Fy ngwlad:
Image of graduation ceremony

Cheryl Foster a Hanan Issa ymhlith naw a fydd yn cael eu hanrhydeddu gan Brifysgol Bangor

Cheryl Foster MBE 

Am gyfraniad at Lwyddiannau ym Myd y Campau, dyfernir Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth (DSc er Anrhydedd) i Cheryl Foster MBE, dyfarnwraig a chyn chwaraewraig bêl-droed i dîm rhyngwladol merched Cymru. 

Mae Cheryl Foster MBE yn ffigwr arloesol ym myd y campau yng Nghymru ac wedi rhagori fel chwaraewraig a dyfarnwraig, gan oresgyn y rhwystrau a’i hwynebai mewn maes sydd, yn draddodiadol, wedi'i ddominyddu gan ddynion. Dechreuodd ar ei gyrfa eithriadol yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Bangor, cyn mynd ymlaen i chwarae i rai o glybiau amlycaf y Deyrnas Unedig, gan gynnwys tîm merched Clwb Pêl-droed Lerpwl. Mae’n gyn-chwaraewraig ryngwladol i dîm merched Cymru gan gael 63 o gapiau a gwneud cyfraniad pwysig o ran codi proffil pêl-droed merched. Wrth bontio i fyd dyfarnu, hi oedd y Gymraes gyntaf i ddyfarnu yng ngemau Cwpan Pêl-Droed Merched y Byd FIFA, a chafodd ei dewis i ddyfarnu rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA yn 2023. Mae’n eiriolwraig angerddol dros gydraddoldeb, dros ddatblygiad y gêm ar lawr gwlad, a thros gael merched i arwain ym myd y campau. Mae Cheryl hefyd yn gyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, a hynny deirgwaith (HND Gwyddor Chwaraeon 2003, BSc Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol 2005, Tystysgrif Ôl-radd Addysg Gorfforol 2006), ac mae’n esiampl wych o ymroddiad ac o ddysgu gydol oes. 

Hanan Issa 

Am gyfraniad at Ddiwylliant, Iaith, Cerddoriaeth a'r Celfyddydau yng Nghymru dyfernir Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Llên (DLitt er Anrhydedd) i Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru. 

Bardd, gwneuthurwr ffilmiau, sgriptwraig ac artist Iraci-Gymreig yw Hanan Issa a hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd - y Mwslim cyntaf i gael ei hanrhydeddu â’r teitl. Cafodd ei phenodi yn dilyn enwebiad cyhoeddus a phroses ddethol drylwyr. Mae’n ymhyfrydu yn nhraddodiad canu ar y gynghanedd yn Gymraeg a’i nod yw ehangu ymgysylltiad pobl â barddoniaeth. Mae ei gwaith yn ymdrin â themâu hunaniaeth, perthyn a natur. Mae’n llenor amryddawn. Hi ysgrifennodd a chyfarwyddo The Golden Apple (2022) a chyfrannodd at y rhaglen We Are Lady Parts ar Channel 4. Mae ei gwaith hefyd wedi ymddangos mewn blodeugerddi o bwys, gan gynnwys Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales a Just So You Know: Essays of Experience, sy’n gyfrol yr oedd yn gyd-olygodd arni. 

Yr Athro Pedr ap Llwyd PLSW 

Am gyfraniad at Ddiwylliant, Iaith, Cerddoriaeth a'r Celfyddydau yng Nghymru dyfernir Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Llên (DLitt er Anrhydedd) i’r Athro Pedr ap Llwyd PLSW, Cyn Brif Swyddog Gweithredol a Llyfrgellydd Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  

Mae'r Athro Pedr ap Llwyd, cyn Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o wneud gwybodaeth, diwylliant a threftadaeth yn fwy hygyrch i bobl ledled Cymru. Hyrwyddodd brojectau digideiddio ac allgymorth mawr, gan helpu i drawsnewid y Llyfrgell i fod yn adnodd cenedlaethol agored a chynhwysol. Graddiodd o Brifysgol Bangor (BA Cymraeg 1983, Diploma Gweinyddu Archifau 1984, MA Gweinyddu Archifau 2002) ac mae wedi meithrin cysylltiadau cryf â'r Brifysgol ac wedi cefnogi ymchwil i ddiwylliant Cymru. Mae ganddo gysylltiad dwfn â gogledd Cymru ac mae ei waith diweddar gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn dangos ei ymroddiad i'r rhanbarth, gan gynnwys ei gefnogaeth i brojectau treftadaeth allweddol yn Llanberis a Bethesda. 

