’r Rhyl gystadleuaeth sboncen y National Championships ym Manceinion. Tesni yw’r ferch gyntaf o Gymru i lwyddo yn y fath fodd, ffaith sy’n cadarnhau ei safle fel y Gymraes fwyaf llwyddiannus yn y gamp.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2018
'Tîm Bangor' yn disgleirio ar y llwyfan codi pwysau yn Samoa
Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn perfformio'n syfrdanol ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau'r Gymanwlad yn Samoa.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2019
Tîm Cymru o dan 21 yn Hyfforddi ym Maes Glas
Ar ôl y llwyddiant o groesawu tîm Dan 21 y Ffindir yma cyn eu gêm yn erbyn Cymru ym mis Awst, bydd tîm Dan 21 Cymru yn defnyddio Prifysgol Bangor fel safle ymarfer cyn dwy gêm mis yma.Bydd y sgwad yn chwarae yn erbyn Lithuania a San Marino yn stadiwm BookPeople Bangor ac yn defnyddio caeau Treborth Prif Ysgol Bangor i baratoi cyn y gemau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2013
Tîm Pêl-Rwyd Iau Maes Glas yn mynd i’r Pencampwriaethau Cenedlaethol
Yn dilyn agoriad dôm pêl-rwyd Prifysgol Bangor ym Medi 2013, bu Swyddog Datblygu Pêl-Rwyd Gogledd Orllewin Cymru, Lucy Murray-Williams, yn gweithio’n galed i sefydlu clwb pêl-rwyd iau ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7/8 a 9.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2014
Tocyn Anrheg
Rydym nawr yn falch o gynnig y cyfle i drin rhywun arbennig gyda thocyn anrheg Brailsford. Gall brynu tocyn ar gyfer aelodaeth campfa mewn £10, £20, £30 a £35.
Gellir brynu’r Tocynau Anrheg o’r Dderbynfa.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ionawr 2015
Wyth o fyfyrwyr Bangor yn rhan o garfanau Prifysgolion Cymru
Mae wyth o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi cael eu dewis ar gyfer carfanau Prifysgolion Cymru a fydd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth y Cenhedloedd Cartref a gynhelir rhwng 16 - 18 Ebrill yng Nghaerdydd a Glasgow.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 2019
Y bedwaredd fuddugoliaeth yn olynol i Fangor yn y Bencampwriaeth Ryng-golegol
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol mae Prifysgol Bangor wedi ennill y Bencampwriaeth Ryng-golegol - twrnamaint chwaraeon blynyddol yn erbyn Prifysgol Aberystwyth - gyda sgôr terfynol o 33-10 i Fangor.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2018
Yr Arglwydd Coe yn agor y Dôm Chwaraeon newydd
Daeth yr Arglwydd Coe, yr un a wireddodd y freuddwyd o ddod â'r Gemau Olympaidd i Lundain yn 2012, i Brifysgol Bangor yn ddiweddar i agor cyfleuster chwaraeon newydd yn swyddogol. Yn ystod ei ymweliad â'r Brifysgol, agorodd Seb Coe gyfleuster tenis a phêl rwyd newydd yn swyddogol yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2013