Llongyfarchiadau calonnog i Rhiannon Williams, un o fyfyrwyr Ysgoloriaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau calonnog i Rhiannon Williams, un o fyfyrwyr Ysgoloriaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor. Yn ddiweddar mi ‘roedd hi yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Tae Kwon-Do Agored Ewrop yng Ngwlad Pwyl lle enillodd hi dair medal efydd yng nghystadlaethau Sbario Parhaol, Tîm Tag Pwysau Agored ac yn y gystadleuaeth ryngwladol i dimau (cystadlu yng nghategori 61 cilogram}. Dim ond prin colli yn erbyn pencampwr y byd yng ngornestau unigol â thimau.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2017