Rheolwr Gwaith Achos Myfyrwyr yn dod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol

Llongyfarchiadau i Helen Munro, Rheolwr Gwaith Achos Myfyrwyr yn yr Uned Gwella Ansawdd, sydd wedi derbyn gwobr fawreddog Y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol gan Advance HE.
Mae cynllun Y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol yn cydnabod ac yn gwobrwyo unigolion - staff academaidd a phroffesiynol - sydd wedi cael effaith sylweddol a pharhaol ar lwyddiant myfyrwyr a'r proffesiwn addysgu. Rhaid i’r rhai sy’n derbyn gwobrau ddangos rhagoriaeth mewn addysgu, arweinyddiaeth y tu hwnt i’w swydd, ac ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol parhaus sy’n gwella addysgu, dysgu a phrofiad myfyrwyr.
Ymunodd Helen â Phrifysgol Bangor yn 2007 fel Rheolwr Gwirfoddoli Myfyrwyr, gan arwain projectau cymunedol dan arweiniad myfyrwyr. Ers hynny mae hi wedi dangos rhagoriaeth mewn profiad myfyrwyr ac yn ein darpariaeth o hynny. Yn 2017, daeth yn Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr, gan gefnogi myfyrwyr yr effeithiwyd arnynt gan gamymddwyn rhywiol, trais ac aflonyddu. Mae ei hymroddiad a'i hymrwymiad i hyrwyddo materion sy’n ymwneud â chamymddwyn rhywiol, trais ac aflonyddu wedi codi ymwybyddiaeth ac wedi sbarduno newid sefydliadol. Cafodd ei dyrchafu yn 2024 i Reolwr Gwaith Achos Myfyrwyr, ac mae Helen bellach yn goruchwylio materion sy’n ymwneud ag ymddygiad myfyrwyr ac yn parhau i arwain mentrau a hyfforddiant sy’n gysylltiedig â chamymddwyn rhywiol, trais ac aflonyddu.
Mae gwaith Helen hefyd wedi cael ei gydnabod gan Undeb y Myfyrwyr a thrwy amrywiol wobrau mewnol, gan gynnwys y Gwobrau Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn 2023 a 2024, a'r Wobr Addysg a Phrofiad Myfyrwyr gystadleuol yn 2024.
Meddai Kathryn Harrison-Graves, Dirprwy Brif Weithredwr Advance HE, "Rydym yn falch dros ben o gyhoeddi gwobrau 2025 i'r rhai sydd ag ymrwymiad di-syfl i ragoriaeth addysgu.
“Mae’r Cymrodyr Addysgu Cenedlaethol a’r timau CATE newydd yn cynrychioli’r gorau ym maes addysg uwch yn y Deyrnas Unedig, gan ddangos arloesi, ymroddiad ac effaith nodedig ar ddysgu myfyrwyr. Mae eu cyflawniadau o fudd i'w sefydliadau ac maent hefyd yn ysbrydoli rhagoriaeth ar draws y sector cyfan. Mewn cyfnod o heriau digynsail i addysg uwch, mae'r gwobrau hyn yn dathlu grym trawsnewidiol addysgu a chydweithio rhagorol."
Dywedodd Sue Moss, Cofrestrydd Academaidd, “Mae Helen yn gydweithiwr eithriadol y mae ei harweinyddiaeth wrth gefnogi myfyrwyr yr effeithir arnynt gan gamymddwyn rhywiol, trais ac aflonyddu wedi cael effaith drawsnewidiol. Mae ei gwaith wedi cryfhau hyfforddiant staff ac ymwybyddiaeth sefydliadol, ac rydw i wrth fy modd yn gweld ei llwyddiannau’n cael eu cydnabod drwy dderbyn Y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol.”
Dywedodd yr Athro Nicky Callow, Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, “Rydw i wrth fy modd yn gweld ymroddiad Helen yn cael ei gydnabod drwy’r wobr fawreddog hon. Mae hi bellach yn ymuno â phum enillydd blaenorol Y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol yma ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r llwyddiant hwn yn adlewyrchu ein diwylliant cryf o werthfawrogi profiad myfyrwyr a dathlu rhagoriaeth ym Mangor, ac ar yr un pryd yn helpu i wella ein henw da yn genedlaethol.”
Dywedodd Helen Munro, “Mae’n anrhydedd enfawr derbyn Y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol. Mae cael fy nghyfrif ochr yn ochr ag enillwyr blaenorol o Brifysgol Bangor, sydd i gyd wedi gwneud cyfraniadau rhagorol a hollbwysig i addysgu a dysgu ym Mangor, yn deimlad llethol ac rydw i’n arbennig o falch o gynrychioli’r Gwasanaethau Proffesiynol ac amlygu'r gwaith hanfodol a wneir gan y timau rhagorol hyn.”
Dywedodd Dr Laura Grange, Arweinydd Gwobrwyo a Chydnabod Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor a chydlynydd cyfranogiad y Brifysgol yn y cynllun, “Hoffwn longyfarch Helen ar y gydnabyddiaeth nodedig a haeddiannol hon! Mae Helen yn aelod gwerthfawr o dîm y Gwasanaethau Proffesiynol, ac mae'r gydnabyddiaeth genedlaethol hon yn tynnu sylw nid yn unig at gyfraniad eithriadol Helen at wella canlyniadau myfyrwyr, ond hefyd at ysbryd cynhwysol y wobr – gan gydnabod bod rhagoriaeth mewn addysgu a chefnogi myfyrwyr yn ymestyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Trwy ei hymroddiad, ei harloesedd, a'i hymrwymiad diwyro i lwyddiant myfyrwyr, mae Helen yn enghraifft o'r rôl hanfodol y mae staff y Gwasanaethau Proffesiynol yn ei chwarae wrth lunio amgylchedd addysgol cadarnhaol a thrawsnewidiol.
Dyfarnwyd 61 Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol newydd yn 2025. Caiff yr holl enillwyr eu cydnabod am eu cyfraniad eithriadol i addysgu rhagorol, trawsnewid canlyniadau myfyrwyr, ac ysbrydoli cydweithwyr mewn addysg uwch.
Gallwch weld y rhestr lawn o enillwyr Y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol 2025 yma.