Mae’r academydd blaenllaw wedi’i ethol yn Gymrawd o’r Academi Gwyddorau Cymdeithasol (FAcSS) fel rhan o garfan tymor y gwanwyn 2026.
Mae’r Academi wedi croesawu 74 o wyddonwyr cymdeithasol rhagorol i fod yn rhan o’r Gymrodoriaeth y gwanwyn hwn, gan gydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau pwysig i ymchwil, polisi ac ymarfer proffesiynol ar draws y gwyddorau cymdeithasol. Caiff Cymrodyr eu hethol drwy broses adolygu annibynnol gan aelodau’r Gymrodoriaeth. Mae’r gydnabyddiaeth yn cydnabod rhagoriaeth ac effaith gwaith y cymrydoryr wrth hyrwyddo’r gwyddorau cymdeithasol er budd y cyhoedd.
Mae’r penderfyniad i ethol yr Athro Michael Butler i fod yn Gymrawd yn adlewyrchu ei gyfraniad sylweddol at ymchwil ac arweinyddiaeth yn y maes, yn enwedig drwy ei waith yn archwilio newid gwleidyddol a chymdeithasol, llywodraethu rhanbarthol a pholisi cyhoeddus. Fel Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Rhanbarth ym Mhrifysgol Bangor, mae wedi chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu ymchwil sy’n cysylltu’r agwedd academaidd â llunio polisi ac ymgysylltu â chymunedau.
Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Butler: “Mae’n fraint cael fy ethol yn Gymrawd o’r Academi Gwyddorau Cymdeithasol, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Academi ac i’r rhai a’m henwebodd am eu cefnogaeth. Mae llawer o’r cymheiriaid dwi wedi eu hedmygu drwy gydol fy ngyrfa yn Gymrodyr o’r Academi, felly mae ymuno â’u rhengoedd yn anrhydedd gwirioneddol i mi. Mae llwyddiant mewn ymchwil bob amser yn ganlyniad cydweithio, ac rwy’n ffodus o fod wedi bod yn rhan o nifer o dimau rhagorol, pob un yn mynd i’r afael â her ymchwil wahanol ac ystyrlon.”
Dywedodd Llywydd yr Academi, Will Hutton FAcSS: “Rwy’n falch iawn o groesawu’r gwyddonwyr cymdeithasol blaenllaw hyn i Gymrodoriaeth yr Academi'r gwanwyn hwn. Mae eu cyfraniadau sylweddol wedi datblygu gwybodaeth a’n dealltwriaeth o amryw o heriau cymdeithasol, gan gynnwys gweithio gyda chymunedau brodorol yn yr Arctig er mwyn deall risg hinsawdd yn well. Rydym hefyd eisiau prosesau cof mewn cyd-destunau cyfreithiol, anghydraddoldebau cymdeithasol, polisi economaidd a mynd i’r afael â throseddau casineb. Edrychwn ymlaen at weithio â nhw i hyrwyddo rôl bwysig y gwyddorau cymdeithasol yn ein bywydau bob dydd.”
Mae Cymrodoriaeth yr Academi yn cynnwys tua 1,700 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw o’r byd academaidd, y llywodraeth, diwydiant a’r trydydd sector. Mae eu harbenigedd yn cwmpasu holl ehangder y gwyddorau cymdeithasol, ac yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymunedau, economïau a chymdeithasau yn y DU, ac yn rhyngwladol.
Mae’r Athro Butler yn ymuno â Chymrodyr a etholwyd o 39 o sefydliadau, gan gynnwys 35 o sefydliadau addysg uwch yn y DU ac yn rhyngwladol.