Module SCS-4010:
Hawliau Ieithyddol
Hawliau Ieithyddol 2022-23
SCS-4010
2022-23
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Cynog Prys
Overview
Ceir ymdriniaeth drylwyr o faes hawliau ieithyddol yn ystod y modiwl hon. Mae'n cynnwys ymdrin â'r ddadl ynghylch hawliau ieithyddol a gosod yr hawliau hyn o fewn fframwaith polisi hanesyddol y maes ac yn ogystal o fewn cyd-destun ehangach hawliau lleiafrifol. Mae'r modiwl yn pwyso a mesur hawliau'r unigolyn a hawliau grwp a'r damcaniaethau allweddol sydd ynghlwm wrthynt. Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys trafodaeth ynglyn â sicrhau hawliau ieithyddol mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yng Nghymru, ac yn ogystal, yn tynnu ar ddatblygiadau ar lefel Ewropeaidd yn y maes.
Assessment Strategy
-threshold -Er mwyn llwyddo yn y modiwl hwn, bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflawni'r deilliannau ar y lefel sylfaenol. H.y. bydd gofyn iddynt ddangos ymwybyddiaeth o brif gysyniadau sy’n ymwneud â Chynllunio Ieithyddol yng Nghymru, gan gyfeirio at y ddadl hawliau ieithyddol a’r datblygiadau mewn deddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith Gymraeg, a’u hoblygiadau i’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
-good -Bydd myfyrwyr da yn gallu dangos dealltwriaeth amlwg o brif gysyniadau sy’n ymwneud â Chynllunio Ieithyddol yng Nghymru. Byddant yn cyfeirio at y ddadl hawliau ieithyddol ac yn cynnig enghreifftiau penodol, beirniadol o ddatblygiadau mewn deddfwriaeth sy’n ymwneud a’r iaith Gymraeg, a’u hoblygiadau i’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
-excellent -Bydd myfyrwyr rhagorol yn dangos dealltwriaeth feistrolgar o gysyniadau sy’n ymwneud a Chynllunio Ieithyddol (yn cynnwys y ddadl am hawliau ieithyddol) yng Nghymru, gan gyfeirio at enghreifftiau penodol o ddatblygiadau mewn deddfwriaeth yn ymwneud a’r iaith Gymraeg, a’u hoblygiadau i’r sectorau amrywiol. Bydd myfyrwyr rhagorol yn gosod datblygiadau o fewn cyd-destun Ewopeaidd a bydol ehangach.
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Aseiniad
Weighting
100%