Datganiad Hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i wefan Prifysgol Bangor. Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Brifysgol Bangor.

Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • Chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
  • Gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o Jaws, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae AbilityNet yn cynnig cyngor am sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
 

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Sut i gysylltu efo ni

Hygyrchedd y wefan hon

Gwyddom nad yw rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gellwch weld rhestr lawn o unrhyw broblemau rydym yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd yn adran cynnwys anhygyrch y datganiad hwn.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, anfonwch e-bost at webmarketing@bangor.ac.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu yn ôl â chi o fewn 7 niwrnod. Os na allwch weld y map ar ein tudalen map campws, rhowch alwad i ni ar +44 (0)1248 250008.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw faterion nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch e-bost at Dîm y We a Marchnata Digidol webmarketing@bangor.ac.uk.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os ydych yn anhapus â'n hymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We yn sgil yr enghreifftiau o beidio â chydymffurfio ac eithriadau a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

Diffyg cydymffurfiaeth â'r rheoliadau hygyrchedd

  • Nid yw teclyn sgwrsio Unibuddy yn hygyrch a bydd yn cyflwyno nifer o atalyddion i ddefnyddwyr bysellfwrdd, darllenydd sgrin a defnyddwyr trawsgrifio. Nid yw’n cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fel a ganlyn: 1.1.1 Cynnwys Di-destun (A), 1.3.1 Gwybodaeth a Chysylltiadau (A), 1.4.10 Ail-ffrydio (AA), 2.1.1 Bysellfwrdd (A), 2.4.3 Gorchymyn Ffocws (A), 2.4 .7 Ffocws Gweladwy (AA) ac 4.1.2 Enw, Swyddogaeth, Gwerth (A). Rydym yn cynnal sgyrsiau gyda chyflenwyr trydydd parti i ymchwilio i opsiynau amgen.
  • Mae cynnwys carwsél drwy’r wefan ac is-barthau yn cyflwyno amrywiaeth eang o broblemau hygyrchedd i'r graddau y dylid eu hosgoi gan unrhyw ddefnyddiwr bysellfwrdd, darllenydd sgrin neu ddefnyddiwr trawsgrifio, neu unrhyw ddefnyddiwr ag anghenion hygyrchedd lliw neu olwg. Nid yw’n cydymffurfio ag amrywiaeth fawr o feini prawf llwyddiant Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG). Rydym yn gweithio ar ddatrys y mater hwn ac yn anelu at gael ateb yn ei le cyn diwedd mis Medi 2023.
  • Ar dudalennau staff, mae eiconau cyswllt nad ydynt yn cael eu disgrifio'n glir i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 1.3.3 Nodweddion Synhwyraidd (A). Rydym yn gweithio ar ddatrys y mater hwn ac yn anelu at gael ateb yn ei le cyn diwedd mis Medi 2022.
  • Mae yna amryw o gysylltiadau drwy’r wefan nad oes ganddynt destun cyswllt priodol ac efallai nad ydynt yn eglur i rai defnyddwyr. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.4.4 Diben Cyswllt (A). Rydym yn hyfforddi ein cynhyrchwyr cynnwys a golygyddion i sicrhau nad dyma fydd y protocol y byddwn yn ei ddilyn wrth symud ymlaen. Byddwn yn defnyddio SiteImprove i nodi pob achos ar ein gwefan ac yn anelu at eu newid erbyn mis Mehefin 2023.
  • Mae yna amryw o broblemau cyferbynnu drwy’r wefan gydag amrywiaeth o destun. Gall y rhain olygu fod rhywfaint o gyd-destun yn anodd iawn i rai gwylwyr ei ddarllen. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 1.4.3 Isafswm Cyferbyniad (AA). Rydym yn y broses o recriwtio dau Ddatblygwr/Dyluniwr Ochr Flaen newydd er mwyn bod â'r gallu i fynd i'r afael â phroblemau ar ein gwefan. Rydym wedi trefnu i’r ail-ddylunio gael ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn hon.
  • Mae yna ddelweddau amrywiol drwy’r wefan, megis logo Prifysgol Bangor, gwahanol erthyglau newyddion, carwseli neu ddelweddau eraill nad oes ganddynt ddisgrifiadau  priodol mewn testun amgen. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG)  2.4.4 Diben Cyswllt (A). Rydym wedi ychwanegu disgrifiadau testun amgen at nifer o ddelweddau dros y 12 wythnos diwethaf. Rydym yn y broses o gaffael Trwydded Gwella Safle ar gyfer ein gwefan i sicrhau bod gennym declyn i gynorthwyo i nodi pob achos o ddisgrifiadau amgen coll; mae hyfforddiant ar waith ar gyfer perchnogion cynnwys i wneud yn siŵr bod pob perchennog cynnwys nid yn unig yn gwybod pam fo angen i ni gynnig testun amgen ond sut i'w ysgrifennu'n dda.
  • Mae problemau amrywiol yn ymwneud â chynnwys fideo drwy’r wefan, gan gynnwys diffyg capsiynau, disgrifiadau sain a dewisiadau cyfryngau amgen. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 1.2.2, 1.2.3 ac 1.2.5, sy'n ymdrin â chapsiynau, disgrifiadau sain a gofynion cyfryngau amgen.
  • Mae teclyn Unistats ar waelod nifer o dudalennau yn creu problemau sylweddol i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin o ran cyflwyno gwybodaeth yn anghywir. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2.2 Oedi, Stopio, Cuddio (A) a 4.1.2 Enw, Swyddogaeth, Gwerth (A). Mae cynnwys trydydd parti sy'n cael ei arddangos ar ein gwefan sydd o dan reolaeth rhywun arall ac nad ydym wedi talu amdano na'i ddatblygu wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
  • Mae amrywiol rannau o'r wefan nad ydynt yn hygyrch i fysellfyrddau fel cynnwys Issuu sydd wedi'i fewnblannu, sy'n dangos rhywfaint o gynnwys dogfen o fewn y dudalen we, tudalennau fideo ar y templedi hŷn ac eraill. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1.1 Bysellfwrdd (A). Rydym yn gwneud yn siŵr, pan fyddwn yn defnyddio Issuu i gyflwyno gwybodaeth, y bydd gennym fersiwn hygyrch o'r ddogfen. Rydym hefyd yn trafod hyn gyda'n cyflenwr trydydd parti.
  • Mae gan y Brifysgol rywfaint o gynnwys sy’n dal i gael ei symud i lwyfan mwy hygyrch oherwydd nifer o faterion hygyrchedd (gwallau dilysu, ddim yn hygyrch i fysellfwrdd, dim swyddogaeth sgipio cynnwys). Mae'r tudalennau gyda URLs sy'n gorffen gyda PHP yn dal i fod yn y broses o gael eu mudo neu eu harchifo os nad oes mwyach eu hangen. Rydym yn gobeithio cwblhau’r broses honno erbyn diwedd mis Mehefin 2023.

