Module HTC-3128:
Cestyll a Chymdeithas
Cestyll a Chymdeithas 2022-23
HTC-3128
2022-23
Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
20 credits
Module Organiser:
Euryn Roberts
Overview
Bydd y modiwl yn edrych ar y themâu canlynol:
- Cefndir a chyd-destun hanesyddiaethol; 2. Gwreiddiau cestyll y cyfnod; 3. Cestyll a chrefft rhyfela yn y cyfnod; 4. Castell pawb ei dŷ: cestyll fel cartrefi ac anheddau; 5. Astudiaeth achos 1: Cestyll y Croesgadwyr 1098-1291; 6. Cestyll y dychymyg a’r delfryd sifalrig; 7. Astudiaeth achos 2: Cestyll yng Nghymru 1063-1415; 8. Tirlun a phensaernïaeth gastellog; 9. Cestyll a chartrefi caerog yr Oesau Canol Diweddar; 10. Machlud Cestyll yr Oesau Canol?
Ceir cyfle yn ystod y seminarau i archwilio’r themâu hyn ymhellach.
Assessment Strategy
-threshold -TrothwyBydd myfyrwyr trothwy (D- [42%]) yn dangos gwybodaeth sylfaenol o rannau o leiaf o’r maes perthnasol a byddant yn gwneud ymdrechion lled lwyddiannus o leiaf i lunio dadl sy’n cydnabod y ceir gwahaniaethau mewn dehongliad hanesyddol. -good -Da Bydd myfyrwyr da (C-, C, C+ [50au]) yn dangos lefel uwch o wybodaeth, a’r gallu i gyflwyno dadl gydlynol sy’n cael ei chynnal gan dystiolaeth addas am nifer o agweddau ar y testun. Bydd myfyrwyr da iawn (B-, B, B+ [60au]) yn dangos lefel gadarn o gyrhaeddiad yn yr holl feini prawf a restrwyd yn y paragraffau uchod. -excellent -Rhagorol Bydd myfyrwyr rhagorol (A-, A, A+, A* [70au ac uwch]) yn dangos y cyrhaeddiad cadarn hwn ar draws yr holl feini prawf ynghyd â dyfnder gwybodaeth drawiadol iawn a/neu allu dadansoddol eithriadol graff.