Mae rhaglen allgymorth arloesol dan arweiniad Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol ar ôl ennill Gwobr Cymdeithas Swyddogion Cyswllt Addysg Uwch (HELOA) am yr Arfer Gorau ym maes Ehangu Cyfranogiad, Allgymorth a Mynediad.
Mae'r wobr, a gyflwynwyd yng ngwobrau Cynhadledd Genedlaethol a Chinio Gala HELOA, ddydd Iau, 15 Ionawr, yn cydnabod llwyddiant project cydweithredol a gyflwynwyd ar y cyd â Rhaglen Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru. Nod y rhaglen honno yw codi dyheadau ac ehangu mynediad at addysg uwch ymhlith pobl ifanc o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol ar draws y rhanbarth.
Drwy gyflwyno plant i ofal iechyd a bywyd prifysgol mewn ffordd ddiddorol sy'n briodol i'w hoedran, mae'r project yn helpu i godi dyheadau dros yr hirdymor mewn cymunedau lle mae’r cyfraddau sy’n mynd yn eu blaenau i addysg uwch yn isel yn draddodiadol.
Mae’r gwaith arobryn yn troi o amgylch yr Ysbyty Tedi Bêr, sef gweithgaredd allgymorth dwyieithog lle mae disgyblion ysgolion cynradd yn dod i gyswllt â myfyrwyr meddygaeth. Trwy ddysgu’n rhyngweithiol a thrwy chwarae rôl, caiff y disgyblion eu hannog i weld mynd i brifysgol fel llwybr cyraeddadwy ac i weld gofal iechyd fel gyrfa bosibl yn y dyfodol.
Cafodd y project ei gyflwyno’n gyntaf yn Ysgol Llanllyfni, a chafodd y disgyblion brofiadau ymarferol sydd fel arfer yn cael eu cynnig i ddisgyblion hŷn, gan helpu i wneud meddygaeth ac addysg uwch yn bethau llai dirgel. Roedd mynd o’i chwmpas hi yn y fath fodd hefyd yn sicrhau bod y gweithgareddau’n cyd-fynd â chwricwlwm yr ysgol, gan ymgorffori’r dysgu o amgylch iechyd, llesiant a meithrin hyder.
Mae'r fenter hefyd wedi darparu manteision clir i’r myfyrwyr meddygaeth sy'n rhan o'r rhaglen, drwy roi cyfleoedd iddynt ddatblygu sgiliau ym meysydd cyfathrebu, arweinyddiaeth ac addysgu, a hynny wrth ymgysylltu â'r gymuned leol.
Dywedodd Dr Nia Jones, Dirprwy Bennaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, “Dan ni wrth ein boddau ein bod ni wedi ennill y wobr yma ac yn hapus iawn o gael rhannu llwyddiant menter yr Ysbyty Tedi Bêr. Mae gweithio ar y project yma wir wedi bod yn bleser ac mae'n tynnu sylw at gryfder y cydweithio rhwng Ymestyn yn Ehangach, myfyrwyr meddygaeth, meddygon preswyl paediatreg sy'n gweithio o fewn y GIG (yn enwedig felly ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr), Ysgol Llanllyfni, a staff clinigol a staff cefnogi o fewn y brifysgol.
“Mae’r bartneriaeth yma wedi arwain at ehangu cyfranogiad yn y maes meddygaeth mewn ffordd ystyrlon, wedi arwain at sefydlu Cymdeithas Ehangu Cyfranogiad a Chymdeithas Paediatreg i fyfyrwyr, ac mae mentrau allgymorth cynaliadwy dan arweiniad myfyrwyr wedi cael eu datblygu.
“O ganlyniad uniongyrchol i’r cydweithio yma efo Ymestyn yn Ehangach, mae project i ymgysylltu ag ysgolion bellach yn cael ei ymgorffori yn rhan o gwricwlwm meddygol yr ail flwyddyn. Drwy’r fenter honno, bydd myfyrwyr meddygaeth yn ymweld ag ysgolion i ysbrydoli plant ac i ddangos bod gyrfaoedd mewn meddygaeth a gofal iechyd yn gyraeddadwy iddyn nhw.
“Yn bwysig ddigon, bydd yr Ysbyty Tedi Bêr hefyd yn parhau, ac mae dau ddiwrnod arall wedi’u cynllunio yn ystod y flwyddyn academaidd yma, er mwyn parhau i ennyn diddordeb, ysbrydoli a chreu effaith.”
Dywedodd Paula Griffiths, Rheolwr y Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach, “Mae Ymestyn yn Ehangach yn hynod falch o’r llwyddiant hwn. Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth bwerus o'r rôl y mae allgymorth dwyieithog, ar sail lle, yn ei chwarae wrth gefnogi mynediad teg at addysg uwch yng Nghymru. Mae’r Ysbyty Tedi Bêr yn dangos sut y gall ymgysylltu cynnar a chadarnhaol godi dyheadau a helpu pobl ifanc o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i weld addysg uwch fel rhywbeth sydd wir o fewn eu cyrraedd.
“Rydym yn falch o gefnogi mentrau o’r fath sy’n cyflawni newid gwirioneddol a pharhaol ledled gogledd a chanolbarth Cymru.”
Meddai Peter Bridges, Pennaeth Ysgol Llanllyfni, “Llwyddodd y project yma i ddal sylw’r plant a thanio eu dychymyg o’r eiliad gyntaf. Fe wnaeth agor y drws i'r posibilrwydd fod yna ddyfodol yn y maes gofal iechyd i ddisgyblion oedd ddim efallai wedi ystyried y llwybr hwnnw erioed o'r blaen.
“Fel ysgol rydan ni’n falch iawn ein bod ni wedi cymryd rhan a dan ni’n gobeithio parhau â’r bartneriaeth, gan ddarparu mwy o gyfleoedd fel hyn i’n disgyblion yn y dyfodol. Llongyfarchiadau mawr i bawb fu’n rhan o gyflawni project mor ardderchog.”