Fy ngwlad:
SOS student cruise thanks to Cronfa Bangor

Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn mordaith ymchwil

SOS student cruise thanks to Cronfa Bangor

 

Mae hwn yn brofiad sydd wir am ddylanwadu ar fy astudiaethau a dylanwadu ar ba ymchwil dwi eisiau bod yn rhan ohono yn y dyfodol ym maes symudedd a suddfannau carbon. Diolch yn fawr iawn i'r cyn-fyfyrwyr sydd wedi cyfrannu at Gronfa Bangor er mwyn gwneud hyn yn bosib.

Peggy Gordon, Myfyrwyr Bioleg Môr ac Eigioneg (BSc)

 

Trwy gael profiad ymarferol o’r fath fe wnes i ddysgu cymaint. Roedd o wir yn brofiad gwerth chweil. Ro’n i’n cael cymhwyso cysyniadau a thechnegau dwi’n eu hastudio fel rhan o fy ngradd israddedig a’u gweld nhw ar waith mewn project ymchwil go iawn.”

Hijab Fatima, Myfyrwyr Bioleg Môr ac Eigioneg (BSc)
 

 


Mi ges i brofiad o wneud gwaith ymarferol yn y labordy yn hidlo samplau ar gyfer arbrofion lle roedd gronynnau, lipidau a chloroffyl yn cael eu rhoi mewn daliant, a phrofiad gwerthfawr yn casglu a phrosesu data arsylwadol ar y môr. Wrth dreulio amser ar y môr fe ges i ddealltwriaeth llawer gwell o'r heriau ymarferol sy'n gysylltiedig ag ymchwil eigionegol ac mae wedi bod yn andros o ddefnyddiol i ddatblygu fy hyder a fy sgiliau ymarferol fel eigionegydd ar ddechrau fy ngyrfa.

Jazmine Cowlin, Myfyrwyr Eigioneg Ffisegol (MSc)
 

Heblaw am yr ochr dechnegol, y peth mwyaf gwerth chweil oedd gweld sut mae ymchwil sy’n cael ei wneud ar raddfa fawr yn y byd go iawn yn gweithio, efo gwyddonwyr o nifer o sefydliadau gan gynnwys Cefas, y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, PML, Coleg Imperial Llundain a phrifysgolion Bangor, Leeds a Heriot-Watt, yn gweithio fel tîm ac yn rhannu’r un nodau.

Louie O’Brien, Myfyrwyr Diogelu Amgylchedd y Môr (MSc)

Logo Cronfa Bangor
Bangor Fund allocation news

The Bangor Fund

Mae Cronfa Bangor yn ddibynnol ar roddion gan gyn-fyfyrwyr, a chaiff ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Ei nod yw cefnogi cyfleoedd fel hyn i wella dysgu, datblygiad a rhagolygon gyrfa myfyrwyr y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.