Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r holl bolisïau cyffredinol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chydraddoldeb, i'w gweld ar dudalennau gwe Adnoddau Dynol fodd bynnag, mae'r adran hon yn cynnwys y Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac addewidion a datganiadau sy'n gysylltiedig â Chydraddoldeb.
Gwrthsemitiaeth
Ym mis Hydref 2020, mabwysiadodd Pwyllgor Gwaith Prifysgol Bangor ddiffiniad gweithredol Cynghrair Cofio'r Holocost (IHRA) o wrthsemitiaeth yn llawn, ynghyd â'r eglurhad a argymhellwyd gan y Pwyllgor Dethol Materion Cartref yn 2016 i amddiffyn rhyddid i lefaru.
Mae diffiniad IHRA yn offeryn defnyddiol ar gyfer deall sut mae gwrthsemitiaeth yn amlygu ei hun yn ein cymdeithas. Bydd yn cael ei ddefnyddio fel prawf i ganfod a yw ymddygiad sy'n torri rheolau'r Brifysgol yn wrthsemitig.
Mae'r Brifysgol yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddyletswyddau cyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010 sef:
- Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ym mhob ffurf.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt.
- Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt.
Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth gwrthsemitiaeth i reolwyr cymorth wedi'i ymgorffori yn y gweithdy hanner diwrnod 'Cydraddoldeb i Reolwyr'.
Nid yw mabwysiadu'r diffiniad hwn yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar ymrwymiad y Brifysgol i ryddid meddwl a mynegiant, fel y nodir yng Nghod Ymarfer y Brifysgol ar Ryddid Lleferydd.
Menopos
Gellir dod o hyd i wybodaeth y Brifysgol i gefnogi staff trwy'r menopos ar y dudalen we Iechyd a Diogelwch.
Polisi Perthnasoedd Personol ar gyfer Staff a Myfyrwyr
Asesiad Risg ar gyfer y Brifysgol Gyfan – Atal Aflonyddu Rhywiol
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, parchus a chynhwysol, sy'n rhydd rhag aflonyddu rhywiol. Mae'r Asesiad Risg hwn ar gyfer y Brifysgol gyfan yn nodi risgiau posibl o aflonyddu rhywiol ar draws ein gweithgareddau a'n hamgylcheddau gwaith, yn ogystal â'r mesurau sydd ar waith i'w atal, ymateb yn effeithiol i bryderon, a diogelu staff a myfyrwyr. Mae'n cefnogi ein rhwymedigaethau cyfreithiol a'n hymrwymiad parhaus i feithrin diwylliant lle caiff pawb eu trin ag urddas a pharch.