Ysgol Fusnes Albert Gubay yn Adnewyddu Gwobr Efydd Athena Swan
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay wedi llwyddo i adnewyddu ei Gwobr Efydd Athena Swan, gan gydnabod ei hymrwymiad parhaus i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol a meithrin amgylchedd cynhwysol i staff a myfyrwyr.
Mae Siarter Athena Swan yn fframwaith cenedlaethol sy’n cael ei gydnabod ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn addysg uwch. Mae adnewyddu’r wobr Efydd yn adlewyrchu cynnydd mesuradwy yn erbyn ymrwymiadau blaenorol, ynghyd â chynllun gweithredu cadarn, wedi’i seilio ar dystiolaeth, ar gyfer gwelliant parhaus.
Mae’r llwyddiant hwn yn tynnu sylw at gynnydd yr Ysgol mewn meysydd megis arweinyddiaeth gynhwysol, dilyniant gyrfa tryloyw, cefnogaeth i fyfyrwyr, a gwreiddio egwyddorion cydraddoldeb ar draws addysgu, diwylliant ac allgymorth.
Dywedodd Dr Siwan Mitchelmore, Uwch Darlithydd mewn Busnes a Rheolaeth:
“Mae adnewyddu ein Gwobr Efydd Athena Swan yn cydnabod y gwaith parhaus, wedi’i seilio ar dystiolaeth, sy’n digwydd ar draws yr Ysgol i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol i staff a myfyrwyr. Mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i greu amgylcheddau dysgu cynhwysol, dilyniant tryloyw, a sicrhau bod pawb yn ein cymuned yn cael y cyfle i ffynnu.”
Mae’r adnewyddu hwn yn dangos ymrwymiad parhaus Prifysgol Bangor i greu amgylchedd teg a chefnogol lle gall pob unigolyn lwyddo.