Mae'r wefan hon yn amlinellu'r ddarpariaeth fewnol ac allanol bresennol sydd ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor i'w cefnogi i gynnal, a gwella, eu hiechyd a'u lles. Er bod llawer o'r wybodaeth hon ar gael ar we-dudalennau ledled y brifysgol, mae'r wefan hon yn dwyn ynghyd wybodaeth berthnasol i un lle, gan ei gwneud hi'n haws chwilio a dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Er bod llawer o wasanaethau ac adnoddau'r brifysgol o fudd i bawb, rydym yn tynnu sylw at y ddarpariaeth gefnogaeth sydd wedi'i haddasu i anghenion a diddordebau priodol ein staff a'n myfyrwyr. Gobeithiwn y bydd ein holl staff a myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i ddefnyddio'r adnoddau hyn fel cefnogaeth hunan-gyfeiriedig, ac wrth wneud hynny gallant dderbyn y wybodaeth a'r gefnogaeth briodol, ar yr adeg iawn.

Gan fod hwn yn ddull newydd o drefnu darpariaeth iechyd a lles y brifysgol, byddem yn croesawu eich sylwadau a'ch awgrymiadau i'w wella ymhellach.

Digwyddiadau Iechyd a Lles

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?