Sharon Manning MBE 

Am Wasanaeth Cyhoeddus dyfernir Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth (DSc er Anrhydedd) i Sharon Manning MBE, Cyn-nyrs arbenigol canser gyda Macmillan. 

Mae Sharon Manning, sy'n dod o Swydd Gaerhirfryn yn wreiddiol, wedi ymroi i'r GIG yng Nghymru ers dros 30 mlynedd. Dechreuodd ar ei gyrfa fel glanhawraig yn Ysbyty Glan Clwyd yn 1989, ac aeth ymlaen i fod yn Nyrs Arbenigol Oncoleg Gynaecoleg gyda Macmillan. Yn y flwyddyn 2000 cafodd ei hysbrydoli i gymhwyso fel nyrs a daeth i hyfforddi ym Mhrifysgol Bangor (BN Nyrsio 2004) ac yn ddiweddarach arloesodd mewn defnyddio Draen Roced, sef gwasanaeth a olygai fod cleifion canser yn gallu rheoli eu symptomau gartref. Arweiniodd y arloesi hwnnw at drawsnewid gofal lliniarol a chafodd y dull hwnnw ei fabwysiadu ledled gogledd Cymru. Derbyniodd Sharon Gymrodoriaeth a Gwobr Arloesi Macmillan yn 2017 a bu iddi ymddeol yn 2022 ar ôl blynyddoedd o ddarparu gofal tosturiol, claf-ganolog. 

Gwyn Lewis Williams 

Am gyfraniad at Ddiwylliant, Iaith, Cerddoriaeth a'r Celfyddydau yng Nghymru dyfernir Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Cerddoriaeth (DMus er Anrhydedd) i’r Cyfarwyddwr Cerdd Gwyn Lewis Williams. 

Mae Gwyn Lewis Williams yn gyn-fyfyriwr (MA Cerddoriaeth 1970) ac yn gyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac mae wedi cael gyrfa nodedig yn y byd celfyddydol ers dros 50 mlynedd. Bu’n drympedwr proffesiynol ac yn uwch gynhyrchydd cerddoriaeth i’r BBC ac mae wedi arwain sefydliadau mawr gan gynnwys Theatr Ardudwy, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, a Tŷ Cerdd. Fel Cyfarwyddwr Cerdd gyda Chantorion Menai ers 2017, mae wedi ehangu ei repertoire ac wedi datblygu cydweithrediadau gydag ensemblau lleol blaenllaw. Mae’n arweinydd angerddol ac yn lladmerydd brwd dros gerddoriaeth o Gymru ac mae wedi comisiynu a pherfformio gweithiau newydd ac wedi mentora talent ifanc a hyrwyddo cyfansoddwyr o Gymru.  Yn y brifysgol yn ddiweddar, bu’n arwain The Dream of Gerontius gan Edward Elgar, lle roedd 180 o gantorion, Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor, ac unawdwyr rhyngwladol yn cymryd rhan. Mewn sgwrs cyn y cyngerdd gyda Syr Terry Waite tynnwyd sylw at yr effaith fawr y mae’r gwaith hwnnw wedi ei gael, gan adlewyrchu ymrwymiad Gwyn i gynnig profiadau cerddorol sy’n ysbrydoli yng ngogledd Cymru. 

Toby Dixon 

Am wasanaethau i Fusnes ac Entrepreneuriaeth dyfernir Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gweinyddiaeth Busnes (DBA er Anrhydedd) i Toby Dixon, Sylfaenydd a Phartner Rheoli Growth Fund 1. 

Mae Toby Dixon yn gyn-fyfyriwr yn y brifysgol (BA Busnes a Marchnata 2002) ac mae wedi gwneud gyrfa lwyddiannus iddo ei hun ym maes entrepreneuriaeth gynaliadwy, llawn effaith. Ef sefydlodd Marlin Green, cwmni recriwtio rhyngwladol gwerth £30+ miliwn, gan wasanaethu fel Prif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd y cwmni. Mae Toby bellach yn buddsoddi mewn mentrau sy'n hyrwyddo lles gweithwyr ac arloesedd amgylcheddol ar draws sectorau megis gwefru cerbydau trydan, rheoli dŵr, a maeth personol. Mae'n cefnogi mentrau cymdeithasol megis Syntherix, sef cyffur canser sydd mewn treialon clinigol, ac roedd yn fuddsoddwr cynnar yn Flight Fund Steven Bartlett. Cronfa ecwiti preifat unigryw yw ei fenter ddiweddaraf, sef Growth Fund 1, sy'n cefnogi busnesau sy’n cael eu harwain gan eu sylfaenwyr ac sy'n canolbwyntio ar gyfleoedd cynaliadwy, twf uchel lle mae potensial ariannol cryf. 

