AHRC Doctoral Focal Award: Lles,Ysgrifennu Creadigol ac Ecolegau Lle mewn Ymarfer Cyfunol -Ysgoloriaeth wedi’i hariannu’n llawn
Mae’n bleser gan Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau Prifysgol Bangor gynnig efrydiaeth pedair blynedd wedi'i hariannu'n llawn. Mae'r efrydiaeth yn rhan o brosiect Lles, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), a fydd yn ariannu 28 o efrydiaethau ar draws prifysgolion Cymru. Bydd yr efrydiaeth hon yn dechrau ym mis Hydref 2026.
Trosolwg
Bydd yr Efrydiaeth Ddoethurol hon yn cefnogi project ymchwil creadigol ym maes barddoniaeth ecolegol sy'n integreiddio ymarfer ysgrifennu unigol â methodolegau cyfranogol, cymunedol i archwilio dimensiynau cyfunol lle. Mae'n cynnig cyfle cyffrous i siapio ymchwil ym maes ysgrifennu creadigol drwy roi lle blaenllaw i agweddau cymdeithasol trawsnewidiol ymarfer creadigol.
Er bod lles yn aml yn cael ei ddychmygu fel cyflwr preifat, mewnol neu seicolegol, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn cynnig cysyniad mwy eang, gan ei fframio fel un sydd wedi'i siapio gan ffactorau diwylliannol, materol, ecolegol a chymunedol a all gwmpasu profiadau cyfunol o dirwedd, adnoddau a rennir, stiwardiaeth amgylcheddol a gwytnwch cymunedol. Mae barddoniaeth ecolegol, fel maes rhyngddisgyblaethol sy'n dwyn ynghyd ysgrifennu creadigol a'r dyniaethau amgylcheddol, wedi dod yn gynyddol ymatebol i'r persbectif ehangach hwn.
Gyda ffocws canolog ar sut mae amgylcheddau naturiol penodol yng ngogledd Cymru yn cael eu profi a'u dehongli, bydd y project yn galluogi datblygu dulliau amrywiol, megis defnyddio cyfweliadau, teithiau cerdded, dulliau amlgyfrwng ac ymchwil rhyngddisgyblaethol i greu gwaith llenyddol sylweddol.
Ochr yn ochr â'r dimensiwn artistig hwn sy'n cael ei arwain gan ymarfer, bydd yr ymgeisydd yn ymgymryd ag archwiliad beirniadol parhaus o weithiau blaenorol sydd wedi galluogi ffyrdd newydd o ddeall lle, amgylchedd, a lles cymdeithasol ac ecolegol.
Byddai croeso cynnes i geisiadau sydd â diddordeb yn y ffordd y mae maes barddoniaeth ecolegol yn datblygu yn rhyngwladol ac yng Nghymru.
Gallai’r cwestiynau ymchwil posibl gynnwys y canlynol:
- Sut gall arferion barddoniaeth ecolegol gyfrannu at ffurfiau cyfunol o ymgysylltu amgylcheddol?
- Sut gall dulliau creadigol gefnogi cymunedau i fynegi profiadau a rennir o le?
- Sut gall arferion ysgrifennu ystyried rolau actorion nad ydynt yn ddynol?
- Sut gall gwaith creadigol ar y cyd lunio neu drawsnewid dealltwriaeth o les?
- Pa ffurfiau newydd o farddoniaeth neu gelf gyfranogol sy'n dod i'r amlwg pan roddir meddwl ecolegol yng nghanol ymarfer creadigol?
- Sut allai'r ffurfiau hyn ddylanwadu ar sgyrsiau diwylliannol ehangach am yr amgylchedd, cynaliadwyedd, a chyfrifoldeb i genedlaethau'r dyfodol?
Bydd y project yn cynnwys lleoliad o leiaf dri mis gyda Llenyddiaeth Cymru.
Tîm Goruchwylio
Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol yw Zoë Skoulding, sef y prif oruchwyliwr, ac mae’n fardd a beirniad arobryn. Hi yw Gyd-gyfarwyddwr CAInC, Canolfan Cydweithredu Rhyngddisgyblaethol y Celfyddydau Creadigol Prifysgol Bangor, ac mae’n weithgar mewn rhwydweithiau rhyngwladol ym meysydd barddoniaeth, sain a pherfformiad mewn cyd-destun ecolegol.
Mae barddoniaeth y cyd-oruchwyliwr, Dr Fiona Cameron, yn ymgysylltu â barddoniaeth ecolegol arloesol, ac mae hi'n rhan o gydweithrediad traws-gelfyddyd barhaus sy'n archwilio amser dwfn mewn lleoliad chwe erw arwahanol ac yn canolbwyntio ar gysyniadau o ran graddfa, deiliadaeth ddynol, a bywyd an-ddynol.
