Dyfarnu Medal Singapore i'r Athro Laurence Williams am Wasanaeth Cyhoeddus
Mae'r Athro Laurence Williams OBE PBM FREng FLSW, Athro Sêr Cymru Polisi a Rheoleiddiad Niwclear a Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad y Dyfodol Niwclear, wedi cael ei anrhydeddu â medal Pingat Bakti Masyarakat (PBM) am wasanaeth cyhoeddus i gydnabod ei gyfraniadau sylweddol at ddiogelwch niwclear yn Singapore.
Cyflwynwyd y wobr yn ffurfiol i'r Athro Williams yn ystod seremoni wobrwyo genedlaethol 2025 a gynhaliwyd ddydd Sul, 16 Tachwedd yn Singapore, lle derbyniodd y fedal gan Tharman Shanmugaratnam, Arlywydd Gweriniaeth Singapore. Mae’r fedal am wasanaeth cyhoeddus yn un o anrhydeddau mwyaf y wlad, a ddyfernir i unigolion am wasanaeth cyhoeddus clodwiw yn Singapore.
Mae'r Athro Williams wedi cynghori llywodraeth Singapore ar ddiogelwch niwclear ers blynyddoedd lawer, gan gynnig arweiniad arbenigol ar fframweithiau rheoleiddio, diogelu rhag ymbelydredd a rheoli gwastraff ymbelydrol. Mae ei waith wedi helpu meithrin galluoedd Singapore mewn diogelwch niwclear a’r mesurau diogelwch sydd eu hangen i gefnogi'r asesiad o botensial technolegau ynni niwclear uwch i Singapore ac er mwyn i’r wlad ymateb i ranbarth sy'n ystyried defnyddio ynni niwclear. Yn gynharach eleni, cafodd ei benodi'n gadeirydd panel ymgynghorol diogelwch niwclear Singapore, gan atgyfnerthu ei rôl ymhellach fel cynghorydd dibynadwy yn y maes.
Wrth siarad ar ôl y seremoni, dywedodd yr Athro Williams, “Mae’n fraint derbyn y wobr hon a chael y cyfle i gefnogi ystyriaethau Singapore ar ddefnyddio ynni niwclear i gefnogi’r angen am ddiogelwch ynni a thrydan carbon isel yn y blynyddoedd i ddod. Rwy'n ddiolchgar i'm cydweithwyr a'm cymheiriaid yn Singapore am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth dros y blynyddoedd.”
Meddai’r Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil, "Mae cydnabyddiaeth yr Athro Williams yn tynnu sylw at effaith fyd-eang arbenigedd yn y Deyrnas Unedig mewn diogelwch niwclear. Mae ei gyfraniad at strategaeth genedlaethol Singapore yn enghraifft glir o sut mae ein cydweithwyr yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i fynd i'r afael â heriau gwyddonol a rheoleiddiol cymhleth.”