Archebwch eich lle ar Ddiwrnod Agored trwy lenwi’r ffurflen isod.
Efallai eich bod erbyn hyn wedi darllen y prospectws a chael sgwrs gyda ni mewn Ffair UCAS neu ddigwyddiad yn yr ysgol. Dyma'r amser i gael blas go iawn ar fywyd prifysgol trwy ddod i Ddiwrnod Agored. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld.
Dyddiau Agored ar y Campws 2022
- Dydd Sadwrn, 25 Mehefin
- Dydd Sadwrn, 20 Awst
- Dydd Sul, 09 Hydref
- Dydd Sul, 30 Hydref
- Dydd Sadwrn, 26 Tachwedd
Dyddiau Agored Ar-lein 2022
- Dydd Mercher, 08 Mehefin
- Dydd Mercher, 19 Hydref
- Dydd Mercher, 07 Rhagfyr
Yn ystod y diwrnod byddwch yn gallu:
- Cael mwy o fanylion am eich pwnc
- Gweld yr adnoddau a chyfleusterau cwrs-benodol
- Cyfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
- Gweld y llety i fyfyrwyr
- Cael blas ar fywyd myfyriwr ym Mangor
- Mynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
- Ymgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor.
Archebwch eich lle ar Ddiwrnod Agored
Cwblhewch y ffurflen isod i gofrestru, a byddwn mewn cysylltiad gyda mwy o fanylion.

Digwyddiad Ôl-Raddedig Ar-lein
Bydd ein Digwyddiadau Ôl-raddedig Ar-lein nesaf ar 6 Gorffennaf 2022 a 9 Tachwedd 2022.

Profiad Rhithwir Dewch ar daith rhithiol o'r campws
Mae ein Profiad Rhithwir yn gyfle i chi archwilio Prifysgol Bangor o bell. Ewch ar daith 360 o'n campws a'n llety, gweld ein cyfleusterau a gwylio fideos.