Croeso i’r Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
Swyddogaeth y Swyddfa Ymchwil a Menter yw:
- darparu gwasanaeth cefnogi ymchwil integredig i bob ymchwilydd Prifysgol Bangor
- cefnogi’r broses o weithredu Strategaethau Ymchwil a Menter y Brifysgol
- canfod cyfleoedd ymchwil a chyllidwyr posib i ymchwilwyr Prifysgol Bangor
- cefnogi Rhagoriaeth Ymchwil a’r broses o sicrhau effaith o ymchwil Prifysgol Bangor
- cefnogi ymchwilwyr i feithrin perthynas gynaliadwy gyda phartneriaid busnes lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
- hyrwyddo, cydlynu a chefnogi gweithgareddau Busnes a Menter Prifysgol Bangor
- sicrhau bod pob gwariant ymchwil a menter yn gymwys ac yn archwiliadwy
I gael gwybod mwy am ein hystod eang o wasanaethau cefnogi i staff, ôl-raddedigion a busnesau ewch i adran berthnasol ein gwefan trwy ddilyn y ddewislen ar y llaw chwith.
Cyhoeddiadau Pwysig
-
Mae'r Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith yn parhau i fod ar agor ac, ar hyn o bryd, rydym yn gallu darparu pob un o'n gwasanaethau fel arfer. Bydd llawer o'n staff yn darparu'r gwasanaethau hyn wrth weithio gartref felly efallai y bydd yr amser ymateb ychydig yn arafach nag arfer ond rydym yn hyderus bod ein systemau'n ddigon cadarn i fedru cynnig ein gwasanaethau mewn modd digonol. Cysylltwch â staff y Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS) trwy anfon e-byst i'w cyfeiriadau prifysgol arferol gan nad yw'r ffonau yn y swyddfa yn cael eu hateb.
Newyddion
Y newyddion diweddaraf o'r Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS).
IRIS, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG