Swyddogaeth y Cyngor
Prif swyddogaeth y Cyngor yw pennu strategaeth gyffredinol, polisi a chyfeiriad y Brifysgol. Mae ffin glir rhwng ‘llywodraethu’ a ‘rheolaeth’ ac ni fydd aelodau’r Cyngor yn ymwneud â rheolaeth weithredol y brifysgol o ddydd i ddydd, gwneir hyn gan y Pwyllgor Gweithredu.
Eglurir swyddogaeth y Cyngor mewn Datganiad o Brif Gyfrifoldebau y cytunwyd arno. Mae gwybodaeth am is-bwyllgorau'r Cyngor a chynnal materion y Cyngor ar gael yn y Canllaw i Aelodau’r Cyngor.
Mae gan y Cyngor nifer fechan o is-bwyllgorau i gynorthwyo aelodau i gyflawni eu swyddogaethau fel llywodraethwyr.
- Pwyllgor Archwilio a Risg
- Pwyllgor Strategaeth yr Iaith Gymraeg
- Pwyllgor Iechyd a Diogelwch
- Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu
- Pwyllgor Taliadau
- Pwyllgor Cyllid a Strategaeth
Mae rhagor o wybodaeth am lywodraethu wedi'i chynnwys yn y Canllaw i aelodau'r Cyngor. Dylai unigolion sydd â diddordeb mewn cael eu hystyried i fod yn aelod o'r Cyngor neu ei is-bwyllgorau gysylltu â Dirprwy Ysgrifennydd, Mrs Gwenan Hine, Pennaeth Gwasanaethau Llywodraethu. Nid oes unrhyw dâl am fod yn aelod o'r Cyngor, ond mae'r Brifysgol yn talu costau teithio rhesymol a chostau cysylltiedig.
Y Llys
Y Llys yw grŵp rhanddeiliaid Prifysgol Bangor, ac mae'n darparu fforwm i aelodau'r gymuned ryngweithio â'r brifysgol. Y Dirprwy Ganghellor, yr Athro Gareth Roberts, yw llywydd y cyfarfod, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, aelodau Senedd San Steffan ac aelodau Senedd Cymru, y bwrdd iechyd lleol, cynrychiolwyr cyn-fyfyrwyr y brifysgol, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill. Mae'r Llys yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth am y Llys, cysylltwch â Mrs Gwenan Hine, Pennaeth Gwasanaethau Llywodraethu.
Y Pwyllgor Gweithredu
Y Pwyllgor Gweithredu yw uwch grŵp rheoli’r Brifysgol, ac mae'n gyfrifol am reolaeth a gweinyddiad cyffredinol y Brifysgol.
Mae'r Is-Ganghellor, yr Athro Iwan Davies, yn cadeirio Pwyllgor Gweithredol y Brifysgol, sy'n cynnwys:
- Yr Athro Oliver Turnbull - Dirprwy i'r Is-ganghellor
- Dr Kevin Mundy - Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol
- Yr Athro Nichola Callow - Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg Gwyddorau Dynol
- Yr Athro Andrew Edwards - Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes
- Yr Athro Paul Spencer - Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg
- Mr Robert Eastwood - Cyfarwyddwr Cyllid Dros Dro
- Mrs Tracy Hibbert - Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
- Ms Lorraine Westwood - Prif Swyddog Marchnata / Is-lywydd Rhyngwladol
Ysgrifennydd y Pwyllgor Gweithredu: Mrs Gwenan Hine, Pennaeth Gwasanaethau Llywodraethu.