Ymunwch â ni am gyngerdd arbennig i anrhydeddu David Cousins, y canwr-gyfansoddwr hynod a sefydlydd y band Strawbs. Bydd y gwesteion arbennig iawn Blue Weaver (Amen Corner, Strawbs, y Bee Gees), Cathryn Craig (the Righteous Brothers) a Brian Willoughby (Strawbs, Mary Hopkin) yn ymuno â Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor a Chôr Siambr Prifysgol Bangor i ddathlu caneuon oesol David a helpodd i ddiffinio roc gwerin Prydeinig.
Bydd holl elw'r cyngerdd yn cefnogi Ysgoloriaeth Gerddoriaeth David Cousins ym Mhrifysgol Bangor.
Tocynnau o https://www.pontio.co.uk/cy/digwyddiadur/david-cousins