Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ehangu mynediad i addysg uwch ac mae’n derbyn myfyrwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Cynigion Cyd-destunol
Os yw eich cod post yn dangos eich bod yn byw mewn cymdogaeth cyfranogiad isel mewn addysg uwch* (yn cynnwys ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru) efallai y cewch gynnig cyd-destunol o ganlyniad i'n polisi ehangu mynediad. Mae hyn yn golygu y byddai eich cynnig yn debygol o fod yn is nag y byddech wedi'i dderbyn fel arall. Bydd y cynnig yn adlewyrchu'r ffaith ein bod yn awyddus i sicrhau eich bod yn dewis astudio yma.
Cynigion Cyd-destunol i Raglenni Hyfforddiant i Weithwyr Iechyd Proffesiynol
Yn unol â chenhadaeth y bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) i gefnogi myfyrwyr i ddilyn Addysg Uwch, rydym yn defnyddio nifer o ddangosyddion ychwanegol (gan gynnwys treulio amser mewn gofal, gofalwyr ifanc, bod y cyntaf o’r teulu i fynd i Addysg Uwch a darpar fyfyrwyr ag anabledd datganedig) i adnabod myfyrwyr a allai fod dan anfantais o ran eu gallu i gael mynediad i Addysg Uwch.
Os ydych chi'n gwneud cais am le ar un o'r rhaglenni hyn a'ch bod chi'n cwrdd ag un neu ragor o'r meini prawf hyn, efallai y byddwch yn derbyn cynnig cyd-destunol.
Gwneir pob cynnig cyd-destunol ar sail y potensial i lwyddo yn y Brifysgol hon ac ni fydd unrhyw gynigion yn seiliedig ar ddata cyd-destunol yn unig.
[*Mae codau post yn cael eu categoreiddio yn ôl system godio POLAR4, sy'n nodi 5 haen o gyfranogiad mewn addysg uwch. Yn haen 1 mae’r gyfran isaf o breswylwyr sydd wedi mynd i addysg uwch, ac mae'r gyfran uchaf yn haen 5. Yn ystod cylch ymgeisio 2021/22 ar gyfer mynediad ym mis Medi 2022, byddwn yn cynnwys ymgeiswyr o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) yn ein cynllun cynigion cyd-destunol.]
Data Cyd-destunol UCAS
Yn ystod cylch ymgeisio 2021/22 ar gyfer mynediad ym mis Medi 2022, bydd UCAS yn cyflenwi data cyd-destunol i brifysgolion ynglŷn â pherfformiad ysgol (e.e. canlyniadau arholiadau) a dangosyddion economaidd-gymdeithasol eraill (e.e. ymgeiswyr sy'n cael prydau ysgol am ddim a / neu lwfans cynnal a chadw addysgol ac ymgeiswyr sydd wedi treulio amser mewn gofal). Gellir defnyddio'r wybodaeth hon adeg cadarnhad (canlyniadau arholiadau'r haf) i helpu i wneud penderfyniadau os nad yw ymgeiswyr wedi llwyr fodloni telerau eu cynnig.
Bydd y Brifysgol yn adolygu’r polisi uchod ar ddiwedd pob cylch derbyniadau.