Cynadleddau a Lleoliadau

Lleoliad rhyfeddol gyda chyfleusterau gwych...

Mae mynyddoedd Eryri a’r Fenai yn cynnig cefnlen berffaith i bob digwyddiad.

Mae’r Brifysgol o fewn cyrraedd rhwydd i ymwelwyr cenedlaethol a rhyngwladol. Mae yma leoedd sy’n addas i bob achlysur, yn cynnwys neuaddau hanesydddol ac ystafelloedd modern sy’n gallu dal rhwng 4 a 450 o bobl. Mae ein dewis o leoliadau ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd yn golygu y gallwn gynnig llawer o hyblygrwydd i drefnwyr, gyda’r dewis o ddefnyddio cyfuniad o leoliadau ar draws y campws.

 

Gwelwch ein llyfryn newydd yn fan hyn.