Rhaglenni Addysg Weithredol
MBA Bancwr Siartredig
(CBMBA)
Cymhwyster deuol unigryw, sy’n cyfuno MBA a statws banciwr siartredig - y dyfarniad proffesiynol uchaf sydd ar gael i fancwyr ledled y byd.
Dyfernir statws 'Banciwr Siartredig' gan Sefydliad y Bancwyr Siartredig, corff addysg proffesiynol byd-eang i fancwyr a'r unig sefydliad bancio yn y byd a all ddyfarnu’r statws hwn.
MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol
(FCCMBA)
Cymhwyster newydd arloesol sy’n eich galluogi i ennill MBA ynghyd â statws proffesiynol arbenigwr gwybodaeth ariannol (FIS).
Dyfernir yr MBA mewn partneriaeth â ManchesterCF, darparwyr hyfforddiant gwybodaeth ariannol fyd-eang, mae'r statws Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol (FIS) yn gosod safon newydd ym myd gwybodaeth ariannol.
Llyfrynnau Rhaglenni
MBA Bancwr Siartredig (CBMBA)
Cliciwch ar y cyswllt isod i lawrlwytho fersiwn PDF o lyfryn y cwrs MBA Banciwr Siartredig (CBMBA):
MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol
Cliciwch ar y cyswllt isod i lawrlwytho fersiwn PDF o lyfryn y cwrs MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol (FCCMBA):
Astudio Modiwl Sengl
Gellir cymryd modiwlau sengl yn anffurfiol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus neu gyda'r opsiwn i gwblhau'r asesiad ffurfiol ac ennill credydau ôl-raddedig a gydnabyddir yn rhyngwladol. Gellir symud y credydau yn ddiweddarach i ddyfarniad ôl-raddedig Addysg Weithredol, a chael MBA pan fydd 180 o gredydau wedi'u cwblhau.
Wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol canol gyrfa sy'n gweithio yn y diwydiant ariannol neu reoleiddio. Rhoddir ystyriaeth i fynediad i unigolion sydd ag ychydig iawn o brofiad.
Sut i Wneud Cais
Gwahoddir ceisiadau i’r rhaglenni MBA Banciwr Siartredig, MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol a'r Dystysgrif Ôl-radd mewn Rheolaeth a Thechnoleg Banciau (CertBMT) i ddechrau yn Hydref 2023.
Gwneud cais am raglen Addysg Weithredol
Os hoffech gadarnhau eich bod yn gymwys cyn gwneud cais, anfonwch e-bost gyda dogfennau ategol, e.e. CV, ac os oes gennych drawsgrifiadau o raglenni astudiaethau proffesiynol neu ôl-radd a gwblhawyd gennych, byddai’n ddefnyddiol eu hanfon hefyd. Sylwer y bydd y tîm derbyniadau yn eich cynghori am y wybodaeth sy’n angenrheidiol i gefnogi eich cais, fel na fydd cael gafael ar drawsgrifiadau o astudiaethau blaenorol yn achosi oedi i'ch cais.
Ar ôl cofrestru ar y rhaglen, bydd gan fyfyrwyr 3 mis o'u semester cyntaf i ddarparu copïau ardystiedig o'u tystysgrifau.
Angen Help?
I gael diweddariad ar eich cais neu gymorth i lenwi eich ffurflen, cysylltwch â’r tîm derbyniadau ar executiveeducation@bangor.ac.uk.
Tystiolaeth Myfyrwyr
Cysylltu gyda ni
Cysylltwch â’r tîm Addysg Weithredol os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn dechrau:
Ffon: +44 (0) 1248 38 38 00
WhatsApp: +44 (0) 7599 65 79 33
E-bost: executiveeducation@bangor.ac.uk
Cyfeiriad: Addysg Weithredol, Ysgol Busnes Bangor, Bangor University, Bangor, Gwynedd, UK, LL57 2DG