UCAS Extra 2023

Os ydych wedi defnyddio pob un o’r pum dewis ar eich cais, ac nad oes gennych unrhyw gynigion, gallwch ddod o hyd i le gan ddefnyddio UCAS Extra rhwng 23 Chwefror a 4 Gorffennaf.


UCAS Extra

Clirio 2023

Os nad oes gennych unrhyw gynigion ar 5 Gorffennaf, byddwch yn gallu gwneud cais trwy Clirio.

Clirio ym mhrifysgol Bangor

Sut i wneud cais

I wneud cais am le mewn prifysgol mae'n rhaid i chi wneud cais trwy UCAS a fydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i'r prifysgolion a restrwyd.

Gallwch wneud cais am hyd at bum cwrs ond cofiwch y bydd yr un ffurflen gais a'r un datganiad personol yn mynd i'r 5 dewis.

UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.

Côd UCAS Prifysgol Bangor yw B06.

Gwneud cais drwy UCAS

Pryd i wneud cais ar gyfer 2024

Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted ag y gallwch gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion ar unwaith.

Ar gyfer mynediad 2024, dyddiad cau cychwynnol UCAS yw 31 Ionawr 2024, fodd bynnag rydym yn croesawu ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau a dderbynnir rhwng 31 Ionawr a 30 Mehefin yn parhau i gael eu hanfon ymlaen at brifysgolion gan UCAS a byddant yn cael eu hystyried pan fydd lleoedd ar gael o hyd.

Bydd angen i chi gael eich cais i mewn erbyn 16 Hydref 2023 os ydych chi'n gwneud cais i Rydychen, Caergrawnt a'r rhan fwyaf o gyrsiau mewn meddygaeth, deintyddiaeth, a meddygaeth filfeddygol/gwyddoniaeth.

 

Arweiniad 7 cam ar sut i wneud cais am gwrs israddedig

To get started, you’ll need to set up your UCAS Hub account with UCAS (University and Colleges Admissions Service) – the organisation that manages applications to all UK universities. You can start your application from UCAS Hub.

GWNEUD CAIS

Edrychwch ar y cyrsiau sydd ar gael ar wefan y Brifysgol.

Darganfod cwrs

Dylid ystyried yr isod wrth ddewis eich cwrs a’ch prifysgol:

  • Beth yw’r modiwlau gofynnol a dewisol sydd ar gael?
  • Ydych chi’n gallu gwneud blwyddyn dramor neu blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o’r cwrs?
  • Ydych chi’n hoffi’r llety?
  • Ydi’r bywyd myfyriwr yn apelio atoch yn nhermau'r clybiau a chymdeithasau sydd ar gael, lleoliad a chyfleusterau?

Yn eich cyfrif UCAS, gallwch safio'r cyrsiau rydych â diddordeb ynddynt trwy glicio ar yr icon siâp calon ar wefan UCAS. Bydd y rhestr yma yn cael ei gadw mewn un lle fel eich bod yn gallu mynd yn ôl i edrych arnynt fel y mynnwch.

Cewch wneud hyd at 5 cais. Gall hynny fod yn hyd at 5 cwrs gwahanol i’r un brifysgol neu'r un cwrs mewn hyd at 5 prifysgol wahanol.

Gwnewch hyn cyn gynted â phosib ym Mehefin / Gorffennaf fel eich bod yn gallu troi at ymchwilio eich opsiynau cwrs. Pan fyddwch wedi creu eich rhestr fer, byddwch wedyn yn barod i wneud eich cais.

Fel rhan o’ch proffil ar UCAS, bydd angen i chi ysgrifennu eich datganiad personol. Mae hyn yn rhan bwysig o’r broses ymgeisio.

Dyma eich cyfle i berswadio’r brifysgol y dylent eich derbyn chi ar y cwrs. Cewch ond 4,000 llythyren i egluro pam rydych wedi dewis y cwrs a’r sgiliau neu brofiad sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio ar lefel prifysgol.

I ysgrifennu datganiad personol gwerth chweil, dylech fod efo dealltwriaeth o’r cwrs a’r pwnc byddwch yn ei astudio. Cofiwch eich bod yn ysgrifennu un datganiad personol ar gyfer eich 5 dewis felly mae angen gwneud yn saff bod eich cyrsiau yn rhai tebyg a sicrhau nad ydych yn cyfeirio at unrhyw un o’r cyrsiau na unrhyw brifysgol yn benodol yn y datganiad personol.

Cyngor ar sut i ddrafftio Datganiad Personol a gwylio fideo

Ewch dros eich cais a gofynnwch i rywun arall edrych drosto hefyd - gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud cais am y cwrs cywir yn y brifysgol gywir.

Byddwch angen geirda gan eich athro/athrawes, cynghorydd neu rywun sy’n eich adnabod yn academaidd neu’n broffesiynol.

Pan rydych yn hapus gyda’ch cais, talwch ffi UCAS ar-lein gyda cherdyn debyd neu gredyd a phwyswch y botwm i gyflwyno eich cais!

Bydd yr holl brifysgolion rydych wedi cyflwyno cais iddynt yn ystyried eich cais ac yn ymateb – fel arfer gyda cynnig amodol (y graddau mae’r brifysgol isio chi eu cyflawni) neu cynnig diamod.

Gwneud cais nawr

2il

o ran y Prifysgolion Gorau yng Nghymru

The Student Crowd 2022

3ydd

am neuaddau a llety myfyrwyr

Gwobrau What Uni? 2023

5ed

am ddarlithwyr ac ansawdd addysgu

Gwobrau What Uni? 2023

2il

yng Nghymru ac yn yr 20 uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr

Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd

Dulliau eraill o ymgeisio

Weithiau nid yw eich llwybr i'r Brifysgol yn un draddodiadol. Dyma fwy o ddulliau ymgeisio...

Dulliau eraill o ymgeisio

Weithiau nid yw eich llwybr i'r Brifysgol yn un draddodiadol. Dyma fwy o ddulliau ymgeisio...

Cysylltu

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?