Nod y bartneriaeth yw helpu'r cwmni cyflenwi pren i sydd wedi'i leoli ym Mangor i hybu refeniw a gwella elw trwy ddefnyddio gwell data, teclynnau digidol newydd, a systemau gwell ar draws y busnes.
Mae’r gwaith yn cael ei gyllido trwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP), sef rhaglen Innovate UK i alluogi busnesau i gael mynediad at ddatrysiadau arloesol, arbenigedd academaidd a thechnolegau newydd.
Bydd y bartneriaeth yn mynd i'r afael â un o brif heriau’r diwydiant cyflenwi pren, diwydiant sy'n parhau i ddibynnu'n helaeth ar ddulliau traddodiadol, cysylltiadau personol, a chofnodion papur. Gyda'i gilydd, bydd Snowdon Timber ac Ysgol Fusnes Albert Gubay yn cyflwyno uwch-ddadansoddeg data ac yn annog diwylliant o wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth ar draws y cwmni.
Dywedodd Jody Goode, Rheolwr-Gyfarwyddwr Snowdon Timber, “Mae’r bartneriaeth yma’n gyfle gwych i ni yn Snowdon Timber adeiladu’r systemau a datblygu’r data dan ni eu hangen i fedru parhau i dyfu. Wrth weithio efo Ysgol Fusnes Albert Gubay mi fydd gynnon ni fynediad at arbenigedd a fydd yn ein helpu ni i wella cywirdeb, symleiddio ein prosesau, a’n cefnogi ni i wneud gwell penderfyniadau ar draws y busnes. Dan ni’n falch ein bod ni’n cymryd y cam yma ac yn edrych ymlaen i gael gweld y manteision y bydd ein pobl ni a'n cwsmeriaid ni yn eu cael.”
Dywedodd Dr Chris Davies, sy’n ddarlithydd mewn rheolaeth yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, “Dan ni’n falch iawn o dderbyn y grant Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, ac yn edrych ymlaen at gael gweithio efo Snowdon Timber i’w helpu nhw i drawsnewid arferion traddodiadol y fasnach goed. Drwy gydweithio efo nhw byddwn ni’n cynhyrchu gwaith ymchwil y gallwn ni ei gyhoeddi ac y byddwn ni’n medru rhoi mewnwelediadau academaidd arloesol ar waith yn y diwydiant, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad ni i arloesedd sy'n cael effaith yn y byd go iawn.”
Chris Woods, Ymgynghorydd Trosglwyddo Gwybodaeth, Innovate UK: “Mae KTP yn annog effaith busnes drwy ddarparu mynediad at wybodaeth. Mae'r prosiect hwn yn cysylltu sefydliad rhanbarthol blaengar ag arbenigedd academaidd i gyflymu twf a chreu swyddi o safon. Rwy'n edrych ymlaen at weld y canlyniadau a'r effeithiau sy'n deillio o hyn yn y blynyddoedd i ddod.”