Newyddion: Chwefror 2017

Dathlu Llwyddiant ar Ddydd Gŵyl Dewi

Bydd Prifysgol Bangor yn nodi Dydd Gŵyl Dewi eleni trwy gynnal digwyddiad i ddathlu llwyddiant tri thîm sydd wedi sgorio’r marciau uchaf posib mewn arolwg annibynnol o wasanaethau Cymraeg.

Llwyddodd tîm y Switsfwrdd Canolog a thîm Derbynfa Pontio i sgorio 100% mewn ymchwiliad i wasanaethau ffôn a derbynfa gan Gomisiynydd y Gymraeg. Yn ystod ymarfer siopwr cudd gan swyddfa’r Comisiynydd, cysylltwyd â’r timau hyn dair gwaith a llwyddodd y timau i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn a chwrtais bob tro. Roedd yr Arolwg Sicrwydd gan Swyddfa’r Comisiynydd yn un cenedlaethol a dim ond nifer cymharol fychan o weithleoedd a lwyddodd i sgorio 100%.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2017