Beth ydym ni’n ei wneud?
- Hyrwyddo a diogelu mynediad teg i addysg uwch, yn cynnwys adnabod unigolion o gefndiroedd difreintiedig sydd â photensial mawr.
- Denu myfyrwyr a darpar fyfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir a dal gafael arnynt, gall hyn gynnwys myfyrwyr o gefndiroedd llai breintiedig, myfyrwyr gyda nodweddion gwarchodedig, gofalwyr a myfyrwyr sy'n gadael gofal.
- Codi dyheadau addysgol a datblygu sgiliau sy'n paratoi myfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir at astudio mewn addysg uwch.
- Cefnogi myfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir i symud ymlaen i gyflogaeth neu astudiaeth bellach.
- Gweithio gyda Phartneriaeth Ymgeisio’n Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru mewn ardaloedd lle mae nifer y cyfranogwyr yn isel
- Gweithio gydag Awdurdodau Addysg Lleol i hyrwyddo gwerth/budd astudiaethau cyfrwng Cymraeg a/neu ddwyieithog
- Gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hyrwyddo astudio mewn Prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg
- Gweithio mewn partneriaeth â'r sector Addysg Bellach i ddarparu cyfleoedd addysgol yn lleol i'r rhai hynny y mae rhwystrau daearyddol yn eu rhwystro rhag cael mynediad at Addysg Uwch.
- Gweithio tuag at symud rhwystrau er mwyn galluogi pobl â phroblemau iechyd meddwl i wireddu eu potensial.
Ehangu Mynediad, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.