Fy ngwlad:
Women in a lab with plants

Project Tannahill

Mae Project Tannahill ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu cyflawniadau merched ac yn cefnogi eu heffaith ar gymdeithas heddiw ac i’r dyfodol. Wedi'i sefydlu trwy waddol hael, mae'r project yn dwyn ynghyd ymchwil, addysgu ac ymgysylltu cyhoeddus wedi'u hysbrydoli gan fywyd a gwaddol Dr Mabel Tannahill.

Ar y dudalen hon:

Gwyddonydd amgylcheddol yn gwneud abrawf mewn afon

Gwaddol yn Cefnogi Effaith Merched Project Tannahill: Merched. Gwybodaeth. Effaith.

Drwy rodd hael gan Yr Athro David Jones, mae gwaddol wedi'i sefydlu ym Mhrifysgol Bangor i greu menter drawsddisgyblaethol sy'n hyrwyddo ac yn dathlu cyfraniadau merched i gymdeithas a'r byd ehangach. 

 Mae merched wedi chwarae rhan arwyddocaol drwy gydol hanes y Brifysgol. Gan adeiladu ar yr etifeddiaeth hon, mae Project Tannahill yn canolbwyntio ar rymuso merched nawr ac yn y dyfodol trwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys darlithoedd cyhoeddus, ymchwil ac addysgu. 

Mae'r project wedi'i ysbrydoli gan Dr Mabel Tannahill, diweddar wraig y rhoddwr, a oedd yn seiciatrydd ymgynghorol uchel ei pharch ac yn hyrwyddwr blaenllaw dros iechyd meddwl yng Nghymru. 

profile picture of Dr Mabel Tannahill with her head resting on arm - with subtle smile and glow
Credit:Family Archive

Bywyd wedi'i Ymroddi i Wasanaeth a Dysgu Dr Mabel Tannahill

Roedd Dr Mary Mabel Tannahill yn seiciatrydd ymgynghorol uchel ei pharch, yn academydd ac yn hyrwyddwr gydol oes dros iechyd meddwl, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb merched. Wedi'i geni yn Glasgow yn 1932, roedd ei bywyd a'i gyrfa'n cwmpasu'r Alban, Llundain a Chymru, lle gwnaeth gyfraniad parhaol i ymarfer seiciatrig, addysg feddygol a gofal iechyd meddwl cymunedol. 


Roedd gwaith Dr Tannahill yn cyfuno rhagoriaeth glinigol ag ymrwymiad cryf i addysg, ymchwil a chydweithio rhyngwladol. Chwaraeodd ran arwyddocaol wrth gryfhau cysylltiadau rhwng y GIG a phrifysgolion, helpodd i ddatblygu gwasanaethau seiciatrig yng ngogledd Cymru, a chefnogodd genedlaethau o weithwyr iechyd proffesiynol drwy addysgu, archwilio a mentora. Mae ei diddordebau diwylliannol a deallusol ehangach — gan gynnwys llenyddiaeth, y celfyddydau a hyrwyddo llwyddiannau merched — yn parhau i lunio ei gwaddol parhaus.

Nid rhywbeth a fydd yn digwydd i ferched yw’r dyfodol — bydd y dyfodol yn cael ei greu gan ferched.
— Victoria Bateman