Yr Athro David T Jones 

Am Gyfraniad Rhanbarthol dyfernir Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Meddygaeth (MD er Anrhydedd) i’r Athro David T Jones, Cyn Reolwr Cyffredinol Awdurdod Iechyd Clwyd.  

Mae perthynas yr Athro David T Jones â Phrifysgol Bangor yn hirsefydlog gan mai ef oedd Cymrawd er Anrhydedd cyntaf y Brifysgol yn 1988. Bu’n feddyg teulu ac yn uwch-weinyddwr i’r gwasanaeth iechyd a gwnaeth gyfraniad allweddol i’r gwaith o ddatblygu ysbytai cymunedol a gwella gwasanaethau i bobl ag anawsterau dysgu. Chwaraeodd ran greiddiol yn y prosesau cynllunio ac ymgynghori pan sefydlwyd Ysbyty Glan Clwyd ac roedd ganddo enw da am ei ymwneud cyson â meddygon teulu lleol. Bu’n gwasanaethu fel Prif Swyddog Meddygol ac yn ddiweddarach fel Rheolwr Cyffredinol Awdurdod Iechyd Clwyd. Drwy roddion dyngarol i'r brifysgol, mae'r Athro Jones wedi sefydlu Cronfa Celfyddyd Gain Geltaidd David T Jones a Gwobr Bydwreigiaeth Eleanor Henderson Pearson, er cof am ei ddiweddar fam. 

Dr Keith Hiscock MBE 

Am Ysgolheictod ac Arloesedd Eithriadol, dyfernir Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth (DSc er Anrhydedd) i’r Cadwraethwr Morol Dr Keith Hiscock MBE. 

Mae Dr Keith Hiscock wedi bod yn ysgogwr di-ildio ym maes cadwraeth forol yn y Deyrnas Unedig ers dros 50 mlynedd. Dechreuodd ar ei waith arloesol ym meysydd Ardaloedd Morol Gwarchodedig, monitro rhywogaethau, a chynefinoedd tanddwr wrth astudio am ddoethuriaeth (Bioleg Forol 1976) ym Mhrifysgol Bangor (Coleg Prifysgol Gogledd Cymru bryd hynny). Mae’n ddeifiwr a ffotograffydd tanddwr medrus ac mae wedi cyhoeddi dros 90 o bapurau gwyddonol a sawl cyfrol ddylanwadol. Mae wedi arwain rhaglenni cenedlaethol ar fioamrywiaeth forol ac wedi cynghori cyrff y llywodraeth, gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio polisi morol. Dyfarnwyd MBE iddo yn 2023 ac mae Keith yn parhau i ysbrydoli gwyddonwyr morol trwy ei ymchwil, ei arweinyddiaeth a'i ymrwymiad i amgylchedd morol y Deyrnas Unedig.  

Alison Field 

Am Wasanaeth Cyhoeddus dyfernir Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth (DSc er Anrhydedd) i Alison Field, Llywydd a Chadeirydd y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol.  

Yn 2024, daeth Alison Field yn 77fed Llywydd a Chadeirydd y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol, gan nodi penllanw gyrfa nodedig dros 50 mlynedd yn gweithio yn y diwydiant coedwigaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Roedd ar flaen y gad fel merch yn y proffesiwn pan raddiodd o Fangor (BSc Coedwigaeth 1978) a hi yw un o'r ychydig ferched sydd wedi cyrraedd y brig yn y diwydiant. Mae wedi arwain sefydliadau megis y Comisiwn Coedwigaeth, National Forest, English Woodlands Forestry Ltd, a sawl sefydliad allweddol arall. Mae gan Alison enw da am ei hymrwymiad i amrywiaeth, gwasanaeth cyhoeddus a mentergarwch, ac mae wedi gwneud argraff barhaol ledled y Deyrnas Unedig, ac wedi gwneud cyfraniadau nodedig i reolaeth coetiroedd yng Nghymru a thu hwnt.