Niwclear Gogledd Cymru: Sbectrwm Llawn o Arbenigedd
Ni yw'r rhyngwyneb rhwng uchelgais peirianneg a realiti amgylcheddol. Rydym yn uno arbenigwyr blaenllaw'r Deyrnas Unedig mewn hydrolig thermol, daeareg forol ac ecoleg ddaearol i ddarparu'r wybodaeth hanfodol sy'n troi "projectau" yn ynni.
Rydym wedi chwalu'r seilos er mwyn datrys yr argyfwng ynni. Mae Niwclear Bangor yn darparu gallu gwyddonol cwbl integredig â gwybodaeth leol a rhagoriaeth yn yr iaith Gymraeg na all unrhyw ymgynghoriaeth fasnachol ei darparu.
Trwy uno Sefydliad y Dyfodol Niwclear, Ysgol Gwyddorau’r Eigion a'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol - ynghyd ag arbenigwyr o bob rhan o'n hadrannau ehangach - rydym yn darparu ffynhonnell unigryw o wybodaeth i ddatblygwyr. P'un a yw’r her yn ymwneud â hydrolig thermol neu ddiogelu cynefinoedd, Niwclear Bangor yw’r ateb.
Arloeswyr ydym ni. Partneriaid ydym ni. Gwyddoniaeth sero net ydym ni.
Effaith: Gweledigaeth Fyd-eang, Ynni Lleol
Nid yw amgylchedd planedau'n addasu i orsafoedd ynni. Rhaid i orsafoedd ynni addasu i blanedau. Rydym yn gallu darparu'r asesiadau effaith amgylcheddol a'r asesiadau rheoliadau cynefinoedd sy'n caniatáu i seilwaith mawr gydfodoli â natur. Rydym yn gallu troi gwrthwynebiadau cynllunio posib yn heriau gwyddonol ac yn eu datrys.
Dim ond llun yw dyluniad technolegol heb ddata. Ni yw'r peiriant dilysu ar gyfer y fflyd adweithyddion modiwlaidd bach. Rydym yn cynnig gefeillio digidol, datblygu synwyryddion a modelu rhagfynegol, sydd i gyd yn angenrheidiol i droi’r cysyniad o adweithyddion uwch yn realiti masnachol.
Y Rhanbarth sy’n Adeiladu gweithlu'r dyfodol. Ni yw catalydd economi gogledd Cymru. Trwy integreiddio cadwyni cyflenwi ac uwchsgilio'r rhanbarth, rydym yn gallu sicrhau bod y buddsoddiad niwclear yn creu etifeddiaeth o gyfoeth, sgiliau a chyfleoedd i genedlaethau.
Gwasanaethau: Ein Galluoedd Masnachol
Mae rhaglen adweithyddion modiwlaidd bach Wylfa yn galw am haen newydd o bartneriaeth wyddonol. Nid ydym yn cyflenwi data yn unig; rydym yn darparu sicrwydd.
Trwy uno arbenigedd blaenllaw'r Deyrnas Unedig mewn hydrolig thermol, gwyddor môr a radiocemeg, mae Niwclear Bangor yn gallu darparu gwasanaethau sylfaen dystiolaeth gwbl integredig. O wely'r môr i graidd yr adweithydd, rydym yn gallu darparu'r dilysu annibynnol sydd ei angen arnoch i sicrhau eich gorchymyn cydsyniad datblygu a diogelu amserlen eich project.
Sicrhau'r "drwydded i weithredu" trwy ddata annibynnol na ellir ei herio. data.
- Targed Cyflawnadwy: Modelau ffrwd thermol wedi eu dilysu a dadansoddiad cludo gwaddod ar gyfer dylunio mewnlif/gollyngfa.
- Budd: Sicrhau effeithlonrwydd oeri a bodloni gofynion Cyfoeth Naturiol Cymru i ryngwyneb Môr Iwerddon.
- Targed Cyflawnadwy: asesiadau rheoliadau cynefinoedd llawn ac asesiadau effaith amgylcheddol.
- Budd: Data annibynnol am adar a mamaliaid y môr (gan gynnwys nythfeydd môr-wenoliaid hollbwysig Bae Cemlyn) i atal problemau cynllunio.
- Targed Cyflawnadwy: Llunio proffil sŵn sylfaenol a modelu effaith adeiladu
- Budd: Sicrhau cydymffurfiaeth â therfynau aflonyddwch i gymunedau lleol a bywyd gwyllt gwarchodedig.
Profi ar raddfa ddiwydiannol a sicrwydd digidol i ddefnyddio adweithyddion.
- Targed Cyflawnadwy: Mynediad i'r ddolen THOR (ymchwil mynediad agored hydroleg thermol) i ddilysu cod a phrofi straen cydrannau.