Problemau gyda ffeiliau PDF a dogfennau eraill

  • Nid yw llawer o'n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft; efallai nad ydynt wedi cael eu diweddaru, fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin; efallai nad ydynt yn cynnwys disgrifiadau delwedd amgen neu ag iaith wedi'i dewis ar gyfer y ffeil.
  • Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Erbyn mis Mai 2023, rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu eu disodli â thudalennau HTML hygyrch neu ffeiliau PDF hygyrch.
  • Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn cwrdd â'r safonau hygyrchedd.
  • Os cawn ein hysbysu am gwsmer yn wynebu problem yn cyrchu unrhyw un o'r ffeiliau, byddwn yn diweddaru'r ffeil honno i fformat hygyrch o fewn saith niwrnod gwaith.

Problemau gyda delweddau, fideo a sain

  • Nid oes testun amgen gan ddelweddau ar rai tudalennau. Rydym yn bwriadu ychwanegu testun amgen at bob delwedd erbyn mis Mai 2023.

Nid oes capsiynau gan fideos ar rai tudalennau

  • Rydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at bob fideo erbyn Mehefin 2023. Rydym eisoes yn cynnwys capsiynau ar fideos newydd. Rydym wedi newid y ffordd y mae fideos yn cael eu harddangos i sicrhau bod gofod penodol i ychwanegu trawsgrifiadau.
  • Os cawn wybod am fideo sy'n achosi problemau i unrhyw un o'n cwsmeriaid, byddwn yn anelu at ddarparu trawsgrifiad ohono o fewn saith niwrnod gwaith.

Baich anghymesur

Nid ydym wedi gwneud unrhyw hawliadau o faich anghymesur ar hyn o bryd.

 

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Fformat Dogfen Gludadwy (PDF) a dogfennau eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol at ddarparu ein gwasanaethau. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu eu disodli â thudalennau HTML hygyrch. Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn golygu ei bod yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol at ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio dogfennau cofnodion cyfarfodydd cyngor hanesyddol a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018.

Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn cwrdd â'r safonau hygyrchedd.

Cynnwys fideo

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd. Mae gennym hefyd rywfaint o gynnwys fideo wedi'i recordio ymlaen llaw a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020. Mae'r cynnwys hwn hefyd wedi'i eithrio o'r rheoliadau.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae Prifysgol Bangor yn gwneud fel a ganlyn i wella hygyrchedd:
•    Hyfforddi cynhyrchwyr cynnwys a golygyddion system rheoli cynnwys i sicrhau bod hygyrchedd yn flaenllaw yn yr hyn a wnawn
•    Creu adran cymorth hygyrchedd gyda chanllawiau sut-i-wneud a mynediad i hyfforddiant fideo ar-alw
•    Hyfforddi timau gwe a datblygu ar sut i gynnal hyfforddiant hygyrchedd
•    Casglu'r holl randdeiliaid perthnasol ynghyd mewn Gweithgor Mynediad Digidol
•    Dechrau sgyrsiau i wneud hygyrchedd yn rhan o broses gynefino’r brifysgol
•    Dechrau sgyrsiau i sicrhau bod hygyrchedd yn dod yn rhan o ofynion y broses gaffael
•    Cael trwydded ar gyfer SiteImprove i ddarparu technoleg i ni sy'n caniatáu rhoi prawf ar 100% o'n tudalennau'n rheolaidd

 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 12/11/2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 30/08/2022.  Rhoddwyd prawf ar y wefan hon ddiwethaf ar 12/01/2022. Cynhaliwyd y prawf gan All Able Ltd. Profwyd sampl cynrychioliadol o dudalennau'r wefan ynghyd â sampl o'r dogfennau o bob maes gwefan.
Mae profion pellach wedi cael eu cynnal ar 30/08/2022 gan Dîm y We ar ddetholiad o'r tudalennau yr ymwelwyd amlaf â hwynt - sy'n cynrychioli gwahanol fathau o gynnwys a thudalennau ar ein gwefan gan ddefnyddio Offeryn Gwerthuso Hygyrchedd Gwe WAVE, sy'n hwyluso gwerthusiad dynol o gynnwys gwe, ac axe DevTools.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?