Mae Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â'r Conservation Foundation, yn falch iawn o gyhoeddi bod tri myfyriwr MSc sy’n astudio ym Mangor ar hyn o bryd wedi cael eu dewis i dderbyn Gwobr Arweinwyr Cadwraeth Ifanc. Mae'r gwobrau'n cefnogi ymgeiswyr sydd â hanes o arloesi’n lleol ym maes cadwraeth. Mae'r gwobrau hyn wedi eu cynllunio i gefnogi projectau ymchwil byr, astudiaethau maes neu brofiad gwaith a chawsant eu sefydlu i alluogi mwy o bobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd dysgu a datblygu, waeth beth eu hamgylchiadau ariannol.
Mae'r Conservation Foundation yn cydnabod yr heriau ariannol sylweddol y mae myfyrwyr yn eu hwynebu ac mae wedi mynegi awydd cryf i gefnogi arweinwyr cadwraeth y presennol a'r dyfodol gyda'u hastudiaethau ôl-radd.
Meddai Dr James Walmsley, uwch ddarlithydd mewn coedwigaeth, “Yn dilyn proses ymgeisio a dethol fewnol, rydym yn falch iawn o gyhoeddi enillwyr Gwobr Arweinwyr Cadwraeth Ifanc 2025-26, a bydd pob un ohonynt yn derbyn bwrsariaeth gwerth £1,000, a roddwyd yn garedig gan y Conservation Foundation. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y wobr hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r tri enillydd ac yn rhoi hwb enfawr i'w hyder a'u cymhelliant. Mae'r bartneriaeth newydd hon gyda'r Conservation Foundation yn gydnabyddiaeth ychwanegol o natur drawsnewidiol ein rhaglenni MSc.”
Meddai David Shreeve, cyfarwyddwr y Conservation Foundation, “Pan ddarllenais y cyflwyniadau, gwnaeth cyflawniadau’r tri myfyriwr argraff fawr arnaf. Gobeithio y bydd Gwobrau Arweinwyr Cadwraeth Ifanc yn helpu iddynt wneud hyd yn oed mwy o bethau gwych.”
Rwyf yn falch ac yn ddiolchgar iawn o gael y wobr hon ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ar ein hamrywiol brojectau cadwraeth yng Nghoed Llwynonn, yn Llanfairpwllgwyngyll (Ynys Môn), gan weithio ochr yn ochr â Chymuned Calon y Coed. Mewn partneriaeth â'n cymuned o ysgolion coedwig a defnyddwyr coetiroedd - rydym yn bwriadu nodi a chynnal amrywiol ymyriadau cynefin cadarnhaol a byddwn yn dechrau trwy edrych ar bosibiliadau adfywio ein pwll mawr sydd bellach yn wag yn ogystal â nodi ymyriadau cynefin priodol eraill fel gwrychoedd marw a blychau ystlumod/adar. Fel cymuned, rydym wedi ymrwymo i helpu cysylltu pobl â'r coed ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu gwirfoddolwyr i ymuno â ni yn y coetiroedd arbennig hyn.
Jacob Main, MSc Amaethgoedwigaeth a Diogelwch Bwyd
Mae clywed fy mod wedi cael fy newis ar gyfer y wobr hon wedi fy ngwneud yn hapus iawn. Roedd yn rhyddhad mawr, gan y bydd y wobr hon yn fy ngalluogi i ganolbwyntio mwy ar fy astudiaethau a bydd hefyd yn caniatáu i mi fanteisio ar gyfleoedd na allwn fod wedi manteisio arnyn nhw fel arall. Rwy'n teimlo'n falch iawn ac yn ddiolchgar iawn. Diolch i chi, Conservation Foundation!
Will Tanner, MSc Coedwigaeth trwy ddysgu o bell
Mae’n wych fy mod wedi ennill Gwobr Arweinwyr Cadwraeth Ifanc. Mae gen i gymaint o syniadau yr hoffwn eu harchwilio, a bydd y grant hwn yn fy helpu i wneud hynny. Hoffwn ddiolch
i bawb yn y Conservation Foundation, yn ogystal â staff Prifysgol Bangor am wneud hyn yn bosib. Bydd hyn yn hwb i mi barhau i ddysgu ac anelu at yrfa mewn cadwraeth.
Joel Foreman, s MSc Coedwigaeth Amgylcheddol trwy ddysgu o bel