Bydd gan Dave Chadwick, Athro Systemau Defnydd Tir Cynaliadwy, rôl gynghorol yn y tîm. Mae ganddo arbenigedd sydd gyda’r gorau yn y byd mewn arferion amaethyddol cynaliadwy, lliniaru allyriadau nwyon tŷ gwydr, lleihau'r risg o drosglwyddo llygryddion i gyrsiau dŵr, a deall effeithiau eilaidd lliniaru llygredd amaethyddol gwasgaredig.
Lles
Consortiwm o holl brifysgolion Cymru yw Lles sy'n gweithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus a thrydydd sector Cymru. Bydd yn ariannu ac yn hyfforddi myfyrwyr PhD i ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â lles drwy'r celfyddydau a'r dyniaethau. Ystyr Lles yw ‘budd’ neu ‘llesiant’. Mae ei ddefnydd yma yn nodi sut y bydd myfyrwyr Lles yn elwa o hyfforddiant a datblygiad gyrfa a sut y bydd eu hymchwil ar les er budd cymdeithas ehangach yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Lles a'i efrydiaethau ymchwil yn cael eu harwain gan uchelgais, egwyddorion a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn unigryw yn fyd-eang ac yn rhwymo cyrff cyhoeddus Cymru i osod amcanion a chymryd camau i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn erbyn saith nod: ffyniant, gwytnwch, cydraddoldeb, iechyd, cymunedau cydlynol, diwylliant bywiog a'r Gymraeg, cyfrifoldeb byd-eang. Mae Lles yn ceisio defnyddio'r celfyddydau a'r dyniaethau i gyrraedd a deall y nodau hyn.
Bydd Lles yn ariannu 28 o ysgoloriaethau PhD dros 4 carfan. Bydd efrydiaethau Lles yn archwilio ac yn dangos sut y gall y celfyddydau a'r dyniaethau gyfrannu at blaned, pobl a lleoedd iach. Wrth wraidd y project mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cynlluniwyd y ddeddfwriaeth unigryw hon i wella lles a chynaliadwyedd pobl a lleoedd yng Nghymru. Nod sylfaenol Lles yw gweithio gyda'r weledigaeth honno a'i datblygu. Bydd holl fyfyrwyr y project yn derbyn hyfforddiant pwrpasol a ddarperir mewn cydweithrediad â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ynglŷn â'r Ddeddf, ei phum ffordd o weithio a sut y gellir eu defnyddio mewn bywyd cyhoeddus a pholisi. Bydd pob myfyriwr Lles yn ymgymryd â lleoliad parhaus gyda chorff cyhoeddus yng Nghymru lle byddant yn datblygu eu profiadau ymchwil a chyflogaeth.
Lleoliad
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr Lles ymgymryd â lleoliad sy'n para o leiaf dri mis.
Gweminar ymgeiswyr
Cynhelir gweminar i ymgeiswyr ar 3 Mawrth am 4pm. Bydd hwn yn gyfle i drafod project Lles a gofyn cwestiynau. I gofrestru ar gyfer y weminar, cwblhewch y ffurflen ganlynol YMA.
Meini Prawf Mynediad
I dderbyn cyllid efrydiaeth Lles, dylai bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr â chefndir academaidd anhraddodiadol wneud cais.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Lles wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau o’r gymuned fyd-eang, waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Asesiad
Gwahoddir ymgeiswyr a roddir ar y rhestr fer am gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau panel. Gellir cynnal cyfweliadau yn y cnawd, ond byddant hefyd ar gael trwy Zoom/Teams i unrhyw ymgeisydd sy'n dymuno cymryd rhan yn y ffordd honno. Os gofynnir, gellir cynnal cyfweliadau yn y Gymraeg.
Sut i wneud cais
Dylid derbyn ceisiadau ddim hwyrach na 27 Mawrth 2026 gan gynnwys yr holl ddogfennau gofynnol. Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbynnir, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.
Dylid cyflwyno pob cais YMA
Dylech gynnwys y dogfennau canlynol gyda'ch cais:
- CV - Gall hwn fod ar ffurf naratif, gan ddangos sut mae eich profiad bywyd, eich taith addysgol a/neu waith yn arddangos eich potensial
- Datganiad yn amlinellu eich diddordeb yn y project hwn, eich syniadau ar ei gyfer a pham rydych yn addas ar ei gyfer (uchafswm o 2 dudalen)
- Geirdaon academaidd neu broffesiynol (rhaid i ymgeiswyr gysylltu â’r canolwyr eu hunain a chynnwys geirdaon gyda'u cais. Rhaid i'r geirda fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd).
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (gan gynnwys cyfieithiadau os yn berthnasol)
- Os yw'n berthnasol, prawf o gymhwysedd iaith Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)
Cyllid
Mae'r efrydiaeth a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn cynnwys ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£21,805 ar hyn o bryd i fyfyrwyr llawn amser) ac mae'n cynnwys mynediad at grant cefnogi hyfforddiant ymchwil. Croesewir ceisiadau llawn amser a rhan amser. Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich efrydiaeth.