Mae Cwmni'r Brethynwyr yn un o gwmnïau lifrai hanesyddol dinas Llundain. Mae'r cwmni wedi bod yn gysylltiedig â Phrifysgol Bangor ers dros gan mlynedd, i ddechrau trwy grantiau sylweddol tuag at adeiladu rhai o brif adeiladau'r brifysgol, gan gynnwys y llyfrgell, labordai gwyddoniaeth a'r adran peirianneg drydanol. Heddiw, yn ogystal ag ariannu nifer o ysgoloriaethau a phrojectau PhD o fewn y brifysgol, mae Cwmni’r Brethynwyr hefyd yn dyfarnu dwy fedal bob blwyddyn i fyfyrwyr ymchwil rhagorol.
Mae'r gwobrau clodwiw hyn yn rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth myfyriwr i’r brifysgol a’r gymuned, a derbynwyr y medalau eleni oedd Rebecca Day a Lorna McKellar. Dyfarnwyd medalau i Rebecca a Lorna gan y Meistr Frethynwr Patrick Beddows yn ystod ymweliad blynyddol Cwmni’r Brethynwyr â Phrifysgol Bangor yn gynharach yr wythnos hon.
Derbyniodd Rebecca Day o’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau Fedal Arian y Brethynwyr.
Mae Rebecca yn gwneud ymchwil arloesol ar ddwyieithrwydd o fewn syndrom Rett. Fel rhan o hyn, mae wedi ymgymryd ag allgymorth trwy waith elusennol gyda RettUK, wedi cydweithio â'r Gymdeithas Ddysgedig, wedi gweithio gyda Senedd Cymru ac wedi ymgysylltu â'r cyfryngau a'r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth a chreu effaith gadarnhaol ar bobl sy’n byw â syndrom Rett a chyflyrau datblygiadol eraill.
O fewn y brifysgol, mae Rebecca hefyd wedi bod yn gynrychiolydd Ymchwil Ôl-radd eithriadol, gan wasanaethu fel cynrychiolydd myfyrwyr yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, gweithredu fel aelod o'r Grŵp Concordat a Datblygiad Ymchwilwyr, a Chyd-gadeirio Cylch Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor.
Dywedodd goruchwyliwr Rebecca, Dr Eirini Sanoudaki, sy’n Ddarllenydd mewn Ieithyddiaeth (Dwyieithrwydd), “Yn ystod fy 15 mlynedd fel Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor, nid wyf erioed wedi gweld Ymchwilydd Ôl-radd yn gwneud cyfraniad mor eithriadol trwy ymchwil a gwasanaeth effeithiol i’n cymuned. Mae Rebecca yn gweithio'n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o syndrom Rett ac i eirioli drosto, ac mae ei gwaith yn arwain at oblygiadau pwysig yn y byd go iawn o ran cynhwysiant. Mae gofal Rebecca yn ddiffuant, ac mae’n llawn haeddu’r gydnabyddiaeth hon.”
Dyfarnwyd medal Efydd Cwmni’r Brethynwyr i'r fyfyrwraig PhD Lorna McKellar, y mae ei thraethawd ymchwil yn dwyn y teitl “Setting thresholds for good status in marine ecosystem management”.
Cyhoeddwyd pennod ymchwil PhD gyntaf Lorna mewn cyfnodolyn effaith uchel ddechrau'r flwyddyn ddiwethaf, ac mae ei hail a'i thrydydd penodau ymchwil yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Mae hi wedi rhannu ei harbenigedd gyda Chyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgylchedd yng Nghomisiwn yr Undeb Ewropeaidd mewn cais am gyngor gan yr International Council for the Exploration of the Sea (ICES), ac mae wedi cael ei gwahodd i gyflwyno ei gwaith PhD gan sawl sefydliad gan gynnwys y Joint Nature Conservation Committee (JNCC), Sustainable Management for Marine Research (SMMR), a Phrifysgol Dechnegol Denmarc (DTU).
Enwebwyd Lorna gan yr Athro Jan Geert Hiddink, sy’n Athro mewn Bioleg Môr yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion, a ddywedodd, “Mae Lorna wedi gwella enw da Prifysgol Bangor yn sylweddol trwy gyflawniad eithriadol yn ystod PhD trawsddisgyblaethol sy’n pontio’r gwyddorau naturiol a gwyddorau cymdeithas. Mae Lorna eisoes wedi’i chydnabod yn rhyngwladol fel unigolyn sy’n arwain y wyddoniaeth o osod trothwyon o ran cyflwr amgylcheddol da”.
Dywedodd y Meistr Frethynwr Patrick Beddows “Rydym ni yng Nghwmni’r Brethynwyr wrth ein bodd yn cydnabod gwaith eithriadol Rebecca a Lorna gyda medalau eleni. Mae eu gwaith yn drawiadol iawn ac rydym yn edrych ymlaen at ddilyn eu cynnydd. Fel bob amser, roeddem wir wedi mwynhau ein hymweliad blynyddol â Phrifysgol Bangor ac rydym yn parhau i werthfawrogi ein perthynas hir â'r sefydliad.”
Yn ymuno a Lorna a Rebecca yn y cyflwyniad oedd Dirprwy Is-ganghellor Yr Athro Andrew Edwards, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Eigion, Yr Athro Stuart Jenkins, a'r Athro Ruth McElroy, Pennaeth Ysgol Celfyddydau, Diwylliant a Iaith.