- Budd: Caniatáu i ddatblygwyr ddilysu dyluniadau oeri a chodau diogelwch mewn amgylchedd rheoledig heb achosi oedi i waith adeiladu ar y safle.
- Targed Cyflawnadwy: Datblygu synwyryddion uwch ar gyfer llestri gwasgedd adweithydd a monitro oeryddion.
- Budd: Lleihau gwariant gweithredu hirdymor trwy alluogi cynnal a chadw rhagfynegol dros oes yr atomfa (60 mlynedd).
- Targed Cyflawnadwy: Modelu gwasgariad hirdymor ac achosion diogelwch amgylcheddol i storio gwastraff.
- Budd: Darparu'r dystiolaeth wyddonol sy'n ofynnol i drwyddedau rheoli gwastraff ymbelydrol.
Integreiddio'r project yn yr economi rhanbarthol i fodloni mandadau'r llywodraeth.
- Targed Cyflawnadwy: Mapio galluoedd gweithgynhyrchu yng ngogledd Cymru yn fanwl yn erbyn gofynion adweithyddion modiwlaidd bach
- Budd: Nodi cyflenwyr lleol sy’n "barod am niwclear", gan leihau costau logisteg a chyflawni targedau "cynnwys y Deyrnas Unedig".
- Targed Cyflawnadwy: Modelu gwerth ychwanegol gros sy'n cydymffurfio â safonau'r Trysorlys.
- Budd: Darparu'r data economaidd sydd ei angen ar achosion busnes y llywodraeth, gan ddangos cynnydd rhanbarthol a chreu swyddi.
- Targed Cyflawnadwy: Prentisiaethau gradd pwrpasol a modiwlau hyfforddiant technegol.
- Budd: Sicrhau cyflenwad cynaliadwy o weithredwyr a pheirianwyr cymwys sydd wedi eu hyfforddi'n benodol ar gyfer safle Wylfa.
Monitro fforensig yr amgylchedd daearol i brofi bod y gwastraff yn aros ar y safle.
- Targed Cyflawnadwy: Proffilio cemegol a radiolegol manwl gywir o'r safle cyn adeiladu (sefydlu'r "cyflwr sero").
- Budd: Diogelu’r datblygwr rhag atebolrwydd yn y dyfodol trwy ddogfennu’r amodau amgylcheddol sy'n bodoli eisoes yn gywir.
- Targed Cyflawnadwy: modelau rhagfynegol sy'n olrhain hynt halogyddion posib trwy ddaeareg leol.
- Budd: Diogelu’r lefel dŵr a sicrhau bod dyluniadau draenio safleoedd yn cydymffurfio'n llawn â rheoliadau amgylcheddol.
- Targed Cyflawnadwy: Gwneud dadansoddiad labordy o samplau pridd a dŵr gan ddefnyddio sbectrometreg màs o'r radd flaenaf.
- Budd: Nodi ac olrhain ffynhonnell unrhyw anomaleddau amgylcheddol yn gyflym yn ystod y cyfnod adeiladu neu weithredu.
Cwrdd â'n Harbenigwyr: Tîm Gwyddonol Unedig
Y bobl y tu ôl i'r fethodoleg. Mae ein tîm yn cyfuno trylwyredd academaidd â chymhwysiad diwydiannol. Nid ymchwilwyr yn unig ydym ni; rydym yn ymgynghorwyr gweithredol sy'n cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yr arolygiaeth niwclear a datblygwyr mawr.
Seilwaith Addas i Ddiwydiant.
Nid ydym yn ei fodelu yn unig.
Rydym yn ei fesur.
Rydym yn pontio'r bwlch rhwng y cysyniad digidol a’r realiti diriaethol, gan ddarparu'r seilwaith profi a monitro arbenigol sy’n angenrheidiol i ddilysu achosion diogelwch a chydymffurfiaeth amgylcheddol.
Sefydlu Partneriaeth gyda ni
Trowch uchelgais yn weithredu. Cysylltwch â’n hawdurdodau technegol i ddarganfod sut y gall Niwcelar Bangor leihau risg eich prosiect a chyflymu’ch amserlen. P’un a ydych angen dilysu thermol-hydrolig, tystiolaeth o effaith amgylcheddol, neu integreiddio cadwyn gyflenwi, mae ein tîm yn barod i symud ar unwaith.
Ymholiadau Masnachol a Thechnegol yn Unig
Sylwch: Mae’r sianel hon wedi’i neilltuo ar gyfer ymholiadau gan lywodraeth, datblygwyr, a’r diwydiant ynghylch rhaglen SMR Wylfa a phartneriaethau ymchwil masnachol.